Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

 

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 234 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 14 Hydref 2020 fel rhai cywir  

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2020 fel rhai cywir.

 

5.

CYMERADWYO CYLLIDEB 2021/22 pdf eicon PDF 212 KB

 

I gymeradwyo cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22 ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi.

Penderfyniad:

Cymeradwyo Cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22 ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned  Buddsoddi

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn ymwneud a chais i’r Pwyllgor gymeradwyo cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021–2022, ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi.

 

Amlygwyd mai 2019/2020 oedd y tro cyntaf i’r gyllideb ar gyfer yr Unedau gael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Pensiynau am gymeradwyaeth a bod bwriad erbyn hyn i gyflwyno’r wybodaeth yn flynyddol. Addaswyd cyllideb 2019 /20 yn unol ag addasiadau i strwythur staff yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi - man addasiadau yn unig oedd i gyllideb 2021/22 gyda chyllidebau sylfaenol yn parhau'r un fath.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22 ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned  Buddsoddi

 

6.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2020/21 - ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN pdf eicon PDF 297 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad yn amlygu gwir weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Amlygwyd, yn ystod y chwe mis rhwng y 1af o Ebrill a 30 Medi 30ain 2020 bod gweithgarwch benthyca’r Cyngor wedi aros o fewn cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol ac nad oedd unrhyw fanciau lle'r oedd y Cyngor wedi adnau arian wedi methu ad-dalu. Ategwyd yr amcangyfrifir bod incwm buddsoddi’r Cyngor yn is nag incwm disgwyliedig cyllideb 2020/ 21.

 

Yng ngoleuni’r argyfwng pandemig a’r tebygolrwydd o alwadau annisgwyl ar y llif arian, amlygwyd bod y Cyngor wedi cadw mwy o arian parod ar fyr rybudd nag sy’n arferol. Cafodd arian parod hylif ei arallgyfeirio dros sawl gwrth bartïon a Chronfeydd Marchnad Arian i reoli risgiau credyd a hylifedd.

 

Eglurwyd bod £10m o fuddsoddiadau’r Cyngor mewn cronfeydd eiddo ac ecwiti cyfun strategol sydd yn cael eu rheoli yn allanol lle mae diogelwch a hylifedd tymor byr yn llai o ystyriaeth. O ganlyniad gwireddir yr amcanion drwy incwm refeniw rheolaidd a sefydlogrwydd prisiau hirdymor.

 

Adroddwyd bod y Cyngor yn mesur perfformiad ariannol ei weithgareddau rheoli trysorlys o ran ei effaith ar y gyllideb refeniw a’i berthynas â meincnod cyfraddau llog. Nodwyd bod Cyfradd Banc, a oedd yn 0.75% ym mis Chwefror, bellach yn 0.1%, ond bydd y llog a enillir o farchnadoedd arian dyddiedig byr yn sylweddol is. Tynnwyd sylw at y dangosyddion cyfraddau llog ac amlygwyd nad oedd y dangosydd risg ‘y terfyn uchaf ar effaith refeniw blwyddyn o gynnydd o 1% mewn cyfraddau llog’ yn cydymffurfio oherwydd effaith cyfraddau llog gwael.

 

Gyda rhagolygon gwan ac ansefydlog, adroddwyd bod y Cyngor yn buddsoddi  cymaint ag y gallent o fewn cyfnod heriol; yn parhau i wneud eu gorau i geisio enillion drwy wasgaru risg, ond hefyd yn gweithredu yn ofalus yn unol â chyngor Arlingclose.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r rhagolygon, amlygwyd bod yr adroddiad wedi ei ysgrifennu ym mis Medi 2020

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

7.

CRONFA BAILLIE GIFFORD GLOBAL ALPHA PARIS ALIGNED FUND pdf eicon PDF 262 KB

 

Gofyn i’r Pwyllgor Pensiynau gytuno i symud cronfa graidd Baillie Gifford i gronfa Baillie Gifford Global Alpha Paris Aligned.

Penderfyniad:

Cymeradwyo symud taliadau cyfredol Cronfa Graidd Baillie Gifford i Gronfa Alpha Paris Aligned Baillie Gifford sydd yn rhan o Gronfa Global Growth Partneriaeth Cymru yn unol â’r drafodaeth yn y Panel Buddsoddi ddiweddaraf

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi i geisio cymeradwyaeth y Pwyllgor i gytuno i symud cronfa graidd Baillie Gifford i gronfa Baillie Gifford Global Alpha Paris Aligned. Atgoffwyd yr Aelodau bod Baillie Gifford wedi cyflwyno gwybodaeth ar y Gronfa Alpha Paris Aligned mewn cyfarfod o’r Panel Buddsoddi 14 Hydref 2020. Eglurwyd bod y Gronfa Global Alpha Paris Aligned yn amrywiad carbon isel o’r model craidd ac yn cyd-fynd ag amcanion Cytundeb Paris ac egwyddorion buddsoddi Cronfa Bensiwn Gwynedd.

Ategwyd y byddai rhaid i’r holl gronfeydd pensiwn cyfansoddol sydd yn rhan o’r Gronfa Global Growth gytuno i’r trosglwyddiad. Unwaith bydd y cronfeydd wedi gwneud eu penderfyniad yn lleol, bydd penderfyniad swyddogol yn cael ei wneud gan y Cyd- bwyllgor. Adroddwyd bod hwn yn gam cadarnhaol ymlaen ac y byddai mwy o wybodaeth i ddilyn am welliannau pellach.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo symud taliadau cyfredol Cronfa Graidd Baillie Gifford i Gronfa Alpha Paris Aligned Baillie Gifford sydd yn rhan o Gronfa Global Growth Partneriaeth Cymru yn unol â’r drafodaeth yn y Panel Buddsoddi ddiweddaraf

 

8.

GOSOD AMCANION I YMGYNGHORWYR BUDDSODDI pdf eicon PDF 113 KB

 

Adrodd ar gynnydd yn erbyn amcanion cyfredol ac adolygu amcanion y dyfodol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’n ffurfiol amcanion osodwyd eisoes ar gyfer ymgynghorwyr buddsoddi’r Gronfa.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar y cynnydd yn erbyn yr amcanion cyfredol ynghyd a chais i’r Pwyllgor adolygu a chymeradwyo’r amcanion ar gyfer 2020/21. Adroddwyd, yn dilyn adolygiad o’r marchnadoedd ymgynghori buddsoddi a rheoli ymddiriedol bu i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd nodi’r angen i Ymddiriedolwyr Cronfeydd Pensiwn osod amcanion i’w ymgynghorwyr buddsoddi gan nodi yn glir yr hyn ddisgwylir ganddynt.

 

Cyfeiriwyd at yr amcanion cyfredol ynghyd a’r cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion hynny yn ystod 2019/20. Amlygwyd bod yr amcanion wedi bod yn weithredol ers Rhagfyr 2019, ond nad oeddynt wedi eu derbyn yn ffurfiol gan y Pwyllgor er i’r datganiad cydymffurfio fod wedi ei lofnodi gan Gadeirydd y Pwyllgor erbyn y dyddiad cau gofynnol (7fed o Ionawr 2021).

 

Adroddwyd bod Hymans yn cyflawni gwaith da, yn darparu adroddiadau cynhwysfawr ar gyfer y paneli buddsoddi, yn cynnig cyngor ymarferol, ymatebion a gohebiaeth amserol  ac yn perfformio yn unol â’r amcanion.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a gwnaed sylw y bydd disgwyl i’r amcanion gael eu cyflwyno yn flynyddol i’r Pwyllgor Pensiynau yn unol â gofynion y Ddeddf.

 

Cymerwyd y cyfle i ddiolch i Mr Paul Potter o gwmni Hymans am ei gyngor a’i gefnogaeth i’r Gronfa Bensiwn dros y 12 mlynedd ddiwethaf. Dymunwyd ymddeoliad hapus iddo.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’n ffurfiol amcanion a osodwyd eisoes ar gyfer ymgynghorwyr buddsoddi’r Gronfa.

 

9.

RHEOLIADAU TALIADAU YMADAEL Y SECTOR CYHOEDDUS 2020 pdf eicon PDF 283 KB

 

I ystyried adroddiad y Rheolwr Pensiynau

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad, er gwybodaeth gan y Rheolwr Pensiynau yn rhoi diweddariad ar y rheoliadau cyfyngu taliadau ymadael a ddaeth i rym ar y 4ydd o Dachwedd 2020. Tynnwyd sylw yn yr adroddiad at effaith yr addasiadau diweddar ar weithwyr y sector gyhoeddus ac at ddiwygiadau (drafft) pellach mae’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi eu cynnig bydd yn debygol o ddod i rym Gwanwyn 2021.

 

Amlygwyd bod yr addasiadau yn creu dryswch a phwysau gwaith ychwanegol ac mewn ymateb i’r ffactorau cenedlaethol hyn bod darparwr meddalwedd weinyddol y Gronfa yn gorfod diweddaru’r system i gyfrifo’r opsiynau newydd.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol:

 

·         Bod rheoliadau taliadau ymadael yn faes cymhleth a thechnegol iawn

·         Bod y penderfyniad allan o ddwylo’r Awdurdod ac felly dim dewis ar y mater

 

Mewn ymateb i sylw, na fydd y cap talu ymadael yn gysylltiedig â mynegai, a fydd y cap felly yn debygol o gael ei adolygu, nodwyd na fydd unrhyw addasiad nag adolygiad pellach i hyn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a fydd modd defnyddio cyfandaliad i osgoi terfyn y cap, nodwyd petai newidiadau pellach i’r rheoliadau yna bydd posib defnyddio’r cyfandaliad i dderbyn lleihad budd-dal

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

10.

DATGANIAD POLISI CYFATHREBU NEWYDD pdf eicon PDF 371 KB

I dderbyn cymeradwyaeth y Pwyllgor i fabwysiadu y Datganiad Polisi Cyfathrebu newydd

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo mabwysiadu'r Datganiad Polisi Cyfathrebu newydd

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn gofyn i’r pwyllgor gymeradwyo Datganiad Polisi Cyfathrebu newydd. Eglurwyd bod rhaid  i'r Gronfa ddarparu, cynnal a chyhoeddi Datganiad Polisi Cyfathrebu yn unol â Rheoliad 67 o Reoliadau Gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL). Ategwyd bod rhaid i'r polisi cyfathrebu gael ei adolygu a'i ailgyhoeddi yn dilyn unrhyw newid mewn polisi. Yn dilyn amryw o newidiadau i ddulliau cyfathrebu diweddar diwygiwyd y datganiad i gynnwys dulliau cyfathrebu cyfredol gan ychwanegu defnydd Microsoft Teams, I-Connect a’r adnodd Hunanwasanaeth. Nodwyd nad oedd polisi Gwynedd wedi ei ddiweddaru ers 2010. Cyflwynwyd y datganiad polisi i’r Bwrdd Pensiwn 23.11.20 ac fe addaswyd y polisi yn unol â’u sylwadau.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyfathrebu gyda darpar Aelodau, nodwyd mai mater i bob cyflogwr fyddai nodi bod ymaelodi gyda’r cynllun yn un o fuddion y swydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod y datganiad polisi cyfathrebu yn gyson â chanllawiau Polisi Iaith Cyngor Gwynedd

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol:

·         Angen rhoi ystyriaeth i ddulliau cyfathrebu gyda darpar gyflogwyr

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo mabwysiadu'r Datganiad Polisi Cyfathrebu newydd