skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Goronwy Edwards (Cyngor Sir Bwrdeistrefol Conwy), Simon Glyn, Peredur Jenkins, John Pughe Roberts a Robin Williams (Cyngor Sir Ynys Môn)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Amlygwyd bod cwestiwn wedi ei dderbyn gan aelod o’r cyhoedd oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Nodwyd nad oedd eitem bwrpasol wedi ei raglennu ar gyfer trafod buddsoddi cyfrifol ond bod Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn 2020/21, fydd yn cael ei drafod yng Nghyfarfod Blynyddol y Gronfa Bensiwn 25-11-21 yn crybwyll materion buddsoddi cyfrifol. Nodwyd y byddai modd gwahodd yr unigolyn i’r cyfarfod blynyddol.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 351 KB

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2021 fel rhai cywir.

 

5.

CYFRIFON TERFYNOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2021 AC ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 199 KB

Cyflwyno –

 

           Datganiad o’r Cyfrifon ôl-Archwiliad;

           Adroddiad ‘ISA260’ Archwilio Cymru;

           Llythyr Cynrychiolaeth

 

I ystyried a chymeradwyo’r wybodaeth

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad

 

Cymeradwyo

                                    

·         Datganiad o’r Cyfrifon 2020/21 (ôl-archwiliad)

·         Adroddiad 'ISA260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd

·         Cadeirydd y Pwyllgor (17-11-21) ynghyd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth yn electroneg

 

Cofnod:

Croesawyd Yvonne Thomas a Garmon Williams o Archwilio Cymru i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad ynghyd a Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd 2020/21 (ôl archwiliad), gan y Pennaeth Cyllid yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2021. Atgoffwyd yr Aelodau bod drafft o’r cyfrifon wedi eu cyflwyno i gyfarfod 24ain Mehefin 2021 ac nad oedd newidiadau arwyddocaol yn dilyn archwiliad gan Archwilio Cymru

 

Gwahoddwyd Yvonne Thomas (Archwilio Cymru) i gyflwyno adroddiad ‘ISA260’. Adroddwyd bod yr archwilwyr yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni, unwaith y byddai’r Llythyr Cynrychiolaeth wedi ei arwyddo.  Eglurwyd na all archwilwyr fyth roi sicrwydd cyflawn bod cyfrifon wedi’u datgan yn gywir ond yn hytrach yn gweithio i lefel o ‘berthnasedd’. Pennwyd lefel perthnasedd o £25.3 miliwn ar gyfer archwiliad eleni i geisio adnabod a chywiro camddatganiadau a all arwain fel arall at gamarwain rhywun sy’n defnyddio’r cyfrifon.

 

Tynnwyd sylw at y penawdau isod:

 

·         Effeithiau Covid-19 ar archwiliad eleni

·         Nad oedd camddatganiadau wedi eu canfod yn y cyfrifon nas cywirwyd

·         Er rhai gwallau yn y datganiad ariannol drafft bod y rhain bellach wedi eu cywiro

·         Bod y wybodaeth a gyflwynwyd o ansawdd uchel ac yn bositif iawn

 

Diolchwyd i’r Archwilwyr am eu cydweithrediad a’u gwaith trylwyr. Gwerthfawrogwyd ymroddiad a chywirdeb y gwaith a diolchwyd i’r Rheolwr Buddsoddi a’r tîm am baratoi’r cyfrifon.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol:

 

·         Bod yr adroddiad yn un calonogol a phositif – yn rhoi hyder bod pethau yn dda

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â Chyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (AVC - Nodyn 3) ar rhesymeg dros fuddsoddi asedau’r cynllun yma ar wahân i asedau’r Gronfa Bensiwn, nodwyd bod allanoli’r elfen yma yn fater cyffredinol ac mai dewis aelodau’r gronfa yw’r cyfraniadau. Er hynny, adroddwyd bod y nifer aelodau sydd yn ymaelodi gyda AVC yn cynyddu a’r gwaith cynghori yn drwm. O ganlyniad, bydd cais am gyllideb i ariannu swydd i gefnogi’r elfen yma yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn 2022.

 

PENDERFYNWYD:

Derbyn yr adroddiad

Cymeradwyo

·         Datganiad o’r Cyfrifon 2020/21 (ôl-archwiliad)

·         Adroddiad 'ISA260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd

·         Cadeirydd y Pwyllgor (17-11-21) ynghyd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth yn electroneg

6.

ADOLYGU AMCANION I YMGYNGHORWYR BUDDSODDI pdf eicon PDF 112 KB

I ystyried yr adroddiad, nodi cynnydd a chymeradwyo amcanion y dyfodol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn y wybodaeth gan nodi’r cynnydd

 

Cymeradwyo amcanion yr ymgynghorwyr buddsoddi am y cyfnod nesaf - Cadeirydd y Pwyllgor i arwyddo’r datganiad cydymffurfio cyn 7fed o Ionawr 2022

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar y cynnydd yn erbyn yr amcanion cyfredol ynghyd a chais i’r Pwyllgor adolygu a chymeradwyo’r amcanion ar gyfer 2022. Adroddwyd, yn dilyn adolygiad o’r marchnadoedd ymgynghori buddsoddi a rheoli ymddiriedol bu i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd nodi’r angen i Ymddiriedolwyr Cronfeydd Pensiwn osod amcanion i’w ymgynghorwyr buddsoddi gan nodi yn glir yr hyn ddisgwylir ganddynt.

Cyfeiriwyd at yr amcanion cyfredol ynghyd a’r cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion hynny yn ystod 2020/21. Tynnwyd sylw at amcan newydd a ychwanegwyd ar gyfer 2022 mewn ymateb i gynnydd mewn diddordeb byd-eang yn y maes - Datblygu dealltwriaeth y Pwyllgor am risg hinsawdd a Meini Prawf Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethiant (ESG - Environmental, Social, and Governance (ESG) Criteria). Nod yr amcan yw sicrhau bod yr ymgynghorwyr buddsoddi yn adeiladu dealltwriaeth y Pwyllgor ar ystyriaethau ESG a risg hinsawdd, gan gefnogi gweithredu gofynion llywodraethu’r Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol sy'n Gysylltiedig â'r Hinsawdd (Task Force on Climate-related Financial Disclosures - TCFD) a helpu’r Pwyllgor i ddeall a rheoli risgiau yn gysylltiedig â’r hinsawdd o fewn y strategaeth. Cafwyd hyfforddiant yn Hydref 2021 a bydd hyfforddiant pellach yn cael ei drefnu fel bo’r angen.

Adroddwyd bod Hymans yn cyflawni gwaith da, yn darparu adroddiadau chwarterol, adroddiadau cynhwysfawr ar gyfer y paneli buddsoddi, yn cynnig cyngor ymarferol, ymatebion a gohebiaeth amserol ac yn perfformio yn unol â’r amcanion. Eglurwyd bod gan Hymans gyfrifoldebau i’r Gronfa fel cynghorwyr ac fel actiwari a’u bod wedi sicrhau canlyniadau a dychweliadau allweddol dros y blynyddoedd. Nodwyd bod y drefn yn sicrhau bod y bartneriaeth rhwng Hymans ar Gronfa yn un dryloyw.

Ategodd yr Is-gadeirydd bod y cwmni yn darparu gwasanaeth da ac yn cyfarch yr amcanion sydd yn cael eu gosod gan y Pwyllgor.

Diolchwyd am yr adroddiad.

PENDERFYNWYD

·           Derbyn y wybodaeth gan nodi’r cynnydd

·           Cymeradwyo amcanion yr ymgynghorwyr buddsoddi am y cyfnod nesaf - Cadeirydd y Pwyllgor i arwyddo’r datganiad cydymffurfio cyn 7fed o Ionawr 2022

·           Ystyried blaen raglen ffurfiol o eitemau’r Pwyllgor Pensiynau ar gyfer y flwyddyn

 

7.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2021-22 ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN pdf eicon PDF 357 KB

I ystyried yr adroddiad er gwybodaeth

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad yn amlygu gwir weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Amlygwyd, yn ystod y chwe mis rhwng y 1af o Ebrill a 30 Medi 2021 bod gweithgarwch benthyca’r Cyngor wedi aros o fewn cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol ac nad oedd unrhyw fanciau lle'r oedd y Cyngor wedi adnau arian wedi methu ad-dalu. Ategwyd yr amcangyfrifir bod incwm buddsoddi’r Cyngor yn uwch na’r incwm disgwyliedig yng nghyllideb 2021/ 22.

Penderfynwyd yn y Pwyllgor Pensiynau, 25 Mawrth 2021 i ganiatáu i gronfeydd dros ben y Gronfa Bensiwn gael eu cyfuno a’u cyd-fuddsoddi â llif arian cyffredinol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22.

Eglurwyd bod rhaglen lwyddiannus i gyflwyno brechiadau yn bositif o ran credyd yn gyffredinol i'r sector gwasanaethau ariannol, ac o ganlyniad i'r rhagolwg economaidd gwell bod rhai sefydliadau wedi gallu lleihau'r darpariaethau ar gyfer benthyciadau gwael. Adroddwyd bod y cyfnod wedi bod yn un heriol, ond gyda’r cyfyngiadau yn llacio gwelwyd mwy o weithgaredd yn ail chwarter y flwyddyn. Nodwyd hefyd bod Arlingclose wedi estyn uchafswm cyfnod rhai buddsoddiadau i 100 diwrnod.

Eglurwyd bod £10m o fuddsoddiadau’r Cyngor mewn cronfeydd eiddo ac ecwiti cyfun strategol sydd yn cael eu rheoli yn allanol lle mae diogelwch a hylifedd tymor byr yn llai o ystyriaeth. Er bod y gwerth cyfalaf cyfun o £9.243m yn llai na’r buddsoddiad cychwynnol o £10m, gwnaed y buddsoddiadau gan wybod y byddai gwerthoedd cyfalaf yn ansefydlog ar fisoedd, chwarteri a hyd yn oed blynyddoedd; ond gyda'r hyder y bydd cyfanswm yr enillion dros gyfnod o dair i bum mlynedd yn uwch na chyfraddau llog arian parod. O ganlyniad gwireddir yr amcanion drwy sefydlogrwydd prisiau tymor canolig.

Cyfeiriwyd at ddefnydd Swyddfa Rheoli Dyledion fel cerbyd buddsoddi sydd yn talu ychydig mwy nag eraill ac yn hyblyg, hawdd a diogel i’w ddefnyddio. Er bod y cyfraddau yn isel a’r rhagolygon yn wan ac ansefydlog, adroddwyd bod y Cyngor yn buddsoddi cymaint ag y gallent o fewn cyfnod heriol; yn parhau i wneud eu gorau i geisio enillion drwy wasgaru risg, ond hefyd yn gweithredu yn ofalus yn unol â chyngor Arlingclose.

Cadarnhawyd bod gweithgareddau rheoli trysorlys a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod yn cydymffurfio’n llawn gyda Chod Ymarfer CIPFA a Strategaeth Rheoli Trysorlys ac yng nghyd-destun hyfforddiant buddsoddi bod swyddogion, yn ystod y cyfnod, wedi mynychu hyfforddiant buddsoddi gydag Arlingclose a CIPFA sy’n berthnasol i’w swyddi.

Amlygwyd bod Arlingclose yn disgwyl i'r Gyfradd Banc gynyddu yn Ch2 2022 a hyn oherwydd dymuniad Banc Lloegr i symud o lefelau argyfwng gymaint ag ofn pwysau chwyddiant. Mae buddsoddwyr wedi cynnwys sawl cynnydd yn y Gyfradd Banc i 1% erbyn 2024 yn eu prisiadau. Er bod Arlingclose yn credu y bydd y Gyfradd Banc yn codi, ni fydd mor uchel â disgwyliadau'r marchnadoedd.

Adroddwyd bod £25m o arian parod y Gronfa Bensiwn wedi ei  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.