Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Richard Medwyn Hughes, a’r Cynghorydd Elin Hywel. Roedd y Cynghoyrdd Goronwy Edwards yn cael problemau techengol ac ni fu iddo allu cymryd rhan yn y cyfarfod

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim  i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 148 KB

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 22 Ionawr 2024 fel rhai cywir.

 

5.

CYNLLUN HYFFORDDIANT pdf eicon PDF 88 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Cynllun Hyfforddiant 2024/25.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad
  • Cymeradwyo Cynllun Hyfforddiant 2024/25

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn rhoi crynodeb o’r hyfforddiant a gyflwynwyd i’r Aelodau yn ystod 2023/24 ynghyd a chynllun hyfforddiant bras ar gyfer 2024/25.

 

Ystyriwyd bod Cynllun Hyfforddiant 2023/24 wedi bod yn llwyddiannus a diolchwyd i’r Aelodau am fynychu’r amryw o gynadleddau a sesiynau hyfforddi Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) sydd yn sesiynau defnyddiol ac amserol. Ategwyd bod yr Aelodau hynny oedd angen cwblhau hyfforddiant Fundamentals bellach wedi gwneud hynny ac mai’r unig hyfforddiant na chafodd ei gwblhau oedd bod y Rheolwr Buddsoddi heb fynychu cwrs cau cyfrifon a hynny oherwydd nad oedd newid yn y canllawiau.

 

Ategwyd bod Cynllun Hyfforddiant 2024/25 yn dilyn yr un drefn a chynllun 2023/24 gyda sesiynau PPC, cyrsiau a chynadleddau eisoes wedi eu hadnabod a threfniadau pwy fydd yn mynychu wedi eu cadarnhau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a nodwyd bod y cynllun yn un cynhwysfawr.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chadw cofnod o bresenoldeb Aelodau mewn cynadleddau / hyfforddiant PPC, nodwyd bod y Rheolwr Buddsoddi yn cadw cofnod o bresenoldeb aelodau Gwynedd ac yn rhannu’r wybodaeth gyda Swyddog Datblygu Aelodau y Cyngor.

 

      PENDERFYNIAD:

 

·        Derbyn yr adroddiad

·        Cymeradwyo Cynllun Hyfforddiant 2024/25

 

6.

DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS AR GYFER 2024/25 pdf eicon PDF 92 KB

·         I ystyried yr adroddiad

·         I fabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys atodol am 2024/25, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn (Atodiad A).

·         I wneud cais i’r Cyngor (er nad yw’n gorff ar wahân) i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda llif-arian cyffredinol y Cyngor o 1 Ebrill 2024 ymlaen

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

  • Derbyn yr adroddiad
  • Mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys am 2024/25, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn
  • Cynnig i’r Cyngor (er nad yw’n gorff ar wahân) i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda llif arian cyffredinol y Cyngor o 1 Ebrill 2024 ymlaen

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi, yn unol â Chyfarwyddyd Statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Fuddsoddiadau Llywodraeth Leol, mae’n ofynnol i’r Cyngor, fel rhan o’i swyddogaeth wrth reoli’r trysorlys, baratoi Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol. Fel ymarfer da, ystyriwyd y dylai Cronfa Bensiwn Gwynedd (y “Gronfa”) fabwysiadu Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (DSRhT) Cyngor Gwynedd am 2024/25, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn. Cafodd DSRhT Cyngor Gwynedd am 2024/25 ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ar 7 Mawrth 2024.

 

Eglurwyd, ar hyn o bryd, bod yr holl arian sydd dros ben yn y Gronfa, yn cael ei gronni gyda balansau ariannol Cyngor Gwynedd ac yn cael ei fuddsoddi gyda gwrthbartion yn unol â Strategaeth Rheolaeth Trysorlys Cyngor Gwynedd. Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, bydd Cyngor Gwynedd yn talu llog i’r Gronfa Bensiwn ar sail balansau dyddiol y Gronfa dros y flwyddyn.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod cod ymarfer CIPFA a chanllawiau Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor fuddsoddi ei arian yn ddarbodus gan roi ystyriaeth i ddiogelwch a hylifedd cyn ceisio enillion neu’r cynnyrch uchaf, a tharo cydbwysedd gyda’r ffactorau yma. Cyfeiriwyd at y sectorau sydd wedi’u cymeradwyo i fuddsoddi ynddynt ynghyd a’r terfynau buddsoddi ar eu cyfer e.e. llywodraeth leol, awdurdodau lleol, banciau, cronfeydd marchnad arian a chronfeydd cyfun. Cyfeiriwyd hefyd at y rhagolygon economaidd a chyfraddau llog gan ymgynghorwyr ariannol y Cyngor, Arlingclose, ynghyd a sefyllfa portffolio buddsoddi oedd gan y Cyngor ar ddiwedd 2023.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau

·        Bod yr adroddiad bellach yn eitem gyson ar raglen waith y Pwyllgor

·        Bod y trefniant eisoes wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn

·        Mai annoeth fyddai cadw arian ar wahân – synhwyrol fyddai mabwysiadau un strategaeth

·        Gyda chwe Awdurdod Lleol wedi dyfarnu eu hunain yn fethdalwyr ers 2021, bod risgiau yn codi o fuddsoddi gydag Awdurdodau Lleol. Er hynny, o reoli’r sefyllfa yn effeithiol, bod manteision i hyn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am y swm sydd yn cael ei drosglwyddo, nodwyd bod y swm wedi bod oddeutu £10 - £15 miliwn yn y gorffennol, ond bellach yn swm mwy sylweddol o oddeutu £40miliwn a hynny oherwydd bod lefelau llog yn uchel, sydd ar hyn o bryd yn dod a gwell dychweliadau na buddsoddi gyda buddsoddwyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

·        Derbyn yr adroddiad

·        Mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys am 2024/25, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn

·        Cynnig i’r Cyngor (er nad yw’n gorff ar wahân) i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda llif arian cyffredinol y Cyngor o1 Ebrill 2024 ymlaen

 

7.

CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 91 KB

I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo’r Cynllun Busnes

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi oedd yn cynnwys Cynllun Busnes y Bartneriaeth. Adroddwyd bod y Bartneriaeth yn creu Cynllun Busnes yn flynyddol am gyfnod o dair blynedd gyda’r cynnwys yn manylu ar sut mae’r Bartneriaeth yn mynd i gyflawni ei nodau. Pwrpas y cynllun busnes yw:

 

·        Esbonio cefndir a strwythur llywodraethu’r PPC

·        Amlinellu'r blaenoriaethau a’r amcanion dros y tair blynedd nesaf

·        Amlinellu'r gyllideb ariannol ar gyfer cyfnod y Cynllun Busnes

·        Crynhoi Buddsoddiadau ac Amcanion Perfformiad PPC

 

Ategwyd bod y Cynllun Busnes wedi cael ei gymeradwyo gan Cyd Bwyllgor Llywodraethu’r Bartneriaeth 13eg o Fawrth 2024 a bod gofyn i’r wyth Awdurdod sydd yn rhan o’r Bartneriaeth gymeradwyo’r Cynllun.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd bod y cynllun busnes wedi ei drafod yng nghyfarfod diweddar o Bartneriaeth Pensiwn Cymru a bod y Cydbwyllgor Llywodraethu, ar y 13eg o Fawrth 2024, wedi mynegi eu bod yn fodlon gyda’r cynnwys

 

PENDERFYNWYD

 

·        Derbyn yr adroddiad

·        Cymeradwyo Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru

 

8.

SEMINAR BUDDSODDI LGC

I dderbyn diweddariad llafar o Seminar Buddsoddi LGC

Cofnod:

Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Cynghorydd Iwan Huws oedd wedi mynychu’r gynhadledd gyda’r Cyng. Elin Hywel a Chadeirydd y Bwrdd Pensiwn, Mr Eifion Jones.

 

Nododd mai prif neges y gynhadledd oedd bod yr LGC mewn lle da. Ategodd bod trafodaethau wedi eu cynnal ynglŷn â’r prisiad sydd yn dod i fyny yn 2025 ynghyd a gwybodaeth arbenigol am ddigwyddiadau byd eang sydd yn cael effaith ar y farchnad. Tanlinellodd Gweinidog Llywodraeth Leol, Simon Hoare bwysigrwydd hyfforddiant pensiynau disgwyliedig i Aelodau a chafwyd cyflwyniad gan Antony Parnell (Rheolwr Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn Cyngor Sir Caerfyrddin (awdurdod lletyol Partneriaeth Pensiwn Cymru) ar effeithlonrwydd pwlio yng Nghymru. Roedd y gynhadledd yn gyfle da i fynychwyr rwydweithio a rhannu arferion gorau.

 

Diolchwyd am y wybodaeth

 

9.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff  Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny)

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn amhriodol o ran buddiannau cydnabyddedig trydydd bartïon ac yn gallu tanseilio hyder i ddod a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor a felly gallu’r Cyngor i wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn mae’r materion yn gaeedig er budd y cyhoedd.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn â phroses gaffael arfaethedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r Cyngor a’i bartneriaid drwy danseilio cystadleuaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn oedd y materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

 

10.

ADRODDIAD ARGYMHELLIAD AR BENODI GWEITHREDWR PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU

Copi i’r Aelodau yn unig

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  • Derbyn yr adroddiad
  • Cymeradwyo penodiad Cynigydd 3 i fel Gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad blaen gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi bod cytundeb Gweithredwr presennol PPC yn dod i ben Rhagfyr 2024 a bod proses dendro agored wedi ei chynnal a’r broses werthuso wedi ei chwblhau.

 

Cynhaliwyd proses gaffael yn unol â Rheoliadau Contractau Cyhoedd 2015, gyda’r Bartneriaeth yn cyhoeddi ‘Gwahoddiad i Dendro’, a derbyniwyd tri cais. Cynhaliwyd proses werthuso manwl gyda chynrychiolaeth o’r wyth awdurdod cyfansoddol a Hymans Robertson.

 

Wedi cwblhau’r broses caffael cafodd yr argymhelliad o benodi cynigydd 3 fel Gweithredwr PPC ei gymeradwyo gan y Cyd Bwyllgor Llywodraethu, Mawrth 13eg 2024. O ganlyniad, ac yn unol â’r drefn statudol, bod angen i’r argymhelliad gael ei gymeradwyo gan yr wyth Awdurdod Cyfansoddol sydd yn rhan o’r Bartneriaeth. Cyflwynwyd yr argymhelliad ar ffurf adroddiad gan PPC i’r aelodau yn unig.

 

PENDERFYNWYD

 

·        Derbyn yr adroddiad

·        Cymeradwyo penodiad Cynigydd 3 i fel Gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru

 

Nodyn: I’r dyfodol, er bod yr adroddiad yn un safonol gan y Bartneriaeth, byddai mwy o wybodaeth gefndirol am y broses, eglurhad am y drefn sgorio a rhesymau eithrio wedi bod yn fanteisiol.