Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Sion Owen 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL IS GADEIRYDD Ethol is gadeirydd i’r pwyllgor
hwn ar gyfer
2019-20. Cofnod: PENDERFYNWYD: Ethol y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn
is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Ymddiheuriadau: Y Cynghorwyr Annwen Daniels, Anwen Davies, John Brynmor Hughes, Judith Humphreys a Dewi Owen. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw faterion
sydd yn faterion
brys yn nhyb
y Cadeirydd er mwyn eu hystyried. Cofnod: Nid oedd mater brys |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
bod cofnodion cyfarfod diwethaf y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4/9/19 yn cael
eu harwyddo fel cofnod cywir
o’r cyfarfod. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Ebrill 2019 fel rhai cywir. |
|
CYDNABYDDIAETH ARIANNOL I AELODAU ETHOLEDIG PDF 81 KB Adrodd ar wybodaeth Adroddiad Blynyddol y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Cofnod: Cyflwynodd y Rheolwr
Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith ei hadroddiad gan nodi fod Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar
Gydnabyddiaeth Ariannol (Chwefror 2020) wedi ei gyhoeddi ar ffurf drafft ar y
15fed o Hydref, 2019. Gofynnodd i’r
Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth gyflwyno sylwadau fel sail i ffurfio ymateb
i’r ymgynghoriad drafft gan y Panel.
Bydd gofyn ymateb i’r ymgynghoriad erbyn 10fed o Ragfyr, 2019. Cododd y sylwadau penodol
isod o’r drafodaeth: -
Ei fod yn bwysig fod pawb
yn ymwybodol mai'r Panel oedd yn gosod lefelau’r cyflog, nid y Cyngor. -
Eu bod yn cyd-fynd gyda’r
lefel cynnydd oedd wedi ei nodi yn yr adroddiad drafft. -
Nad oedd hyrwyddo’r
ad-daliadau o gostau gofal i’r rhai oedd y gymwys yn dasg hawdd a chydnabuwyd y
byddai’n cymryd amser i godi ymwybyddiaeth ac nad oedd am ddigwydd yn syth..
Serch hynny ‘roedd yn bwysig fod argaeledd yr ad-daliad wedi ei hyrwyddo cyn
etholiadau er mwy annog amrywiaeth ymysg ymgeiswyr. Nodwyd fod hon yn broblem
genedlaethol ac nid yn un unigryw i Wynedd.
Gofynnwyd i’r swyddogion ystyried gwahanol ddulliau o godi ymwybyddiaeth
i’r ad-daliad gofal ymysg aelodau. Derbyniwyd yr adroddiad. |
|
CYFATHREBU A THECHNOLEG PDF 81 KB Cyflwyno diweddariad o’r gwaith er mwyn gwella y ddarpariaeth i gyfathrebu trwy ddefnydd technoleg Cofnod: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith adroddiad a
gyflwynwyd ar y cyd ganddi hi a’r Uwch Reolwr Technoleg Gwybodaeth. Adroddodd bod y Cyngor wedi gwneud cynnydd gyda’i ddefnydd o dechnoleg,
ond bod lle i wella hynny ymhellach, a
bod rôl arbennig gan y Pwyllgor
Gwasanaethau Democratiaeth i fod yn cynorthwyo gyda hyn. Nodwyd ei bod yn angenrheidiol ystyried y darlun cyfansawdd ar gyfer
adnabod y ffordd ymlaen a gwneud hynny mewn modd rhesymegol sy’n cyd-fynd â
datblygiadau perthnasol . I’r perwyl hwn mae Grŵp Prosiect ar y
cyd rhwng yr Adran Gyllid a’r Adran Gefnogaeth Gorfforaethol newydd ei sefydlu
i fwrw ymlaen gyda’r gwaith. Nodwyd y
bydd y Grŵp Prosiect yn adrodd diweddariadau i’r Pwyllgor Gwasanaethau
Democratiaeth maes o law. Adroddwyd y byddid yn parhau i geisio gwella o fewn y ddarpariaeth
gyfredol yn y cyfamser, gan gynnwys treialu defnydd o fideo gynhadledd a
skype,casglu tystiolaeth am brofiad y defnyddiwr, a cheisio dileu’r rhwystrau i
wneud y defnydd gorau o’r ddarpariaeth gyfredol. Yn ogystal, byddid yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Dysgu a Datblygu i
ddatblygu hyfforddiant ar gyfer Cadeirio cyfarfodydd o’r fath, gan ymchwilio i
waith Cynghorau eraill yn y maes a dysgu o’u profiadau hwy. Nodwyd hefyd bod y porth aelodau wedi bod yn cael sylw dros y misoedd
diwethaf ac adroddwyd y derbyniwyd nifer o sylwadau gan aelodau ar ymarferoldeb
y porth, a syniadau ynghylch yr hyn roeddent yn ddymuno ei gael. I grynhoi yn syml, roedd teimlad fod lle i
wella pa mor hawdd ei ddefnyddio oedd y porth, ond fod y wybodaeth arno yn
ddefnyddiol iawn – yn arbennig i Aelodau newydd. Yn sgil y sylwadau hyn, roedd porth wedi ei
ddatblygu ar ei newydd wedd, un llawer haws ei ddefnyddio ac wedi ei adeiladu o
berspectif aelodau’n ei ddefnyddio yn hytrach na staff yn ei gynllunio. Roedd
safle peilot wedi ei greu, gyda’r bwriad o rannu’r porth gyda’r holl aelodau
gynted ag y bydd yn barod. Gofynnwyd i’r
Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth adnabod 3 neu 4 o’u plith i gael cyflwyniad i’r porth a’i
ddefnyddio dros dro er mwyn bwydo sylwadau yn ôl i’r swyddogion. Cymeradwywyd y ffordd ymlaen gan enwebu’r Cynghorwyr Anne Lloyd–Jones,
Charles Wyn Jones a Mair Rowlands i gynorthwyo treialu’r Porth Aelodau ar ei
newydd wedd. |
|
ADRODDIADAU BLYNYDDOL AELODAU ETHOLEDIG 2018/19 PDF 61 KB Cyflwyno gwybodaeth
am Adroddiadau Blynyddol Aelodau Etholedig (2018/19) a gyhoeddwyd a’r
gwelliannau sydd wedi eu gwneud i’n prosesau. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adroddodd y Rheolwr
Democratiaeth ac Iaith bod yn rhaid i
awdurdodau lleol Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 wneud trefniadau : -
bob person sy’n aelod o’r awdurdod i lunio
adroddiad blynyddol ynghylch gweithgareddau’r person fel aelod o’r awdurdod yn
ystod y flwyddyn y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi, -
bob person sy’n aelod o weithrediaeth yr
awdurdod lunio adroddiad blynyddol ynghylch gweithgareddau’r person fel aelod
o’r weithrediaeth yn ystod y flwyddyn y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi -
gyhoeddi pob adroddiad blynyddol sy’n cael ei
lunio gan ei aelodau a chan aelodau ei weithrediaeth. Nodwyd y nifer
o Aelodau Etholedig a ddewisodd gyhoeddi adroddiadau blynyddol dros y
blynyddoedd diwethaf: 2012/13 8 adroddiad
(peilot o’r drefn) 2013/14 26 adroddiad (gan
ddefnyddio templed am y tro cyntaf) 2014/15 39 adroddiad 2015/16 29 adroddiad 2016/17 Ni chynhyrchwyd
adroddiadau 2017/18 16 adroddiad 2018/19 17 adroddiad Adroddwyd bod Aelodau’r
Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth wedi trafod yr adroddiadau blynyddol lawer
gwaith, gyda’r nôd parhaus o gynhyrchu adroddiadau gweledol deniadol, o geisio
symleiddio’r broses i’w cynhyrchu tra’n cadw o fewn y canllawiau ar gyfer yr
adroddiadau. Roedd yr amserlen eleni yn
llawer tynnach na’r hyn a fu yn y gorffennol, gyda’r nôd o sicrhau cyhoeddi yr
adroddiadau ar y safle we yn ddwyieithog cyn yr haf. Penderfynwyd symleiddio’r
broses ymhellach, gan ofyn i Aelodau Etholedig ateb dau gwestiwn ar ffurf
e-bost yn unig fel a ganlyn: -
Beth oedd eich prif weithgareddau etholaethol a
chymunedol dros y cyfnod 4 Mai 2018 i 3 Mai 2019? -
Pa gyfarfodydd y bu i
chi eu mynychu yn ystod y cyfnod 4 Mai 2018 i 3 Mai 2019 yn ychwanegol i’r hyn
a nodir yn eich ystadegau presenoldeb ar y wefan? Bu’r broses yn llawer esmwythach i’r Aelodau a’r
Swyddogion eleni ar gyfer cynhyrchu adroddiadau 2018/19. Tybiwyd mai’r rhesymau am hyn oedd: ·
Nad oedd templed i’w gwblhau,
yn hytrach 2 gwestiwn oedd angen sylw yr Aelodau ·
Nid oedd gwaith trosglwyddo
rhwng un rhaglen gyfrifiadurol a’r llall ·
Dilëwyd nifer o gamau
gwastraff o’r prosesau cefndirol, camau nad oedd yn ychwanegu gwerth ·
Blaenoriaethwyd y gwaith gan
swyddogion er mwyn ei gwblhau yn amserol Gofynnwyd y
cwestiwn a oedd yn werth cyhoeddi yr adroddiadau blynyddol, a chytunodd y
Rheolwr i chwilio am ffigyrau ynglyn â nifer oedd yn eu darllen/ edrych arnynt
ar y wefan. Roedd yn amau bod y ffigyrau hynny yn cynyddu ar adeg etholiad.
Hefyd adroddwyd fod diweddariad i’r Mesur llywodraeth Lleol ar ei ffordd, ac y
disgwylid diweddariad yn y Mesur ar yr adroddiadau blynyddol. Derbyniwyd yr adroddiad. |
|
Cyflwyno diweddariad ar waith yr is-grŵp Amrywiaeth i aelodau’r Pwyllgor a gofyn am sylwadau ar y rhaglen waith ddrafft. Cofnod: Adroddwyd bod yr is-grŵp wedi ail afael yn y gwaith dros y misoedd
diwethaf, ac yn falch o groesawu aelodau newydd i’r grŵp. Gwnaethpwyd cynnydd mewn tri maes
penodol: codi ymwybyddiaeth o ragfarn
diymwybod, cynnal peilot o ddigwyddiad i gynyddu ymwybyddiaeth o drefniadau
democratiaeth ymysg pobl ifanc, a sefydlu rhaglen waith pellach. Nododd y pwyllgor bod “Rhagfarn
Diarwybod” - hyfforddiant a gododd yn wreiddiol fel cais gan y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd wedi bod yn llwyddiannus iawn ac anogwyd pawb i
fynychu’r cwrs. Adroddwyd y bu criw o 85 o bobl ifanc o 6 o ysgolion cynradd dalgylch
Dyffryn Nantlle ar ymweliad â Siambr y Cyngor yn ystod mis Gorffennaf
eleni. Pwrpas y sesiwn oedd ceisio codi
ymwybyddiaeth y plant o drefniadau democratiaeth y Cyngor. Rhoddwyd profiad iddynt o drafod yn y Siambr,
gan roi cyfle iddynt holi rhai o’r Cynghorwyr ar wahanol bynciau. Tra’n
cymeradwyo y rhaglen waith, nodwyd y byddai angen ystyried effaith pleidlais i bobl
ifanc 16-17 oed i’r cylch gorchwyl a’r rhaglen waith unwaith y byddai’r mesur
yn dod i rym. Hefyd
croesawyd y bwriad i sefydlu cronfa genedlaethol i gynorthwyo pobl anabl sydd
angen cymorth ymarferol i sefyll etholiad. |
|
DARPARIAETH DYSGU A DATBLYGU I AELODAU PDF 132 KB Rhoi trosolwg o’r ddarpariaeth Dysgu a Datblygu i Aelodau, gan amlygu llwyddiannau, sialensiau a datblygiadau Cofnod: Cyflwynodd y Rheolwr Dysgu a Datblygu’r Sefydliad
ei adroddiad gan nodi y cynigir rhaglen ddatblygol gynhwysfawr sy’n cynnwys
hyfforddiant ‘traddodiadol’ wyneb i wyneb, ac elfennau megis gweithdai,
cymhelliant (coaching) ac e-ddysgu.
Hefyd, darperir rhaglen ar gyfer datblygu’r Arweinyddiaeth. Adroddwyd bod y rhaglen yn cynnwys teitlau
allweddol/craidd (sy’n cael eu hadnabod gan Swyddogion yn bennaf) a theitlau
datblygol sy’n rhoi cyfle i Aelodau ystyried eu hanghenion dysgu a datblygu
personol eu hunain a chymryd cyfrifoldeb cynyddol dros gynnwys y rhaglen. Nododd y Pwyllgor bod angen ystyried sut i sicrhau
bod pob aelod yn mynychu hyfforddiant perthnasol. Gwahoddwyd y Pwyllgor i ystyried y rhaglen
bresennol ac i gysylltu â’r Tîm Dysgu a
Datblygu i gynnig awgrymiadau am feysydd/teitlau ychwanegol i’w cynnwys. Derbyniwyd yr adroddiad |
|
YMDDYGIAD BYGYTHIOL YN ERBYN CYNGHORWYR PDF 65 KB Cyflwyno canllawiau diweddaraf Cymdeithas Llywodraeth Cymru (CLlC) “Canllaw’r Cynghorwyr i drafod bygwch”. Cofnod: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth
ac Iaith adroddiad ar y cyd ganddi hi a’r Swyddog Cyfathrebu Aelodau a Staff. Adroddwyd bod nifer
cynyddol o bobl sy’n ymwneud â democratiaeth (ar lefel genedlaethol neu leol)
yn nodi eu bod yn dioddef bygythiadau, a
bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlC) wedi diweddaru eu canllawiau ar
gyfer Cynghorwyr. Maent yn cynnwys
mesurau ymarferol y gall Cynghorwyr a darpar ymgeiswyr eu hystyried er mwyn
diogelwch personol. Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth bod
canllawiau ymarfer da ar gyfer staff y Cyngor yn berthnasol i Aelodau hefyd ac
y trefnir i’w gosod mewn man cyfleus i Aelodau. Nodwyd bod dau brif bwynt
wedi codi o’r drafodaeth: technoleg – yn
ymwneud â diogelwch ar gyfryngau cymdeithasol ee rhyddhau cyfeiriad, cyfeiriad
ebost a rhif ffôn personol ar safle gwefan a chyfryngau cymdeithasol a gwydnwch personol – yn wyneb yr ymdeimlad a’r disgwyl traddodiadol fod
gwleidyddion sydd mewn rolau cyhoeddus i fod i ddisgwyl a derbyn rhywfaint o
sylwadau a phobl yn anghydweld, fod y canllawiau yn ystyried sut i ddelio’n feddyliol pan fo rhywbeth yn
digwydd. Cytunwyd bod angen
ystyried hyfforddiant ar gyfer y ddau faes uchod. |