Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sion Owen 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellid eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar Fedi 20fed 2016 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 20 Medi, 2016 fel rhai cywir. |
|
YMGYNGHORIAD PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL PDF 285 KB Derbyn sylwadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd mewn ymateb i’r ymgynghoriad. Cofnod: Cyflwynwyd – sylwadau o’r cyfarfod
a fynychwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Hwn a’r Pennaeth Gwasanaethau
Democrataidd gydag aelodau’r Panel Annibynnol. Nodwyd fod cynnydd
bychan o 0.75% yn y cyflog sylfaenol i aelodau etholedig
yn cael ei
fwriadau ar gyfer y flwyddyn nesaf ar ôl
etholiadau’r Cyngor. Golyga hynny gynnydd o £100 y flwyddyn. Gofynnwyd i’r pwyllgor am eu sylwadau. Adroddwyd mai pwrpas yr
ad-daliad costau gofal oedd galluogi
pobl o drawstoriad o gefndiroedd a sefyllfaoedd i fod yn
aelodau etholedig trwy eu galluogi
i fynychu cyfarfodydd. Nodwyd na fu unrhyw hawliad am ad-daliad o gostau gofal yn ddiweddar
gan fod cyhoeddusrwydd
negyddol wedi deillio o gyhoeddi hawlio’r ad-daliadau gofal. O ran cofnodi’r rheswm pam fod aelod wedi
bod yn absennol o gyfarfod, nodwyd mai’r bwriad oedd
er mwyn hysbysu
eraill mai er mwyn cofnodi
methu mynychu gan fod aelod
yn rhywle arall ar fusnes
y Cyngor. Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth:- ·
Beth oedd ymateb cynghorau eraill? Mewn ymateb
nododd yr Uwch Reolwr Democratiaeth
a Chyflawni fod barn gymysg ymysg yn
gyffredinol, gydag ambell gyngor yn
gwrthod y cynnig ·
Y dylid derbyn y cynnydd o ran egwyddor, er mwyn
hybu ymgeiswyr o wahanol gefndiroedd i sefyll mewn
etholiad ·
Ei fod yn bwysig gochel
rhag gorfod rhannu manylion am ad-daliadau costau gofal trwy gais
rhyddid gwybodaeth. Mewn ymateb nododd
yr Uwch Reolwr
Cefnogaeth Gorfforaethol nad oedd
manylion am yr ad-daliadau yn wybodaeth
oedd yn dod
o dan yr ‘hawl i wybodaeth’.
Gan y byddai gwirio fod yr
arian wedi
ei rannu yn briodol yn
cael ei wirio
yn y ffordd arferol. ·
Dylid cofnodi pan fo aelodau
yn absennol oherwydd eu bod ar fusnes y Cyngor,
ac y dylai sefydliadau fod yn ymwybodol
o gyfarfodydd sy’n cael eu trefnu
gan sefydliadau eraill a’r galwadau
hynny ar amser aelodau. ·
Na ddylai’r Panel dderbyn gwahoddiad i siarad gyda’r
Cyngor Llawn. Mewn ymateb nododd
yr Uwch Reolwr
Cefnogaeth Gorfforaethol mai eisiau clywed
lleisiau gwahanol oedd y Panel, ond nad oedd
hynny o reidrwydd yn gorfod digwydd
yn y Cyngor Llawn. PENDERFYNWYD: a) cefnogi’r cynnig
i gynyddu y lwfans sylfaenol o £13,300 i £13,400 b) er mwyn hyrwyddo
mwy o aelodau cymwys i hawlio
y cymorth costau gofal, cefnogwyd y dylid cyhoeddi cyfanswm a ad-dalwyd
gan yr awdurdod
yn ystod y flwyddyn, ond heb
briodoli’r taliadau i unrhyw aelod,
a gofyn i’r Panel hefyd ystyried sut i sicrhau
na fyddai ceisiadau rhyddid gwybodaeth yn y dyfodol yn golygu
y byddai’n rhaid i awdurdodau ryddhau
gwybodaeth am hawlio ad-daliadau costau gofal fesul unigolyn. c) cefnogi’r trefniadau
newydd arfaethedig ar gyfer absenoldeb
oherwydd salwch gan ddeilydd uwch
gyflog. ch) cefnogi’r argymhelliad i nodi’r rheswm am absenoldeb lle bo hynny yn
sgil aelod yn cynrychioli’r Cyngor mewn cyfarfod
arall, tra’n nodi y byddai’n rhaid i aelodau
unigol ddarparu’r wybodaeth eu hunain. d) gwahodd y Panel ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
ETHOLIADAU LLYWODRAETH LEOL 2017 PDF 131 KB Diweddaru'r aelodau o'r gwaith paratoi sy’n digwydd ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Leol 2017 Cofnod: Cyflwynwyd
- adroddiad cynnydd ar y paratoadau ar gyfer etholiad
2017. Adroddwyd fod y trefniadau
arfaethedig wedi eu cyflwyno yng
nghyfarfod diwethaf y
Pwyllgor. Nodwyd fod y cyfarfodydd
ar gyfer codi ymwybyddiaeth ymysg darpar ymgeiswyr
wedi eu trefnu. Ychwanegodd fod angen i’r Pwyllgor ystyried tri pheth yn benodol wrth
drafod y Dyddiadau Croesawu: B – Edrych ar wneud hyfforddiant
yn fandadol C – Cyhoeddi presenoldeb aelodau mewn hyfforddiant Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth:- ·
Oes yno awgrym nad
yw Aelodau yn mynychu’r cyfarfodydd sydd yn eu
hardaloedd eu hunain? Atebodd yr Uwch Reolwr
Cefnogaeth Gorfforaethol fod yr Is-grŵp
wedi trefnu i Aelodau nad
oedd yn bwriadu
ymgeisio yn yr Etholiad i
fynd i siarad
yn y cyfarfodydd, gan wneud hynny
y tu allan i’w hardaloedd. Nododd fod y cyfarfodydd
yn rhai cyhoeddus,
gyda’r bwriad o rannu gwybodaeth a rhoi cyfle i
ofyn cwestiynau yn unig. ‘Roedd
bwriad i rannu gwybodaeth gyda’r Cyngor a’r
Fforymau ardal yn ogystal. ·
Fod clerc un Cyngor Cymuned/Tref wedi cwyno
am y poster hyrwyddo gan ei
fod yn teimlo
ei fod yn
ddilornus gan roi argraff blentynnaidd
o Gynghorwyr. Mewn ymateb nododd yr
Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni mai bwriad y poster oedd bod yn syml
a pheidio â bod yn fygythiol, heb unrhyw fwriad bod yn ddilornus. ·
Mynegwyd pryder, o weld yr amser byr sydd
rhwng yr etholiad a’r sesiynau
anwytho, y gallai fod yn anodd
i Aelodau sydd newydd eu hethol
yn 2017 drefnu amser i ffwrdd
o’r gwaith i fynychu’r sesiynau
anwytho. Mewn ymateb nododd yr
Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol fod
bwriad rhannu'r dyddiadau anwytho i ddarpar ymgeiswyr
er mwyn eu
rhagrybuddio a pharatoi petaent yn cael
eu hethol. ·
Fod e-ddysgu yn berthnasol iawn
ac yn bwysig er mwyn galluogi
aelodau i dderbyn hyfforddiant ar amser sy’n
gyfleus iddynt hwy. ·
Y dylid nodi lefel presenoldeb
aelodau mewn hyfforddiant, gan geisio cynnwys gwybodaeth am e-ddysgu hefyd. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
DATBLYGIAD MODERN.GOV PDF 238 KB Diweddaru'r aelodau ar y gwaith mwyaf
diweddar a gwahodd barn ar faterion i
gael sylw Cofnod: Cyflwynwyd
- diweddariad ar ddefnydd y Cyngor o feddalwedd Modern.gov ers prynu a mewnosod y meddalwedd yn 2015. Nodwyd fod y rhaglen yn
galluogi’r Gwasanaeth Democratiaeth i gyhoeddi mwy o wybodaeth, gyda 40 aelod etholedig yn defnyddio’r ‘ap’ sy’n gysylltiedig
â’r meddalwedd. Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth:- ·
Byddai’n fuddiol cysylltu’n well gydag Outlook er mwyn hwyluso presenoldeb
aelodau a swyddogion wrth drefnu cyfarfodydd.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
Diweddaru'r pwyllgor ar y cais am y siarter Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad, gan
egluro fod yr adnoddau ar
gael gan
Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i
asesu cynghorau ar gyfer y freinlen
(Siarter Aelodau) bellach. Un o’r prif
faterion oedd angen sylw ar
gyfer cyflawni’r Siarter oedd sicrhau
bod swydd ddisgrifiadau i aelodau yn
gywir ac yn addas i bwrpas.
Gofynnwyd felly am ganiatâd
y Pwyllgor i ymgynghori â’r rhai sy’n
cyflawni’r swyddi dan sylw a chynnull
is-grŵp i roi eu barn a chynorthwyo’r
Cyngor i ennill y Siarter. Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth:- ·
O feddwl fod yno swydd
ddisgrifiad, oes yno wedyn elfen
o werthuso perfformiad? Mewn ymateb nododd
yr Uwch Reolwr
Cefnogaeth Gorfforaethol gan nad yw aelodau etholedig
yn staff i’r Cyngor, nid oedd
elfen o werthuso ynghlwm â mabwysiadu swydd ddisgrifiadau. Fodd bynnag, roedd
cyfweliadau datblygu personol ar gael i unrhyw
aelod sy’n dymuno manteisio arnynt. ·
Ychwanegu “cyd-weithio a thrafod gyda’r deilydd portffolio” i swydd
ddisgrifiad Pencampwr. ·
Ychwanegu categori ‘cynrychioli’r Cyngor ar gyrff
allanol i’r swydd ddisgrifiad cyffredinol. Nodwyd fod adolygiad ar
y gweill yn y maes i fesur y disgwyliadau ar aelodau sy’n
aelodau o gyrff allanol. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad |