Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Natalie Lloyd Jones 01286 679780
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-Gadeirydd am y flwyddyn 2021/22. Penderfyniad: Etholwyd Y Cynghorydd Dewi
Owen fel Is-Gadeirydd ar gyfer y flwyddyn 2021/22. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau
am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr: Annwen Daniels, Mair
Rowlands, Linda Ann Jones. . |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sydd yn fater o frys yn nhyb y
cadeirydd er mwyn eu hystyried. Cofnod: Nid oedd Materion Brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig fod cofnodion y cyfarfod diwethaf
o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18fed Chwefror, 2021, yn cael eu harwyddo fel
rhai cywir. Cofnod: Cytunwyd bod
cofnodion cyfarfod y pwyllgor blaenorol ar y 18 Chwefror 2021 yn gywir. Gofynnodd y
Cadeirydd a oedd dyddiadau wedi eu pennu ar gyfer y Fforymau Ardal, gyda’r
Rheolwr Democratiaeth ac Iaith yn nodi nad oedd trefniadau pendant hyd yn hyn
ond y bydd diweddariad mor fuan ag sy’n bosib. |
|
ADRODDIAD HOLIADUR BODLONRWYDD PDF 246 KB Rhannu ymatebion yr
Holiadur Bodlonrwydd Aelodau gyda’r Tîm Gwasanaethau Democratiaeth. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Arweinydd Tîm Democratiaeth.
Eglurodd bod yr holiadur bodlonrwydd wedi ei hanfon at aelodau ym mis
Ebrill a rhoddwyd tan fis Mehefin iddynt ymateb. Eglurwyd bod amryw
o gwestiynau yn yr holiadur o ran gwaith y tîm, datblygiadau i'r dyfodol, barn
aelodau ar drefniadau pwyllgorau'r dyfodol.
Derbyniwyd 38 ymateb, sef dros hanner yr aelodau. Nodwyd bod aelodau yn hapus gyda’r gwasanaeth gyda
92% yn nodi Da neu Da Iawn fel ymateb. Derbyniwyd sylwadau am y gwasanaeth ac awgrymiadau o ran datblygiadau
fel a ganlyn: -
Sylwadau ynghylch y drefn gyda’r
Cabinet, fodd bynnag nodwyd mai’r drefn statudol yw hon. -
Gofynnwyd am fwy o sesiynau hyfforddiant rheoli amser
felly anfonwyd y sylw yma ymlaen at y tîm Dysgu a Datblygu. -
Codwyd pryder bod anhawster cysylltu gyda rhai swyddogion
drwy e-byst. -
Cafwyd syniadau i ehangu’r sesiynau rhithiol dros baned
sydd eisoes yn cael eu cynnal i ferched. -
Gofynnwyd am hyfforddiant pellach ar Sesiynau Teams a Zoom. -
Mewn perthynas â phwyllgorau’r
dyfodol nododd 84% eu bod yn awyddus i sicrhau fod modd cynnal bwyllgorau cyfunol
(hybrid) gyda’r tîm yn nodi eu bod yn
edrych ar ddatrysiadau posib cyn bwrw ymlaen i dreialu opsiynau. -
Ategwyd bod angen offer a deunyddiau newydd yn y siambrau
i alluogi hyn. Yn ystod y
drafodaeth cododd y sylwadau canlynol: -
Gofynnwyd beth fyddai'n digwydd efo’r hen drefn
cynadledda fideo -
Holwyd a oes cynlluniau i gael barn y rhai na lenwodd yr
holiadur. -
Mynegwyd teimlad bod pwyllgorau rhithiol yn dda o ran
arbed teithio a chostau, fodd bynnag nododd sawl aelod eu bod yn colli dod i bwyllgor
arferol. -
Holwyd a fydd yn bosib adolygu
unrhyw newidiadau ar ôl yr etholiad yn 2022 i weld beth fydd barn ymgeiswyr
newydd. -
Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb nododd
y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith: -
Bydd y ddarpariaeth hybrid yn galluogi i bobl ymuno o
siambr neu o bell o’u cartref. -
Ategodd Arweinydd Tîm Democratiaeth bod modd danfon
e-bost i’r aelodau sydd heb ymateb i’r holiadur er mwyn derbyn eu barn am sefyllfa pwyllgorau i’r dyfodol. -
Yn ôl y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
2021, mae’n rhaid cynnig dewis i aelodau i ymuno yn rhithiol . |
|
PARATOI AT ETHOLIADAU 2022 PDF 272 KB Cyflwyno’r rhaglen waith drafft. Gofyn am arweiniad ar y cyfeiriad ar gyfer darpariaeth TG yn dilyn yr etholiad Penderfyniad: a) Derbyn yr adroddiad b) Cymeradwyo’r rhaglen waith gyffredinol Cofnod: PENDERFYNWYD:
a) Derbyn yr adroddiad b) Cymeradwyo’r rhaglen waith cyffredinol Cyflwynwyd papur
gan Reolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith yn trafod y prif faterion dan
sylw wrth baratoi ar gyfer etholiadau
2022 gan fod rhaid cychwyn gweithredu arnynt
mor fuan ag sy’n bosib. Trafodwyd yn fanwl
y prif elfennau gan gynnwys: Paratoi: -
Amlinellwyd y materion sy’n cael
sylw, gan gynnwys sicrhau gwybodaeth
lawn i ddarpar ymgeiswyr -
Soniwyd am y prosiect sydd dan arweiniad y tîm Etholiadau
sy’n benodol yn ymwneud ag ysgolion ac ysgogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn
etholiadau, ac felly’n sicrhau amrywiaeth mewn democratiaeth. -
Nodwyd bydd gwybodaeth yn cael ei
rannu cyn gynted ag sy'n bosib ynglŷn ag wardiau etholiadol. -
Trafodwyd y syniad o greu
llawlyfr gyda’r brif wybodaeth ar gyfer cynghorwyr newydd. Darpariaeth
technoleg: -
Eglurwyd wrth yr aelodau y bydd
cynnig iddynt o wahanol fathau o ddarpariaeth yn 2022, sef darpariaeth eu
hunain, neu ddewis o wahanol ddyfeisiau gan y Cyngor. -
Ar yr un trywydd, soniwyd am y
gefnogaeth a hyfforddiant fydd ar gael yn ogystal â phecyn gwybodaeth ar gyfer
2022 ar gyfer cynghorwyr newydd a rhai
sydd yn dychwelyd. Trefniadau
diwrnod etholiad a’r diwrnod cyfrif: -
Trafodwyd y drefn cyhoeddi canlyniadau gan nodi bod y
gwasanaeth wedi derbyn canmoliaeth am y cynlluniau yn ystod yr etholiad
diwethaf. Anwytho a
rhaglen hyfforddiant: -
Eglurwyd y bydd dyddiau croeso ar
gyfer aelodau newydd a rhai fydd yn dychwelyd gyda sesiynau yn cychwyn yn sydyn
ar ôl y canlyniadau. -
Oherwydd cyfyngiadau sy’n bodoli yn bresennol, nodwyd bod
angen cynllunio ar gyfer cael aelodau i’r siambr a sicrhau iechyd a diogelwch
wrth wneud hyn. -
Fel rhan o’r rhaglen hyfforddiant
newydd bydd rhaid sicrhau hyfforddiant i
Gadeiryddion i ymdopi â chyfarfodydd rhithiol a hybrid. Yn ystod y
drafodaeth cododd y sylwadau canlynol: -
Holwyd a fydd dychwelyd i gyfrif ar y noson. -
Mynegwyd pryder nad oes gwybodaeth hyd hyn ynghylch
wardiau etholiadol a bod hyn yn annheg i ddarpar ymgeiswyr. -
Holwyd faint o gynghorwyr sydd
wedi ymddiswyddo a pham er mwyn gweld pa
rwystrau sy’n bodoli i fod yn gynghorydd. -
O ran y ddarpariaeth T.G mynegodd aelod y byddai’n haws i
gael cymorth T.G petai yr un ddyfais gan bawb. Mewn ymateb i’r
sylwadau: -
Eglurwyd na fydd newid I'r drefn gyfredol ar gyfer cyfri
pleidleisiau ac mai trafod cyhoeddi’r wybodaeth yn unig oedd y Rheolwr
Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith. -
Nodwyd bod gwaith ymchwil yn digwydd yn y cefndir er mwyn
dadansoddi rhesymau cynghorwyr dros ymddiswyddo |
|
AMRYWIAETH MEWN DEMOCRATIAETH PDF 445 KB I gyflwyno datganiad
drafft i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth er sylwadau cyn ei gyflwyno i’r
Cyngor llawn i'w fabwysiadu. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad. Cofnod: Cafwyd rhagair gan Bennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol yn nodi bod cais
gan Lywodraeth Cymru i bob awdurdod wneud datganiad ynghylch eu hymrwymiad tuag
at sicrhau amrywiaeth mewn democratiaeth. Ategodd bod y Cyngor yn bwriadu
cyflwyno’r datganiad ym Mis Hydref ynghyd a’r rhaglen waith fel bod amser i
ymgynghori gydag aelodau a swyddogion. Ar gynffon hyn,
nododd Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith bod cynllun drafft yn cael
ei lunio a rhai camau bellach wedi eu
cymryd. Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau isod: -
Nodwyd mai trigolion Gwynedd sy’n
ethol yr ymgeiswyr ac felly dim ond annog amrywiaeth all y Cyngor ei wneud.
Ategwyd ei fod allan o ddwylo’r Cyngor pwy sy’n cael eu hethol yn y diwedd gan
fod yr etholaeth yn dueddol i ethol y person ac nid eu cefndir neu ryw. -
Ategwyd ei fod yn bwysig bod y Cyngor yn cefnogi pwy
bynnag sy’n bwriadu sefyll fel ymgeisydd. Mewn ymateb nododd
y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith: -
Bod gan y cyngor rôl sef creu amgylchedd i ganiatáu i
unrhyw un sefyll fel ymgeisydd. Ar ben hyn, ategwyd bod angen sicrhau bod yr
amgylchedd yn un gynhwysol fel gallai bobl o bob math o gefndiroedd neu ryw
sefyll fel ymgeisydd. |
|
MYNEDIAD I'R CYHOEDD PDF 283 KB Cymeradwyo polisi drafft ar sicrhau mynediad i’r cyhoedd i’w
gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 08/07/2021 Treialu trefniadau webinar. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad a’r trefniadau dros dro. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Gwasanaeth
Cyfreithiol yn egluro’r trefniadau ar gyfer mynediad y cyhoedd at gyfarfodydd
rhithiol. Atgoffwyd y Pwyllgor bod hawliau’r cyhoedd wedi eu rhwystro am gyfnod
ar ddechrau’r argyfwng covid er mwyn galluogi cynnal
cyfarfodydd rhithiol. Ategwyd bod y rheoliadau yma wedi dod i ben ym mis Mai
2021 a bod newidiadau yn sgil hyn sef; -
Bod hawl statudol i aelodau a chyfranwyr
eraill i fynychu cyfarfodydd yn rhithiol -
Galluogi i’r cyhoedd fynychu cyfarfodydd
rhithiol Ymhelaethodd y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac
Iaith ar hyn drwy nodi bod trefniadau ar y gweill i geisio galluogi cynnal
cyfarfodydd hybrid fel bod posibilrwydd mynychu cyfarfod o bell. Ategwyd bod
cryn dipyn o waith paratoi ei angen a bydd yn rhaid treialu’n rheolaidd. Yn ystod y
drafodaeth cododd y sylwadau canlynol: -
Diolchwyd am eglurhad o’r sefyllfa anodd iawn
sydd ar gyfarfodydd oherwydd y cyfyngiadau presennol -
Mynegwyd barn nad yw’n ddigonol bod y cyhoedd yn cael gwylio gwe
ddarllediad yn unig a’i bod yn gwneud
gwahaniaeth i’r cyhoedd fod yn yr un ystafell er mwyn teimlo fel rhan o
benderfyniad. Ategwyd os yw’n fater sy’n effeithio ar gymdeithas y dylai aelod
o’r cyhoedd bod yn bresennol yn gorfforol, er yn rhithiol. -
Diolchwyd i’r swyddogion am y trefniadau a’r gwaith er mwyn i gyfarfodydd
barhau. Ategwyd y diolch hwn at gadeiryddion sydd wedi addasu i ddulliau newydd
o gadeirio. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r
Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith y pwyntiau canlynol: -
Mai trefniadau interim oedd yn rhwystro’r cyhoedd rhag cael mynediad ond
bod y rhain wedi eu codi a bod hawl ganddynt i weld a chlywed
trafodaethau’r cyfarfod bellach. -
Bod cynnal y cyfarfod drwy webinar wedi ei dreialu mewn pwyllgorau eraill a bydd
mwy o dreialu i ddod yn y dyfodol agos, fodd bynnag ni lwyddwyd i dreialu’r
pwyllgor heddiw oherwydd anawsterau
technegol. -
Bydd trefniadau’r dyfodol yn ei gwneud yn haws i aelodau neu’r cyhoedd
fynychu cyfarfodydd a phwyllgorau gan fod opsiwn i wneud hynny yn rhithiol. |