Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sion Owen 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddhieuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Thomas G
Ellis a Dylan Fernley. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar Dachwedd 29ain, 2016 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 29
Tachwedd, 2016 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD PDF 706 KB Cyflwyno drafft o’r adroddiad a fydd i’w gyflwyno i’r Cyngor Llawn ym mis Mehefin 2017 yn amlinellu’r gefnogaeth sydd wedi ei ddatblygu ac wrthi’n cael ei ddatblygu ar gyfer aelodau. Cofnod: Cyflwynwyd –
drafft o’r adroddiad sydd i’w gyflwyno i’r Cyngor ym mis Mehefin 2017 yn
amlinellu’r gefnogaeth i aelodau sydd wedi ei wireddu hyd yma dros gyfnod y
Cyngor hwn, ynghyd â’r elfennau sy’n parhau i gael eu
datblygu ar gyfer aelodau etholedig. Manteisiodd y
Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y cyfle i ddiolch i’r Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd a gweddill y Tîm am eu cefnogaeth i’r aelodau dros
gyfnod y Cyngor hwn. Diolchodd hefyd i
Arwel Ellis Jones, oedd bellach wedi ymddeol yn hyblyg o’i swydd fel Uwch
Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol, ac yn aros ymlaen am gyfnod i gyflwyno
cynghorwyr i waith y Cyngor newydd ar ôl yr etholiadau ym Mai. Diolchodd i ddau Gadeirydd y pwyllgor dros
gyfnod y Cyngor hwn, y Cynghorwyr Lesley Day a Thomas G.Ellis,
a dymunodd y gorau i’r aelodau hynny fyddai’n sefyll i lawr o’r Cyngor ym mis
Mai. Nodwyd y byddai
dyddiad y Cyngor llawn yn yr ail bwynt bwled o’r Trefniadau Llywodraethu dan y
pennawd ‘Beth sydd wedi newid yn y cyfnod ers 2012?’ yn cael ei gywiro i
ddarllen yr 2il o Fawrth, 2017. Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth:- ·
Nodwyd,
er bod y wefan yn rhestru dyddiadau cyfarfodydd ymchwiliadau craffu, nad oedd
dogfennau ar gael ar gyfer y cyfarfodydd hynny.
Atebodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd nad oedd rhaglenni a
nodiadau cyfarfodydd ymchwiliadau craffu yn ddogfennau cyhoeddus ac mai’r
aelodau’n unig oedd yn eu gweld. Nododd
hefyd fod gwaith ar droed i ddatblygu Modern.gov ymhellach. ·
Nodwyd
nad oedd llawer o gyfeiriad yn yr adroddiad blynyddol at y ddarpariaeth TG i
aelodau, er i’r Grŵp Ffocws dreulio cryn amser yn edrych ar hynny, ond
croesawyd y bwriad i symud o’r Ipad i offer mwy
defnyddiol yn y Cyngor newydd. Nodwyd y
byddai cyfle i drafod y gofynion TG yn llawn o dan yr eitem nesaf. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad. |
|
ETHOLIADAU LLYWODRAETH LEOL 2017 PDF 526 KB Diweddaru’r
Pwyllgor ar y trefniadau anwytho i aelodau yn dilyn etholiadau Mai 4ydd, 2017 Cofnod: Cyflwynwyd -
adroddiad yn diweddaru’r pwyllgor ar y trefniadau anwytho i aelodau yn dilyn
etholiadau 4 Mai, 2017. Rhoddodd y Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd gyflwyniad byr ar drefniadau’r etholiadau, gan
gyfeirio at:- ·
Y
sefyllfa gyfredol ·
Amserlen ·
Anwytho Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau, nododd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd:- ·
Y
byddai’r aelodau yn arwyddo i dderbyn y swydd wrth ymweld â’r
stondin Côd Ymddygiad ar y Dyddiau Croeso ar y 9fed
a’r 10fed o Fai a bod hynny’n dderbyniol yn
gyfreithiol. ·
Y
byddai’n rhaid edrych fesul achos ar sefyllfa’r aelodau hynny sy’n gwasanaethu
ar gyrff allanol, ond ddim yn cael eu hail-ethol ar y Cyngor ar ôl Mai. Dangoswyd y
fersiwn ddiweddaraf o’r Porth Aelodau a gofynnwyd i’r aelodau gysylltu â’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, neu aelod o’r Tîm,
os hoffent gyflwyno syniadau o ran sut i ddatblygu’r porth ymhellach. Rhoddodd y
Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad o’r sefyllfa o ran y
ddarpariaeth TG i aelodau o fis Mai ymlaen.
Nododd:- ·
O
ganlyniad i farn wahanol ymhlith aelodau’r Grŵp
Ffocws (tri o’r farn y dylid safoni ar y Microsoft Surface Pro 4, un eisiau’r Surface Pro 4 at ei ddefnydd ei
hun, ond yn hapus i eraill gael y dewis ac un yn ffafrio’r Ipad
Air 2 ar gyfer pawb) y gofynnwyd iddo ef, fel Pennaeth y Gwasanaeth
Democrataidd, ddod i benderfyniad ar y mater. ·
Iddo
bwyso a mesur yn ofalus, gan gymryd i ystyriaeth farn
y mwyafrif ac ymgynghori gyda’r swyddogion a’r Dirprwy Arweinydd, oedd yn aelod
o’r Grŵp Ffocws, cyn penderfynu ar y Microsoft Surface
Pro 4, ar y sail ei fod yn cynnig llawer mwy nag sy’n
bosib’ gyda’r mathau eraill o gyfarpar. ·
Mai’r
bwriad dros amser fyddai symud yn llwyr i’r Surface Pro 4, ac er y byddai anogaeth i bawb ddefnyddio’r Surface Pro 4 o’r cychwyn,
caniateid i aelodau sy’n dychwelyd barhau i ddefnyddio’r Ipad
hyd oni fyddai’n amser adnewyddu eu cyfarpar. ·
Byddai
hawl hefyd i aelodau ddefnyddio eu teclynnau personol eu hunain ac ‘roedd yr
Uned TG yn ffyddiog y gallent gefnogi’r offer hwnnw hefyd. Mynegodd y
Cadeirydd ei siomedigaeth na chafodd y pwyllgor hwn y cyfle i ddod i
benderfyniad ar y mater a gofynnodd i’r aelodau hynny oedd yn aelodau o’r
Grŵp Ffocws gyflwyno eu sylwadau. Nododd pob un o
aelodau’r grŵp eu bod yn gefnogol i benderfyniad y Pennaeth. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau
Democrataidd bod yr amserlen prynu’r cyfarpar yn golygu nad oedd yn bosib’ i’r
Grŵp Ffocws adrodd yn ôl i’r pwyllgor. Pwysleisiwyd
pwysigrwydd trefnu hyfforddiant buan i’r aelodau ar yr offer newydd. Atebodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd
fod hyfforddiant wedi ei drefnu ym Mehefin / Gorffennaf ac y byddai swyddogion
TG ar gael ar ddiwrnod y Cyngor Blynyddol i gynorthwyo aelodau i gael mynediad
i’w dogfennau. Ychwanegodd y Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd y gofynnid i bob aelod lenwi holiadur ar gychwyn y
Cyngor newydd ynglŷn â lefel eu hyder wrth ddefnyddio technoleg. Trafodwyd beth fyddai’n digwydd i’r cyfarpar presennol. Nodwyd mai argymhelliad y Grŵp Ffocws oedd gofyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Diweddaru’r pwyllgor ar y cais am y Siarter Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd –
adroddiad yn diweddaru’r pwyllgor ar y cais am y Siarter Aelodau gan gyfeirio’n
benodol at y gwaith o ddatblygu disgrifiadau o rolau aelodau. Nodwyd mai un o’r
prif fanteision o greu a mabwysiadu’r ‘disgrifiad o rolau’ fyddai’r budd i
aelodau newydd o’u defnyddio fel canllaw i ddeall yn well y gwahanol rolau ar
wahanol bwyllgorau. Gwahoddwyd y
pwyllgor i gyflwyno’r ‘disgrifiad o rolau’ ar eu ffurf drafft presennol fel
argymhelliad i’r Cyngor llawn newydd eu mabwysiadu’n ffurfiol yn ei gyfarfod ym
Mehefin. Gofynnwyd hefyd i’r pwyllgor
ystyried cyhoeddi’r ‘disgrifiad o rolau’ drafft ar y Porth aelodau fel arf i
gynorthwyo’r aelodau newydd ym mis Mai, cyn eu mabwysiadu yn ffurfiol gan y
Cyngor newydd. Awgrymwyd y
dylai’r ‘disgrifiad o rolau’ gynnwys cymal bod rhaid i aelodau fynychu
cyfarfodydd, ond nodwyd y byddai hynny’n tramgwyddo’r
rheol 6 mis, sef Adran 85 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sy’n darparu bod
cyfnod aelod o’r Cyngor yn dod i ben 6 mis ar ôl ei bresenoldeb diwethaf mewn
cyfarfod o’r Cyngor, os na chymeradwyir yr absenoldeb gan yr awdurdod. Nododd y Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd mai mater o anogaeth ydoedd a bod ‘mynychu holl
gyfarfodydd a phwyllgorau perthnasol ...’ wedi’i restru fel un o’r
swyddogaethau penodol yn y disgrifiad o rôl a chyfrifoldebau Aelod o’r
Cyngor. Holwyd a fyddai’n bosib’
amlygu’r swyddogaeth yma mewn print bras, ond nodwyd y gallai hynny danseilio’r
swyddogaethau eraill ar y rhestr, sydd yr un mor bwysig. Awgrymodd y
Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y gellid edrych ar Bapur Gwyn diweddar
Llywodraeth Cymru ar ddiwygio llywodraeth leol er mwyn gweld oes modd cryfhau’r
disgwyliadau o safbwynt presenoldeb. PENDERFYNWYD 1. Cyflwyno’r
‘disgrifiad o rolau’ ar eu ffurf drafft presennol fel argymhelliad i’r Cyngor
llawn newydd eu mabwysiadu’n ffurfiol yn ei gyfarfod ar 15 Mehefin, 2017. 2. Cyflwyno’r
‘disgrifiad o rolau’ ar eu ffurf drafft presennol ar y Porth aelodau hyd iddynt
gael eu mabwysiadu’n ffurfiol gan y Cyngor llawn. |
|
CYDNABYDDIAETH ARIANNOL I AELODAU ETHOLEDIG PDF 266 KB Diweddaru’r pwyllgor ar faterion cydnabyddiaeth ariannol a
cheisio eu barn ar argymhellion i’r Cyngor newydd. Cofnod: Cyflwynwyd –
adroddiad yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion cydnabyddiaeth ariannol ac yn
ceisio eu barn ar argymhellion i’r Cyngor newydd ynglŷn â’r hyn y dylid ei dalu ym mlwyddyn gyntaf y Cyngor newydd. Cyfeiriwyd at brif
bwyntiau Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, a gofynnwyd am farn y
pwyllgor ar ddau o’r pwyntiau hynny’n benodol, sef:- ·
Pob
cyngor unigol i benderfynu gosod Aelodau Cabinet ar un o ddwy lefel, Lefel 1
(£29,100) neu Lefel 2 (£26,200). ·
Pob
cyngor unigol i benderfynu gosod Cadeiryddion Pwyllgorau ar un o ddwy lefel,
Lefel 1 (£22,100) neu Lefel 2 (£20,100). Atgoffwyd yr
aelodau fod y Cyngor wedi penderfynu gwneud taliadau ar Lefel 1 y llynedd. Nodwyd, wrth wneud penderfyniad eleni, y
dylai’r Cyngor ystyried, nid yn unig ar ba lefel i osod y swyddi gwahanol, ond
hefyd a oes gwahaniaeth yn y cyfrifoldebau a ysgwyddir gan Gadeiryddion
Pwyllgorau (yn cynnwys y rhai sy’n derbyn cydnabyddiaeth arbennig ar hyn o bryd
a’r rhai sydd ddim). PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor y dylid:- 1. Cadw lefel cyflogau
Aelodau Cabinet a Chadeiryddion Pwyllgorau ar Lefel 1 ym mlwyddyn gyntaf y
Cyngor newydd. 2. Cynnal arolwg o lwyth
gwaith yr holl gadeiryddion ymhen blwyddyn i weld a oes lle i amrywio’r
penderfyniad neu ail-ystyried y lefelau cyflog. |