Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sion Owen  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

2.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellid eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

3.

COFNODION pdf eicon PDF 216 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar Fedi 20fed 2016 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Medi, 2016 fel rhai cywir.

 

4.

YMGYNGHORIAD PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL pdf eicon PDF 285 KB

Derbyn sylwadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd mewn ymateb i’r ymgynghoriad. 

Cofnod:

Cyflwynwydsylwadau o’r cyfarfod a fynychwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Hwn a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd gydag aelodau’r Panel Annibynnol. Nodwyd fod  cynnydd bychan o 0.75% yn y cyflog sylfaenol i aelodau etholedig yn cael ei fwriadau ar gyfer y flwyddyn nesaf ar ôl etholiadau’r Cyngor. Golyga hynny gynnydd o £100 y flwyddyn. Gofynnwyd i’r pwyllgor am eu sylwadau.

 

Adroddwyd mai pwrpas yr ad-daliad costau gofal oedd galluogi pobl o drawstoriad o gefndiroedd a sefyllfaoedd i fod yn aelodau etholedig trwy eu galluogi i fynychu cyfarfodydd. Nodwyd na fu unrhyw hawliad am ad-daliad o gostau gofal yn ddiweddar gan fod cyhoeddusrwydd negyddol wedi deillio o gyhoeddi hawlio’r ad-daliadau gofal.

 

O ran cofnodi’r rheswm pam fod aelod wedi bod yn absennol o gyfarfod, nodwyd mai’r bwriad oedd er mwyn hysbysu eraill mai er mwyn cofnodi methu mynychu gan fod aelod yn rhywle arall ar fusnes y Cyngor.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:-

 

·         Beth oedd ymateb cynghorau eraill? Mewn ymateb nododd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni fod barn gymysg ymysg yn gyffredinol, gydag ambell gyngor yn gwrthod y cynnig

·         Y dylid derbyn y cynnydd o ran egwyddor, er mwyn hybu ymgeiswyr o wahanol gefndiroedd i sefyll mewn etholiad

·         Ei fod yn bwysig gochel rhag gorfod rhannu manylion am ad-daliadau costau gofal trwy gais rhyddid gwybodaeth. Mewn ymateb nododd yr Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol nad oedd manylion am yr ad-daliadau yn wybodaeth oedd yn dod o dan yrhawl i wybodaeth’. Gan y byddai gwirio fod yr arian wedi ei rannu yn briodol yn cael ei wirio yn y ffordd arferol.

·         Dylid cofnodi pan fo aelodau yn absennol oherwydd eu bod ar fusnes y Cyngor, ac y dylai sefydliadau fod yn ymwybodol o gyfarfodydd sy’n cael eu trefnu gan sefydliadau eraill a’r galwadau hynny ar amser aelodau.

·         Na ddylai’r Panel dderbyn gwahoddiad i siarad gyda’r Cyngor Llawn. Mewn ymateb nododd yr Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol mai eisiau clywed lleisiau gwahanol oedd y Panel, ond nad oedd hynny o reidrwydd yn gorfod digwydd yn y Cyngor Llawn.

 

PENDERFYNWYD:

a) cefnogi’r cynnig i gynyddu y lwfans sylfaenol o £13,300 i £13,400

b) er mwyn hyrwyddo mwy o aelodau cymwys i hawlio y cymorth costau gofal, cefnogwyd y dylid cyhoeddi cyfanswm a ad-dalwyd gan yr awdurdod yn ystod y flwyddyn, ond heb briodoli’r taliadau i unrhyw aelod, a gofyn i’r Panel hefyd ystyried sut i sicrhau na fyddai ceisiadau rhyddid gwybodaeth yn y dyfodol yn golygu y byddai’n rhaid i awdurdodau ryddhau gwybodaeth am hawlio ad-daliadau costau gofal fesul unigolyn.

c) cefnogi’r trefniadau newydd arfaethedig ar gyfer absenoldeb oherwydd salwch gan ddeilydd uwch gyflog.

ch) cefnogi’r argymhelliad i nodi’r rheswm am absenoldeb lle bo hynny yn sgil aelod yn cynrychioli’r Cyngor mewn cyfarfod arall, tra’n nodi y byddai’n rhaid i aelodau unigol ddarparu’r wybodaeth eu hunain.

d) gwahodd y Panel  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

ETHOLIADAU LLYWODRAETH LEOL 2017 pdf eicon PDF 131 KB

Diweddaru'r aelodau o'r gwaith paratoi sy’n digwydd ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Leol 2017

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad cynnydd ar y paratoadau ar gyfer etholiad 2017. Adroddwyd fod y trefniadau arfaethedig wedi eu cyflwyno yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Nodwyd fod y cyfarfodydd ar gyfer codi ymwybyddiaeth ymysg darpar ymgeiswyr wedi eu trefnu.

 

Ychwanegodd fod angen i’r Pwyllgor ystyried tri pheth yn benodol wrth drafod y Dyddiadau Croesawu:
A – Cynyddu’r adnodd ar gyfer dysgu dros y we - e-ddysgu

B – Edrych ar wneud hyfforddiant yn fandadol

C – Cyhoeddi presenoldeb aelodau mewn hyfforddiant

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:-

 

·         Oes yno awgrym nad yw Aelodau yn mynychu’r cyfarfodydd sydd yn eu hardaloedd eu hunain? Atebodd yr Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol fod yr Is-grŵp wedi trefnu i Aelodau nad oedd yn bwriadu ymgeisio yn yr Etholiad i fynd i siarad yn y cyfarfodydd, gan wneud hynny y tu allan i’w hardaloedd. Nododd fod y cyfarfodydd yn rhai cyhoeddus, gyda’r bwriad o rannu gwybodaeth a rhoi cyfle i ofyn cwestiynau yn unig. ‘Roedd bwriad i rannu gwybodaeth gyda’r Cyngor a’r Fforymau ardal yn ogystal.

·         Fod clerc un Cyngor Cymuned/Tref wedi cwyno am y  poster hyrwyddo gan ei fod yn teimlo ei fod yn ddilornus gan roi argraff blentynnaidd o Gynghorwyr. Mewn ymateb nododd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni mai bwriad y poster oedd bod yn syml a pheidio â bod yn fygythiol, heb unrhyw fwriad bod yn ddilornus.

·         Mynegwyd pryder, o weld yr amser byr sydd rhwng yr etholiad a’r sesiynau anwytho, y gallai fod yn anodd i Aelodau sydd newydd eu hethol yn 2017 drefnu amser i ffwrdd o’r gwaith i fynychu’r sesiynau anwytho. Mewn ymateb nododd yr Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol  fod bwriad rhannu'r dyddiadau anwytho i ddarpar ymgeiswyr er mwyn eu rhagrybuddio a pharatoi petaent yn cael eu hethol.

·         Fod e-ddysgu yn berthnasol iawn ac yn bwysig er mwyn galluogi aelodau i dderbyn hyfforddiant ar amser sy’n gyfleus iddynt hwy.

·         Y dylid nodi lefel presenoldeb aelodau mewn hyfforddiant, gan geisio cynnwys gwybodaeth am e-ddysgu hefyd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

6.

DATBLYGIAD MODERN.GOV pdf eicon PDF 238 KB

Diweddaru'r aelodau ar y gwaith mwyaf diweddar a gwahodd barn ar faterion i gael sylw

Cofnod:

Cyflwynwyd - diweddariad ar ddefnydd y Cyngor o feddalwedd Modern.gov ers prynu a mewnosod y meddalwedd yn 2015. Nodwyd fod y rhaglen yn galluogi’r Gwasanaeth Democratiaeth i gyhoeddi mwy o wybodaeth, gyda 40 aelod etholedig yn defnyddio’rapsy’n gysylltiedig â’r meddalwedd.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:-

 

·         Byddai’n fuddiol cysylltu’n well gydag Outlook er mwyn hwyluso presenoldeb aelodau a swyddogion wrth drefnu cyfarfodydd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

7.

SIARTER AELODAU pdf eicon PDF 123 KB

Diweddaru'r pwyllgor ar y cais am y siarter

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad, gan egluro fod yr adnoddau ar gael gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i asesu cynghorau ar gyfer y freinlen (Siarter Aelodau) bellach. Un o’r prif faterion oedd angen sylw ar gyfer cyflawni’r Siarter oedd sicrhau bod swydd ddisgrifiadau i aelodau yn gywir ac yn addas i bwrpas. Gofynnwyd felly am ganiatâd y Pwyllgor i ymgynghori â’r rhai sy’n cyflawni’r swyddi dan sylw a chynnull is-grŵp i roi eu barn a chynorthwyo’r Cyngor i ennill y Siarter.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:-

 

·         O feddwl fod yno swydd ddisgrifiad, oes yno wedyn elfen o werthuso perfformiad? Mewn ymateb nododd yr Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol gan nad yw aelodau etholedig yn staff i’r Cyngor, nid oedd elfen o werthuso ynghlwm â mabwysiadu swydd ddisgrifiadau. Fodd bynnag, roedd cyfweliadau datblygu personol ar gael i unrhyw aelod sy’n dymuno manteisio arnynt.

·         Ychwanegucyd-weithio a thrafod gyda’r deilydd portffolioi swydd ddisgrifiad Pencampwr.

·         Ychwanegu categoricynrychioli’r Cyngor ar gyrff allanol i’r swydd ddisgrifiad cyffredinol. Nodwyd fod adolygiad ar y gweill yn y maes i fesur y disgwyliadau ar aelodau sy’n aelodau o gyrff allanol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad