Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd Jason Humphreys. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad
o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Dim |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2015, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd, 2015 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT PENNAETH GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD 2015-16 PDF 487 KB I ystyried adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Cofnod: Cyflwynwyd – drafft o’r adroddiad blynyddol
sydd i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 12 Mai, 2016 yn rhoi diweddariad i
aelodau ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael i aelodau, y datblygiadau sydd
wedi’u gwireddu a’r rhai sydd ar waith. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:- ·
Bod gwerth ar y cyfan
i’r fforymau ardal fel cyfrwng i aelodau dderbyn gwybodaeth a mynegi barn ar
wahanol faterion, ond bod angen i swyddogion gyfyngu ar hyd eu cyflwyniadau. ·
Angen mwy o hyfforddiant i’r aelodau ar ddefnyddio
Modern.Gov. Mewn ymateb, nododd yr Uwch
Reolwr Democratiaeth a Chyflawni bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynnal
cymorthfeydd, cyn neu ar ôl y fforymau ardal, i fynd drwy’r
anawsterau. ·
Angen tynnu sylw’r
Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth at y broblem gyda lled band yn ystafelloedd
cyfarfod y Cyngor, yn arbennig dros amser cinio. ·
Bod cadeiryddion
cyfarfodydd sy’n cael eu cynnal trwy fideo-gynhadledd yn dueddol o ganolbwyntio
ar yr hyn sy’n digwydd yng Nghaernarfon, gan ddiystyru pobl yn y
lleoliadau eraill. Awgrymwyd bod
rôl i’r is-gadeirydd fod yn cadw golwg ar y drafodaeth. ·
Gall mynediad o bell fod
o ddefnydd i aelodau lleol, ymgeiswyr / gwrthwynebwyr sy’n dymuno annerch y
Pwyllgor Cynllunio. Nododd yr Uwch
Reolwr Democratiaeth a Chyflawni fod yna ystyriaethau cyfansoddiadol ynghlwm â
hynny, ond y gellid edrych y mater. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. Gofynnodd y Cadeirydd i bawb aros ar ôl ar
ddiwedd y cyfarfod i gael sgwrs gyda’r swyddogion ynglŷn â:- ·
Rhaeadr, a sut i’w
wella; ·
Rhaglen hyfforddiant ar
gyfer y flwyddyn i ddod a chyfle i weld sut mae e-ddysgu yn datblygu. |
|
ETHOLIADAU LLYWODRAETH LEOL 2017 PDF 147 KB I ystyried adroddiad yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni. Cofnod: Cyflwynwyd – diweddariad ar waith yr Is-grŵp Amrywiaeth ynghyd ag
amlinelliad o’r gwaith paratoi a ganlyn ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Leol
2017:- ·
Sesiynau codi
ymwybyddiaeth darpar ymgeiswyr; ·
Rhaglen anwytho aelodau
etholedig yn dilyn etholiad Mai 2017; ·
Cyfarpar electroneg. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:- ·
Pwysigrwydd datblygu
sesiynau codi ymwybyddiaeth ar gyfer y rhai sy’n rhoi eu henwau ymlaen i sefyll
etholiad yn 2017. ·
Dylid annog y grwpiau
gwleidyddol i ystyried arddel system fentora drwy baru cynghorydd newydd gyda
chynghorydd mwy profiadol. Gofynnwyd i’r pwyllgor adnabod 4-5 o aelodau fyddai’n fodlon i’r
gwasanaeth ymgynghori â hwy wrth i’r gwaith fynd rhagddo o baratoi ar gyfer y
sesiynau codi ymwybyddiaeth, adnabod y rhaglen anwytho a’r rhaglen hyfforddiant
ynghyd ag ystyriaethau electroneg. PENDERFYNWYD sefydlu
grŵp ffocws, yn cynnwys y Cynghorwyr Annwen Daniels, Selwyn Griffiths,
Jason Humphreys, Michael Sol Owen, ynghyd ag aelod cabinet, i brofi’r materion
uchod wrth i’r datblygiadau fynd rhagddynt. |
|
TECHNOLEG GWYBODAETH I AELODAU ETHOLEDIG PDF 240 KB I ystyried adroddiad yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni a’r Uwch Reolwr Technoleg Gwybodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd – diweddariad ar y materion technoleg gwybodaeth a ganlyn:- ·
Hyfforddiant llechen; ·
Derbyn e-bost cynghoryddxx@gwynedd.gov.uk
ar declynnau cludadwy; ·
Paratoi at etholiadau
2017. Eglurodd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni:- ·
Y cafwyd cadarnhad erbyn
hyn fod modd cynnig gwasanaeth ble gall swyddogion ac aelodau etholedig dderbyn
/ gyrru e-byst swyddogol y Cyngor ar eu ffonau symudol, ar yr amod bod hyn yn
cael ei wneud mewn ffordd ddiogel gan ymlynu at yr amodau y cytunwyd arnynt
gyda’r archwilwyr. ·
Y byddai cost y
feddalwedd fesul dyfais yn £40 yn y flwyddyn gyntaf a £10 y flwyddyn wedi
hynny. PENDERFYNWYD y dylid
cynnig gwasanaeth derbyn / gyrru e-byst cynghoryddxx@gwynedd.gov.uk
ar ffôn symudol i unrhyw aelod sy’n dymuno hynny a bod y Cyngor yn derbyn y
gost ac yn ei gwneud yn glir i’r aelodau beth yw’r amodau sydd ynghlwm â’r ddarpariaeth. |
|
CYDNABYDDIAETH ARIANNOL I AELODAU ETHOLEDIG PDF 241 KB I ystyried adroddiad yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Uwch Reolwr
Democratiaeth a Chyflawni yn ceisio barn y pwyllgor ar ddewisiadau o ran
cydnabyddiaeth ariannol i aelodau etholedig. Eglurodd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a
Chyflawni fod cynigion terfynol y Panel Cydnabyddiaeth Ariannol aelodau
etholedig ar gyfer y flwyddyn nesaf yn nodi bod pob cyngor unigol i
benderfynu:- ·
Gosod Aelodau Cabinet ar
un o ddwy lefel, Lefel 1, £29,000 (fel ar hyn o bryd) neu Lefel 2 (£26,000); ·
Gosod Cadeiryddion
Pwyllgorau ar un o ddwy lefel, Lefel 1, £22,000 (fel ar hyn o bryd) neu Lefel 2
(£20,000). Gofynnwyd hefyd i’r pwyllgor ystyried a oes
gwahaniaeth yn y cyfrifoldebau a ysgwyddir gan y cadeiryddion pwyllgorau sy’n
derbyn cydnabyddiaeth uwch ar hyn o bryd, sef Pwyllgor Craffu (x3), Pwyllgor
Archwilio, Pwyllgor Cynllunio, Pwyllgor Trwyddedu a Phwyllgor Apelau Cyflogaeth, a chadeiryddion rhai pwyllgorau eraill
sydd ddim yn derbyn cydnabyddiaeth uwch, fel y Pwyllgor Pensiynau, y Pwyllgor
Iaith a’r pwyllgor hwn. Nododd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a
Chyflawni fod y Pennaeth Cyllid wedi tynnu sylw at y ffaith y bu cynnydd
sylweddol yng ngwaith Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau yn sgil sefydlu’r Bwrdd
Pensiynau (sy’n dal y Pwyllgor Pensiwn i gyfrif). Hefyd, dros amser, byddai yna dipyn mwy o
waith yn digwydd ar lefel ranbarthol yn y maes pensiynau. Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd
fod llwyth gwaith y Pwyllgor Apelau Cyflogaeth wedi
gostwng dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac y byddai nifer yr apeliadau yn
debygol o leihau eto i’r dyfodol wrth i fwy o’r gwaith gael ei wneud gan
swyddogion a’r undebau llafur. Eglurodd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a
Chyflawni ymhellach y gosodwyd cap ar nifer y cadeiryddion sy’n gallu derbyn
cydnabyddiaeth uwch, ac o ychwanegu un cadeirydd at y rhestr, byddai’n rhaid
tynnu un arall i ffwrdd. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:- ·
Bod dyletswyddau aelodau
Cabinet wedi’u dyrannu i sicrhau cysondeb a llwyth gwaith cytbwys a gallai rhoi
aelodau Cabinet ar wahanol lefelau cyflog arwain at gryn gymhlethdod, gan olygu
fod symud dyletswyddau o un aelod Cabinet i un arall yn mynd yn anos. ·
Bod natur ddaearyddol y
sir a’r sialens o ddarparu gwasanaethau ar draws yr ail sir fwyaf yng Nghymru
yn ffactor y dylid ei ystyried ar gyfer yr aelodau Cabinet a Chadeiryddion y
pwyllgorau. ·
Bod gofyn ar aelodau i
fod yn teithio ar draws Gwynedd, gan gofio y gall
gymryd oddeutu dwy awr a hanner i deithio o Ogledd y sir i’r De. ·
Gan ei bod yn ymddangos
bod llwyth gwaith rhai cadeiryddion yn fwy nag eraill, y dylid sefydlu
grŵp bychan i edrych ar hyn ymhellach. ·
Angen gweld a fyddai
defnyddio elfennau o’r drefn arfarnu swyddi o gymorth gyda’r gwaith pellach
yma. ·
Pwysigrwydd ystyried
elfennau heblaw nifer cyfarfodydd, e.e. hyd cyfarfodydd a gofynion y tu allan
i’r cyfarfodydd. PENDERFYNWYD (a) Argymell i’r Cyngor y dylid cadw lefel cyflogau Aelodau Cabinet ar Lefel 1 (ar sail ystyried y pwysau gwaith a chyfrifoldebau cyfartal i’r meysydd gwaith) a chadw lefelau cyflogau Cadeiryddion Pwyllgorau ar Lefel 1 (ar sail ystyried y pwysau gwaith, natur ddaearyddol y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |