skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Natalie Lloyd Jones  01286 679780

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-Gadeirydd am y flwyddyn 2021/22.

Penderfyniad:

Etholwyd Y Cynghorydd Dewi Owen fel Is-Gadeirydd ar gyfer y flwyddyn 2021/22.

 

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr: Annwen Daniels, Mair Rowlands, Linda Ann Jones.

.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

4.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sydd yn fater o frys yn nhyb y cadeirydd er mwyn eu hystyried.

Cofnod:

Nid oedd Materion Brys.

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 219 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig fod cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18fed Chwefror, 2021, yn cael eu harwyddo fel rhai cywir.

Cofnod:

Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod y pwyllgor blaenorol ar y 18 Chwefror 2021 yn gywir.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd dyddiadau wedi eu pennu ar gyfer y Fforymau Ardal, gyda’r Rheolwr Democratiaeth ac Iaith yn nodi nad oedd trefniadau pendant hyd yn hyn ond y bydd diweddariad mor fuan ag sy’n bosib.

 

6.

ADRODDIAD HOLIADUR BODLONRWYDD pdf eicon PDF 246 KB

Rhannu ymatebion yr Holiadur Bodlonrwydd Aelodau gyda’r Tîm Gwasanaethau Democratiaeth.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd Tîm Democratiaeth.  Eglurodd bod yr holiadur bodlonrwydd wedi ei hanfon at aelodau ym mis Ebrill a rhoddwyd tan fis Mehefin iddynt ymateb.

Eglurwyd bod amryw o gwestiynau yn yr holiadur o ran gwaith y tîm, datblygiadau i'r dyfodol, barn aelodau ar drefniadau pwyllgorau'r dyfodol.  Derbyniwyd 38 ymateb, sef dros hanner yr aelodau.

 

Nodwyd  bod aelodau yn hapus gyda’r gwasanaeth gyda 92% yn nodi Da neu Da Iawn fel ymateb.

 

Derbyniwyd sylwadau am y gwasanaeth ac awgrymiadau o ran datblygiadau fel a ganlyn:

-        Sylwadau ynghylch y drefn gyda’r Cabinet, fodd bynnag nodwyd mai’r drefn statudol yw hon.

-        Gofynnwyd am fwy o sesiynau hyfforddiant rheoli amser felly anfonwyd y sylw yma ymlaen at y tîm Dysgu a Datblygu.

-        Codwyd pryder bod anhawster cysylltu gyda rhai swyddogion drwy e-byst.

-        Cafwyd syniadau i ehangu’r sesiynau rhithiol dros baned sydd eisoes yn cael eu cynnal i ferched.

-        Gofynnwyd am hyfforddiant pellach ar Sesiynau Teams a Zoom.

-        Mewn perthynas â phwyllgorau’r dyfodol nododd 84% eu bod yn awyddus i sicrhau fod modd cynnal bwyllgorau cyfunol (hybrid) gyda’r  tîm yn nodi eu bod yn edrych ar ddatrysiadau posib cyn bwrw ymlaen i dreialu opsiynau.

-        Ategwyd bod angen offer a deunyddiau newydd yn y siambrau i alluogi hyn.

 

Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau canlynol:

 

-        Gofynnwyd beth fyddai'n digwydd efo’r hen drefn cynadledda fideo

-        Holwyd a oes cynlluniau i gael barn y rhai na lenwodd yr holiadur.

-        Mynegwyd teimlad bod pwyllgorau rhithiol yn dda o ran arbed teithio a chostau, fodd bynnag nododd sawl aelod eu bod yn colli dod i bwyllgor arferol.

-        Holwyd a fydd yn bosib adolygu unrhyw newidiadau ar ôl yr etholiad yn 2022 i weld beth fydd barn ymgeiswyr newydd.

-        Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb nododd y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith:

-        Bydd y ddarpariaeth hybrid yn galluogi i bobl ymuno o siambr neu o bell o’u cartref.

-        Ategodd Arweinydd Tîm Democratiaeth bod modd danfon e-bost i’r aelodau sydd heb ymateb i’r holiadur er mwyn derbyn eu barn am  sefyllfa pwyllgorau i’r dyfodol.

-        Yn ôl y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae’n rhaid cynnig dewis i aelodau i ymuno yn rhithiol .

 

 

 

7.

PARATOI AT ETHOLIADAU 2022 pdf eicon PDF 272 KB

Cyflwyno’r rhaglen waith drafft.

Gofyn am arweiniad ar y cyfeiriad ar gyfer darpariaeth TG yn dilyn yr etholiad

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad

b)    Cymeradwyo’r rhaglen waith gyffredinol

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD:

 

a)    Derbyn yr adroddiad

b)    Cymeradwyo’r rhaglen waith cyffredinol

Cyflwynwyd papur gan Reolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith yn trafod y prif faterion dan sylw wrth baratoi  ar gyfer etholiadau 2022 gan fod rhaid cychwyn gweithredu  arnynt mor fuan ag sy’n bosib.

 

Trafodwyd yn fanwl y prif elfennau gan gynnwys:

 

Paratoi:

-        Amlinellwyd y materion sy’n cael sylw, gan gynnwys  sicrhau gwybodaeth lawn i ddarpar ymgeiswyr

-        Soniwyd am y prosiect sydd dan arweiniad y tîm Etholiadau sy’n benodol yn ymwneud ag ysgolion ac ysgogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn etholiadau, ac felly’n sicrhau amrywiaeth mewn democratiaeth.

-        Nodwyd bydd gwybodaeth yn cael ei rannu cyn gynted ag sy'n bosib ynglŷn ag wardiau etholiadol.

-        Trafodwyd y syniad o greu llawlyfr gyda’r brif wybodaeth ar gyfer cynghorwyr newydd.

Darpariaeth technoleg:

-        Eglurwyd wrth yr aelodau y bydd cynnig iddynt o wahanol fathau o ddarpariaeth yn 2022, sef darpariaeth eu hunain, neu ddewis o wahanol ddyfeisiau gan y Cyngor.

-        Ar yr un trywydd, soniwyd am y gefnogaeth a hyfforddiant fydd ar gael yn ogystal â phecyn gwybodaeth ar gyfer 2022  ar gyfer cynghorwyr newydd a rhai sydd yn dychwelyd.

 

Trefniadau diwrnod etholiad a’r diwrnod cyfrif:

-        Trafodwyd y drefn cyhoeddi canlyniadau gan nodi bod y gwasanaeth wedi derbyn canmoliaeth am y cynlluniau yn ystod yr etholiad diwethaf.

Anwytho a rhaglen hyfforddiant:

-        Eglurwyd y bydd dyddiau croeso ar gyfer aelodau newydd a rhai fydd yn dychwelyd gyda sesiynau yn cychwyn yn sydyn ar ôl y canlyniadau. 

-        Oherwydd cyfyngiadau sy’n bodoli yn bresennol, nodwyd bod angen cynllunio ar gyfer cael aelodau i’r siambr a sicrhau iechyd a diogelwch wrth wneud hyn.

-        Fel rhan o’r rhaglen hyfforddiant newydd bydd rhaid sicrhau  hyfforddiant i Gadeiryddion i ymdopi â chyfarfodydd rhithiol a hybrid.

 

 

Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau canlynol:

 

-        Holwyd a fydd dychwelyd i gyfrif ar y noson.

-        Mynegwyd pryder nad oes gwybodaeth hyd hyn ynghylch wardiau etholiadol a bod hyn yn annheg i ddarpar ymgeiswyr.

-        Holwyd faint o gynghorwyr sydd wedi ymddiswyddo a pham er mwyn gweld  pa rwystrau sy’n bodoli i fod yn gynghorydd.

-        O ran y ddarpariaeth T.G mynegodd aelod y byddai’n haws i gael cymorth T.G petai yr un ddyfais gan bawb.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau:

 

-        Eglurwyd na fydd newid I'r drefn gyfredol ar gyfer cyfri pleidleisiau ac mai trafod cyhoeddi’r wybodaeth yn unig oedd y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith.

-        Nodwyd bod gwaith ymchwil yn digwydd yn y cefndir er mwyn dadansoddi rhesymau cynghorwyr dros ymddiswyddo

 

8.

AMRYWIAETH MEWN DEMOCRATIAETH pdf eicon PDF 445 KB

I gyflwyno datganiad drafft i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth er sylwadau cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn i'w fabwysiadu.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cafwyd rhagair gan Bennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol yn nodi bod cais gan Lywodraeth Cymru i bob awdurdod wneud datganiad ynghylch eu hymrwymiad tuag at sicrhau amrywiaeth mewn democratiaeth. Ategodd bod y Cyngor yn bwriadu cyflwyno’r datganiad ym Mis Hydref ynghyd a’r rhaglen waith fel bod amser i ymgynghori gydag aelodau a swyddogion.

 

Ar gynffon hyn, nododd Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith bod cynllun drafft yn cael ei lunio  a rhai camau bellach wedi eu cymryd.

 

Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau isod:

 

-        Nodwyd mai trigolion Gwynedd sy’n ethol yr ymgeiswyr ac felly dim ond annog amrywiaeth all y Cyngor ei wneud. Ategwyd ei fod allan o ddwylo’r Cyngor pwy sy’n cael eu hethol yn y diwedd gan fod yr etholaeth yn dueddol i ethol y person ac nid eu cefndir neu ryw.

-        Ategwyd ei fod yn bwysig bod y Cyngor yn cefnogi pwy bynnag sy’n bwriadu sefyll fel ymgeisydd.

 

 

Mewn ymateb nododd y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith:

 

-        Bod gan y cyngor rôl sef creu amgylchedd i ganiatáu i unrhyw un sefyll fel ymgeisydd. Ar ben hyn, ategwyd bod angen sicrhau bod yr amgylchedd yn un gynhwysol fel gallai bobl o bob math o gefndiroedd neu ryw sefyll fel ymgeisydd.

 

9.

MYNEDIAD I'R CYHOEDD pdf eicon PDF 283 KB

Cymeradwyo polisi drafft ar sicrhau mynediad i’r cyhoedd i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 08/07/2021

Treialu trefniadau webinar.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a’r trefniadau dros dro.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol yn egluro’r trefniadau ar gyfer mynediad y cyhoedd at gyfarfodydd rhithiol. Atgoffwyd y Pwyllgor bod hawliau’r cyhoedd wedi eu rhwystro am gyfnod ar ddechrau’r argyfwng covid er mwyn galluogi cynnal cyfarfodydd rhithiol. Ategwyd bod y rheoliadau yma wedi dod i ben ym mis Mai 2021 a bod newidiadau yn sgil hyn sef;

 

-        Bod hawl statudol i aelodau a chyfranwyr eraill i fynychu cyfarfodydd yn rhithiol

-        Galluogi i’r cyhoedd fynychu cyfarfodydd rhithiol

 

Ymhelaethodd y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith ar hyn drwy nodi bod trefniadau ar y gweill i geisio galluogi cynnal cyfarfodydd hybrid fel bod posibilrwydd mynychu cyfarfod o bell. Ategwyd bod cryn dipyn o waith paratoi ei angen a bydd yn rhaid  treialu’n rheolaidd.

 

Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau canlynol:

 

-        Diolchwyd am eglurhad o’r sefyllfa anodd iawn sydd ar gyfarfodydd oherwydd y cyfyngiadau presennol

-        Mynegwyd barn nad yw’n ddigonol bod y cyhoedd yn cael gwylio gwe ddarllediad yn unig a’i bod yn gwneud  gwahaniaeth i’r cyhoedd fod yn yr un ystafell er mwyn teimlo fel rhan o benderfyniad. Ategwyd os yw’n fater sy’n effeithio ar gymdeithas y dylai aelod o’r cyhoedd bod yn bresennol yn gorfforol, er yn rhithiol.

-        Diolchwyd i’r swyddogion am y trefniadau a’r gwaith er mwyn i gyfarfodydd barhau. Ategwyd y diolch hwn at gadeiryddion sydd wedi addasu i ddulliau newydd o gadeirio.

 

Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith y pwyntiau canlynol:

 

-        Mai trefniadau interim oedd yn rhwystro’r cyhoedd rhag cael mynediad ond bod y rhain wedi eu codi a bod hawl ganddynt i weld a chlywed trafodaethau’r  cyfarfod bellach.

-        Bod cynnal y cyfarfod drwy webinar  wedi ei dreialu mewn pwyllgorau eraill a bydd mwy o dreialu i ddod yn y dyfodol agos, fodd bynnag ni lwyddwyd i dreialu’r pwyllgor heddiw  oherwydd anawsterau technegol.

-        Bydd trefniadau’r dyfodol yn ei gwneud yn haws i aelodau neu’r cyhoedd fynychu cyfarfodydd a phwyllgorau gan fod opsiwn i wneud  hynny yn rhithiol.