Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd ar gyfer 2022/23. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Gwilym Jones yn gadeirydd ar gyfer 2022/23. COFNODION: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Gwilym Jones yn
gadeirydd ar gyfer 2022/23. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2022/23. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd June Jones yn Is-gadeirydd ar gyfer 2022/23. COFNODION: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd June Jones yn
is-gadeirydd ar gyfer 2022/23. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd June Jones (Cyngor Gwynedd) a’r Dr John
Jones-Morris (Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried
unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Ni dderbyniwyd
unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
ar 8 Mawrth, 2022 fel rhai cywir. COFNODION: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8
Mawrth, 2022, fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLI'R HARBWR PDF 251 KB Cyflwyno adroddiad
yr Uwch Swyddog Harbyrau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodi a derbyn yr adroddiad. COFNODION: Cyflwynwyd yr
adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a
materion gweithredol yr harbwr. (1) Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad bras i’r pwyllgor ar faterion
yr harbwr ar gyfer y cyfnod o fis Mawrth 2022 i fis Medi, 2022. Codwyd materion o
dan y penawdau isod:- Cyflwyniad Gan gyfeirio at Gyfansoddiad
y Pwyllgor Harbwr, a gynhwyswyd fel atodiad i’r adroddiad, ac sy’n rhestru
aelodaeth y pwyllgor, mynegodd y Rheolwr Morwrol ei bryder bod cyn lleied o
gynrychiolwyr gwahanol fuddiannau defnyddwyr yr harbwr yn mynychu’r
cyfarfodydd, a nododd ei fwriad i gysylltu â’r cynrychiolwyr hynny i amlygu
pwysigrwydd sicrhau mewnbwn eu haelodau, neu ddirprwyon iddynt, er mwyn cael trawsdoriad o sylwadau yn y cyfarfodydd. Cod Diogelwch
Morol Porthladdoedd Nododd y Cadeirydd
fod Cyngor Tref Porthmadog wedi derbyn llythyr yn ddiweddar yn cwyno fod Badau
Dŵr Personol yn dod yn rhy agos i’r lan ym Mae Samson, a holodd a fyddai’n
bosib’ i’r staff morwrol gael gair gyda’r sawl sy’n gyfrifol. Mewn ymateb,
nododd y Rheolwr Morwrol:- ·
Bod
y Gwasanaeth yn rhannu’r pryderon hynny, a bod y staff morwrol wedi delio gyda
damweiniau angheuol yn ymwneud â Badau Dŵr Personol, a chychod pŵer
hefyd dros y blynyddoedd a fu. ·
Bod
y Gwasanaeth yn ceisio gwella rheolaeth dros hyn yn yr ardal yma o’r harbwr, yn
enwedig dros dymor yr haf, ond bod y digwyddiad dan sylw wedi digwydd ar yr 2il
o Hydref, ddeuddydd ar ôl i’r staff morwrol orffen gweithio ar y traethau am y
tymor. ·
Bod
tystiolaeth ffotograffig ar gael o’r digwyddiad, ac y byddai’r Gwasanaeth yn
cael gair gyda pherchennog y bad a perchennog y cwmni sy’n darparu
hyfforddiant. ·
Bod
nifer y cwynion ynglŷn a Badau Dŵr Personol a cychod pŵer yn
lleihau’n gyffredinol, oedd yn dangos bod rheolaeth y Gwasanaeth o’r sefyllfa,
ac ymddygiad pobl, yn gwella. ·
Os
na all y cyhoedd neu staff dynnu sylw gyrrwr bad sy’n gyrru’n anghyfrifol neu’n
rhy agos at y lan, bod gan y Cyngor system gofrestru mewn lle fel bod modd
adnabod y perchennog yn weddol gyflym.
Cytunid nad oedd bob amser yn hawdd gweld y rhif cofrestru, ond roedd y
gyrrwr yn siŵr o ddod i’r lan yn rhywle. ·
Bod
Robert Owen, fel cynrychiolydd y diwydiant yma ar y pwyllgor, yn rhagweithiol
yn hybu defnydd cyfrifol a da o’r badau. ·
Bod
PWC Gwynedd wedi cynnal digwyddiad y ‘Black Rock Blast’ i hyrwyddo ymddygiad cyfrifol a diogel o Fadau Dŵr
Personol. Hefyd, roedd y Cyngor yn
rhannu tystiolaeth o ymddygiad anghyfrifol gyda PWC Gwynedd fel bod modd iddynt
ei roi ar eu safle we. ·
Ei
bod yn anodd plismona ar hyd a lled yr arfordir, ac er bod gan y Gwasanaeth
gwch yn Harbwr Porthmadog, nid oedd modd ei gael allan bob tro. Fodd bynnag, ceisid gwella ar hynny ar gyfer
y flwyddyn nesaf. · Bod Cynghorau Môn a Chonwy wedi mabwysiadu system cofrestru badau fel sydd yn bodoli yng Ngwynedd ers blynyddoedd, a byddai’n dda ... view the full COFNODION text for item 7. |
|
ETHOL SYLWEDYDDION I ethol sylwedyddion i
wasanaethu ar y canlynol – a)
Pwyllgor
Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi b)
Pwyllgor
Ymgynghorol Harbwr Abermaw c)
Pwyllgor
Ymgynghorol Harbwr Pwllheli Penderfyniad: Gan bod cyn lleied o aelodau’n bresennol yn y cyfarfod hwn, gohirio
ethol sylwedydd i wasanaethu ar Bwyllgorau Ymgynghorol Harbyrau Aberdyfi,
Abermaw a Phwllheli am y tro, a chysylltu â’r holl aelodau mor fuan â phosib’ i
wahodd unrhyw rai sydd â diddordeb i roi eu henwau ymlaen. COFNODION: Gwahoddwyd y
pwyllgor i ethol sylwedydd i dderbyn gwybodaeth, neu fynychu cyfarfodydd y 3
phwyllgor harbwr arall. PENDERFYNWYD gan
fod cyn lleied o aelodau’n bresennol yn y cyfarfod hwn, gohirio ethol sylwedydd
i wasanaethu ar Bwyllgorau Ymgynghorol Harbyrau
Aberdyfi, Abermaw a Phwllheli am y tro, a chysylltu
â’r holl aelodau mor fuan â phosib’ i wahodd unrhyw rai sydd â diddordeb i roi
eu henwau ymlaen. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Nodi y
cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 7 Mawrth,
2023. COFNODION: Nodwyd y cynhelir
y cyfarfod nesaf ar 7 Mawrth, 2023. |