Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd
ar gyfer 2021/22. Penderfyniad: Ail-ethol y Cynghorydd Selwyn Griffith yn gadeirydd y Pwyllgor hwn am y
flwyddyn 2021/22. Cofnod: PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Selwyn
Griffiths yn gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2021/22. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-gadeirydd
ar gyfer 2021/22. Penderfyniad: Ail-ethol y Cynghorydd Nia Jeffreys yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y
flwyddyn 2021/22. Cofnod: PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Nia Jeffreys yn
is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2021/22. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cynghorydd Llewelyn Rhys (Cynrychiolydd Cyngor Tref Porthmadog), David
Eastwood (Cynrychiolydd Buddiannau Harbwr), Chris Fisher (Cynrychiolydd
Sefydliad y Bad Achub Cricieth) a’r Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet
Datblygu’r Economi). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Mawrth, 2021 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10
Mawrth, 2021, fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 202 KB Cyflwyno
adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (1)
Nodi a derbyn yr adroddiad. (2)
Ymateb fel a ganlyn i bapur
ymgynghori’r Adran Drafnidiaeth “Strengthening enforcement of the dangerous use of recreational and personal watercraft”:- ·
Bod y pwyllgor hwn yn ffafrio opsiwn 3, sef llunio
deddfwriaeth dan adran 112 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003
i ymestyn darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau
perthnasol, i gynnwys badau dŵr hamdden a phersonol. ·
Pwysleisio pwysigrwydd sicrhau hyfforddiant i
ddefnyddwyr a galw am godi’r terfyn oedran ar gyfer gyrru badau dŵr
hamdden a phersonol. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a
materion gweithredol yr harbwr. (1) Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi
diweddariad bras i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y cyfnod rhwng mis
Mawrth 2021 a mis Hydref 2021. Gan gyfeirio at
ran 2 o’r adroddiad – Angorfeydd Porthmadog a Chofrestru Cychod – nododd yr
Uwch Swyddog Harbyrau y cafodd 1,302 o Fadau Dŵr Personol (Jetskis) ac
1,308 o Gychod Pŵer eu cofrestru ar-lein ac mewn person, gan roi cyfanswm
o 2,610 o gofrestriadau. Mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cadeirydd ynglŷn â phwy sy’n gyfrifol am garthu’r harbwr,
eglurodd y Rheolwr Morwrol:- ·
O dan
ddeddfwriaeth harbwr Porthmadog, nad oedd yna bwerau i’r Cyngor garthu heb fynd
drwy brosesau, a bod Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir wedi tynhau cryn dipyn
ar warchod yr amgylchedd, a hefyd wedi tynhau ar allu harbyrau i garthu heb
fynd drwy brosesau statudol. ·
Bod harbwr
Porthmadog yn harbwr sy’n siltio’n araf deg, gyda’r defnydd yn dod yn ôl i mewn
i’r harbwr yn araf deg. ·
Yr amharwyd ar
brosesau naturiol yn sylweddol pan adeiladwyd y Cob a Phont Glaslyn. ·
Y rhybuddiwyd ar
adeg caniatáu’r pontwns y byddai hynny’n creu ardal o ddŵr distaw, ac y
byddai popeth sy’n cael ei gario i lawr yr afon yn cael ei adael ar ôl yn yr
harbwr, gan na fyddai yna ddigon o lif i’w gario allan i’r môr. ·
O safbwynt ardal
y pontwns, yn sicr ni fyddai’r Cyngor yn carthu ardal lle nad oes ganddo
gyfrifoldeb na les drosti. ·
Y byddai’n anodd
iawn cael gwared â llaid o harbwr Porthmadog.
Byddai’n rhaid ei sugno a’i bwmpio allan i’r môr, ond byddai’n rhaid ei
brofi yn gyntaf, a chael trwydded morol, mae’n debyg, cyn y gellid cychwyn ar y
broses. ·
Er ar raddfa
dipyn gwahanol, bod cynlluniau i garthu Doc Fictoria, Caernarfon a Hafan
Pwllheli yn werth £280,000. ·
Y byddai’n cymryd
amser i wneud asesiadau rheoliadau cynefinoedd. ·
Y byddai’n hapus
i edrych i mewn i’r mater, ond na ellid rhoi unrhyw addewid y byddai’n bosib’
carthu harbwr Porthmadog yn y dyfodol. Cytunodd aelod â’r
sylwadau hyn gan nodi: ·
Na chredai fod
pwrpas carthu’r harbwr, gan nad oedd y sianel o fewn yr harbwr wedi newid fawr
ddim mewn 45 mlynedd. ·
Pe dymunid
cynyddu niferoedd yr angorfeydd, y byddai’n llawer gwell gosod pontwns i lawr
canol yr harbwr, fel y gallai’r dŵr lifo bob ochr iddynt, ac efallai cael
system i gludo pobl at eu cychod. Nododd y Rheolwr
Morwrol fod amcangyfrif o gyllidebau’r harbwr o 1/4/20 i 31/3/21 ac 1/4/21 i
30/9/21 wedi’u hanfon at yr aelodau yn ddiweddar iawn, a manylodd ar y sefyllfa
gyfredol gan nodi:- · Y penodwyd nifer mwy o staff eleni i ymdopi â’r niferoedd a ragwelwyd fyddai’n ymweld â’r arfordir dros yr haf, a’i bod yn braf gweld cymaint yn mwynhau'r hyn sydd gan yr ardal hon i’w chynnig. Er hynny, mynegwyd siomedigaeth bod rhai pobl wedi ymddwyn yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 8 Mawrth, 2022. Cofnod: Nodwyd y cynhelir
y cyfarfod nesaf ar 8 Mawrth, 2022. |