skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9LU

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

David Eastwood (Cynrychiolydd Buddiannau Harbwr).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Ioan Thomas fuddiant personol yn eitem 5 ar y rhaglen – Diweddariad ar Faterion Rheolaethol yr Harbwr, oherwydd ei fod yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon.

 

‘Roedd yr aelod o’r farn nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

 

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 138 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2017, fel rhai cywir.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Hydref, 2017, fel rhai cywir.

 

5.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 161 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod yr harbyrau wedi bod yn ffodus, gan ddim ond ychydig o ddifrod a fu yn ystod y tywydd garw diweddar. Nododd ei ddiolchiadau i staff yr harbwr am eu gwaith yn ystod y cyfnod. Cyfeiriodd at y cyfnod tywydd garw blaenorol ar yr 16 a 17 o Hydref, 2017. Adroddodd bod staff yr harbwr wedi cydweithio efo swyddogion Sefydliad y Bad Achub ac Asiantaeth Gwylwyr y Glannau ar 17 Hydref, lle achubwyd bywyd person.

 

Nododd cynrychiolydd Cyngor Tref Porthmadog ei werthfawrogiad o waith staff yr harbwr a gwasanaethau brys yn ystod y tywydd garw.

 

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod adroddiad archwilwyr Asiantaeth Gwylwyr y Glannau ar eu arolygiad trylwyr o drefniadau a systemau diogelwch presennol harbyrau bwrdeistrefol Gwynedd er sicrhau cydymffurfiaeth a’r Cod Diogelwch Porthladdoedd wedi ei gynnwys yn y rhaglen. Roedd yr archwiliwyr yn nodi bod y Cyngor yn cyd-fynd gyda’r gofynion yn gyffredinol ond bod angen addasu rhai elfennau yn gysylltiedig â chofnodi dyletswyddau a nodi pwy oedd y Daliwr Dyletswydd a’r Person Dynodedig.

·         Byddai’r archwilwyr yn cynnal archwiliad pellach yn mis Hydref 2018 ac fe fwriedir i’r archwilwyr fynychu cyfarfod y Pwyllgor Ymgynghorol gan wahodd cynrychiolwyr Pwyllgorau Ymgynghorol Aberdyfi, Abermaw a Pwllheli i’r cyfarfod.

·         Pwysigrwydd y Cod Diogelwch a’r dyletswydd ar aelodau i gyflwyno sylwadau ar addasrwydd y Cod ac i dderbyn sylwadau ar drefniadau gwaith yr harbyrau fel gallai’r Cod Diogelwch gael ei adolygu er sicrhau ei fod yn berthnasol i weithgareddau’r harbwr.

·         Bod 3 Rhybudd i Forwyr mewn grym yn harbwr Porthmadog ar hyn o bryd. Byddai’r cymhorthyddion mordwyo yn cael eu hail leoli unwaith byddai gwaith ar gwch Y Dwyfor wedi ei gwblhau.

·         Bod sianel fordwyo Harbwr Porthmadog wedi newid yn sylweddol dros fisoedd y gaeaf. Roedd y Gwasanaeth yn archwilio’r sianel yn rheolaidd ar lanw isel er ceisio sicrhau fod y cymhorthion mordwyo yn y lleoliad fwyaf addas. Oherwydd y newid cyson yn y sianel roedd sicrhau fod y cymhorthion yn eu safle cywir yn heriol dros ben.

·         Yn dilyn archwiliad o holl angorfeydd yr harbwr gan gwmni Deifio, adnabuwyd bod angen adnewyddu 35 angorfa. Derbyniwyd amcan brisiau am gadwyni a siacyls a’r amcan bris mwyaf cystadleuol oedd £5,100. Rhagwelir byddai gwaith gosod yr angorfeydd newydd oddeutu £3,000. Rhannwyd cynllun yn dangos lleoliadau angorfeydd.

·         Daeth cyfnod cyflogaeth Cymhorthydd Harbwr Porthmadog (tymhorol) i ben yn swyddogol ar 30 Medi 2017. Er sicrhau cymorth gyda gwaith yr harbwr dros fisoedd y gaeaf cafodd y cytundeb ei ymestyn hyd at y 31 Rhagfyr 2017 pan ddaeth y cytundeb i ben. Derbyniwyd cais gan Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon ar ddechrau mis Ionawr 2018, yn ceisio hawl i drafod cytundeb gwaith dros dro i’r cymhorthydd gyda’r Ymddiriedolaeth Harbwr. Roedd y Swyddog bellach yn gyflogedig gan yr Ymddiriedolaeth Harbwr. Dymunwyd yn dda i’r swyddog.

·         Rhagwelir bydd swyddi tymhorol yn dychwelyd ar sail llawn amser yn harbyrau Porthmadog, Abermaw ac Aberdyfi ar 1 Ebrill 2018 ac yn parhau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 10 Hydref 2018.

Cofnod:

Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 10 Hydref, 2018.