skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Glaslyn, Y Ganolfan, Porthmadog

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 107 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Hydref, 2019, fel rhai cywir  (ynghlwm).

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Hydref, 2019, fel rhai cywir, yn amodol ar gywiro’r cyfeiriadau at ‘Porthmadog Sailing Club’ yn y fersiwn Saesneg i ddarllen ‘Madoc Yacht Club’.

 

5.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 63 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr harbwr.

 

·         Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion yr Harbwr ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref 2019 a mis Mawrth 2020.  

·         Adroddiad yr Harbwrfeistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng mis Hydref 2019 a mis Mawrth, 2020, gan gynnwys materion cynnal a chadw.

 

Dosbarthwyd:-

 

·         Manylion ffioedd a thaliadau Harbwr Porthmadog ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2020 ac Ebrill 2021, ynghyd â’r ffioedd lansio ar gyfer cychod pŵer a chychod personol ar gyfer yr un cyfnod.

·         Llythyr Tŷ’r Drindod dyddiedig 10 Hydref 2019, yn sgil eu harchwiliad blynyddol o gymorthyddion mordwyo yn yr Harbwr a dynesfa’r sianel rhwng 14 ac 16 Hydref, 2019.  Nododd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig fod y rhan fwyaf o’r gwaith oedd angen sylw wedi’i gwblhau bellach, ond gofynnodd i’r aelodau roi gwybod pe byddent yn sylwi bod bwiau wedi symud o’u lleoliad cywir.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig at y tywydd garw diweddar gan nodi y bu’n anarferol iawn gweld cymaint o stormydd yn cyrraedd un ar ôl y llall mewn cyfnod mor fyr.  Yn ffodus iawn, roedd cyfeiriad y gwynt wedi bod yn ffafriol y tro hwn, ac ni chafwyd unrhyw ddifrod yn yr Harbwr, ac eithrio bod ychydig o flociau wedi’u codi a rhai bwiau wedi’u symud.  Roedd staff y gwasanaeth wedi bod ar alwad, yn gwneud yn siŵr bod popeth yn iawn, a diolchwyd iddynt am eu hymrwymiad y tu hwnt i’w swyddi.

 

Gofynnwyd pa mor bryderus oedd y gwasanaeth ar adeg y stormydd diweddar.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig fod y ffaith bod y gwynt cryfaf wedi taro ar benllanw uchel wedi bod yn fater o bryder, ond y byddai’r sefyllfa wedi bod yn llawer gwaeth petai cyfeiriad y gwynt wedi bod yn llai ffafriol i Borthmadog.  Cadarnhawyd nad oedd yna unrhyw beth penodol y gallai’r pwyllgor wneud am y sefyllfa, ac eithrio gadael i’r swyddogion wybod os oeddent yn pryderu am unrhyw beth, a phwysleisiwyd bod y digwyddiadau tywydd eithriadol hyn yn amlygu bod dyletswydd ar bawb i warchod yr amgylchedd.

 

Adroddodd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig ymhellach:-

 

·         Iddo gael trafodaeth gyda Chyngor Tref Cricieth yn sgil eu cais i’r Cyngor ystyried dulliau amgen o gadw rheolaeth ar gychod pŵer yn dilyn digwyddiad.  Roedd rhwystredigaeth y Cyngor Tref yn ddealladwy, ond roedd y Cyngor Tref hefyd yn deall pa mor gyfyngedig oedd pwerau’r Cyngor.  Rhoddwyd addewid y byddai’r gwasanaeth yn cryfhau eu goruchwyliaeth ac yn ceisio gwella’r cymorthyddion mordwyo yn y bae.  Derbynnid hefyd bod yna fusnesau yn ddibynnol ar y cychod ac roedd y swyddog yn falch o’r cyfle i drafod y mater gyda’r Cyngor Tref.

·         Na dderbyniwyd unrhyw fater diogelu harbwr gan unrhyw aelod dros y 6 mis diwethaf.  Gofynnwyd i’r aelodau gysylltu pe dymunent gopi o’r cod, gan hefyd roi gwybod pe byddai ganddynt fater  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 7 Hydref, 2020, yn ddarostyngedig i’w gadarnhau gan y Cyngor Llawn.

Cofnod:

Nodwyd y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 7 Hydref, 2020.