skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2021/22.

Penderfyniad:

Ail-ethol y Cynghorydd Selwyn Griffith yn gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2021/22.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Selwyn Griffiths yn gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2021/22.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2021/22.

Penderfyniad:

Ail-ethol y Cynghorydd Nia Jeffreys yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2021/22.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Nia Jeffreys yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2021/22.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Llewelyn Rhys (Cynrychiolydd Cyngor Tref Porthmadog), David Eastwood (Cynrychiolydd Buddiannau Harbwr), Chris Fisher (Cynrychiolydd Sefydliad y Bad Achub Cricieth) a’r Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet Datblygu’r Economi).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 230 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Mawrth, 2021 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Mawrth, 2021, fel rhai cywir.

 

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 202 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(1)  Nodi a derbyn yr adroddiad.

(2)  Ymateb fel a ganlyn i bapur ymgynghori’r Adran Drafnidiaeth “Strengthening enforcement of the dangerous use of recreational and personal watercraft”:-

 

·         Bod y pwyllgor hwn yn ffafrio opsiwn 3, sef llunio deddfwriaeth dan adran 112 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i gynnwys badau dŵr hamdden a phersonol.

·         Pwysleisio pwysigrwydd sicrhau hyfforddiant i ddefnyddwyr a galw am godi’r terfyn oedran ar gyfer gyrru badau dŵr hamdden a phersonol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr harbwr.

 

(1)     Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad bras i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mawrth 2021 a mis Hydref 2021.

 

Gan gyfeirio at ran 2 o’r adroddiad – Angorfeydd Porthmadog a Chofrestru Cychod – nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau y cafodd 1,302 o Fadau Dŵr Personol (Jetskis) ac 1,308 o Gychod Pŵer eu cofrestru ar-lein ac mewn person, gan roi cyfanswm o 2,610 o gofrestriadau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ynglŷn â phwy sy’n gyfrifol am garthu’r harbwr, eglurodd y Rheolwr Morwrol:-

 

·         O dan ddeddfwriaeth harbwr Porthmadog, nad oedd yna bwerau i’r Cyngor garthu heb fynd drwy brosesau, a bod Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir wedi tynhau cryn dipyn ar warchod yr amgylchedd, a hefyd wedi tynhau ar allu harbyrau i garthu heb fynd drwy brosesau statudol.

·         Bod harbwr Porthmadog yn harbwr sy’n siltio’n araf deg, gyda’r defnydd yn dod yn ôl i mewn i’r harbwr yn araf deg.

·         Yr amharwyd ar brosesau naturiol yn sylweddol pan adeiladwyd y Cob a Phont Glaslyn.

·         Y rhybuddiwyd ar adeg caniatáu’r pontwns y byddai hynny’n creu ardal o ddŵr distaw, ac y byddai popeth sy’n cael ei gario i lawr yr afon yn cael ei adael ar ôl yn yr harbwr, gan na fyddai yna ddigon o lif i’w gario allan i’r môr.

·         O safbwynt ardal y pontwns, yn sicr ni fyddai’r Cyngor yn carthu ardal lle nad oes ganddo gyfrifoldeb na les drosti.

·         Y byddai’n anodd iawn cael gwared â llaid o harbwr Porthmadog.  Byddai’n rhaid ei sugno a’i bwmpio allan i’r môr, ond byddai’n rhaid ei brofi yn gyntaf, a chael trwydded morol, mae’n debyg, cyn y gellid cychwyn ar y broses.

·         Er ar raddfa dipyn gwahanol, bod cynlluniau i garthu Doc Fictoria, Caernarfon a Hafan Pwllheli yn werth £280,000.

·         Y byddai’n cymryd amser i wneud asesiadau rheoliadau cynefinoedd.

·         Y byddai’n hapus i edrych i mewn i’r mater, ond na ellid rhoi unrhyw addewid y byddai’n bosib’ carthu harbwr Porthmadog yn y dyfodol.

 

Cytunodd aelod â’r sylwadau hyn gan nodi:

 

·         Na chredai fod pwrpas carthu’r harbwr, gan nad oedd y sianel o fewn yr harbwr wedi newid fawr ddim mewn 45 mlynedd.

·         Pe dymunid cynyddu niferoedd yr angorfeydd, y byddai’n llawer gwell gosod pontwns i lawr canol yr harbwr, fel y gallai’r dŵr lifo bob ochr iddynt, ac efallai cael system i gludo pobl at eu cychod.

 

Nododd y Rheolwr Morwrol fod amcangyfrif o gyllidebau’r harbwr o 1/4/20 i 31/3/21 ac 1/4/21 i 30/9/21 wedi’u hanfon at yr aelodau yn ddiweddar iawn, a manylodd ar y sefyllfa gyfredol gan nodi:-

 

·         Y penodwyd nifer mwy o staff eleni i ymdopi â’r niferoedd a ragwelwyd fyddai’n ymweld â’r arfordir dros yr haf, a’i bod yn braf gweld cymaint yn mwynhau'r hyn sydd gan yr ardal hon i’w chynnig.  Er hynny, mynegwyd siomedigaeth bod rhai pobl wedi ymddwyn yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 8 Mawrth, 2022.

Cofnod:

Nodwyd y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 8 Mawrth, 2022.