Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2026 / 2027 Penderfyniad: Cofnod: Cynigiwyd ac eiliwyd ail ethol y Cynghorydd Gwynfor Owen yn gadeirydd ar
gyfer 2026/2027 PENDERFYNWYD AIL ETHOL Y CYNGHORYDD GWYNFOR
OWEN YN GADEIRYDD AR GYFER 2026/27 |
|
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is
gadeirydd ar gyfer 2026 / 2027 Penderfyniad: PENDERFYNIAD AIL ETHOL Y
CYNGHORYDD ARWYN HERALD ROBERTS YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2026/27 Cofnod: Cynigiwyd ac
eiliwyd ail ethol y Cynghorydd Arwyn Herald Roberts yn is-gadeirydd ar gyfer
2026/2027 PENDERFYNWYD AIL ETHOL Y
CYNGHORYDD ARWYN HERALD ROBERTS YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2026/27 |
|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Gareth Tudor Jones, Meryl Roberts,
a John Brynmor Hughes Y Cynghorydd Anwen Davies yn cael problemau gyda chyfarpar technoleg ac
felly ddim wedi gallu mynychu’r cyfarfod |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
|
Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a
gynhaliwyd 9fed o Fawrth 2026 fel rhai
cywir |
|
|
COFNODION ISBWYLLGORAU TRWYDDEDU a) 20-03-2026 b) 28-04-2026 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd a derbyniwyd er gwybodaeth, gofnodion Is Bwyllgor
Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd 20/03/2026
a 27/04/2026 |
|
|
ADOLYGIAD O'R DATGANIAD POLISI HAPCHWARAE I ystyried y Datganiad Polisi Hapchwarae drafft yn unol â
Deddf Hapchwarae 2005 gan ei gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD : ·
Derbyn y
Datganiad Polisi Hapchwarae drafft yn unol â Deddf Hapchwarae 2005 ·
Cymeradwyo’r
datganiad ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth yr Adran Amgylchedd
yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor i’r Datganiad Polisi Hapchwarae drafft cyn
cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, yn unol â Deddf Hapchwarae 2005. Eglurwyd, pe
byddai’r Pwyllgor yn cymeradwyo’r Datganiad bydd cyfnod o ymgynghori cyhoeddus
yn cael ei gynnal am 12 wythnos gyda chyfrifoldeb ar yr Awdurdod Trwyddedu i
roi sylw i unrhyw ymatebion a dderbyniwyd, gyda chais i’r Pwyllgor ystyried
unrhyw newidiadau posib oedd wedi deillio o’r ymgynghoriad. Ategwyd y bydd angen i’r Pwyllgor gytuno ar
ddrafft terfynol o'r Datganiad Polisi Hapchware, cyn ei gyflwyno i’r Cyngor
Llawn ei fabwysiadu (yn unol ag Adran 154 Deddf Hapchwarae 2025). Rhoddwyd ychydig o gefndir dibenion Deddf Hapchwarae
2025 gan gyfeirio at dri amcan trwyddedu'r Ddeddf ynghyd a’r gofyn i Awdurdodau
Trwyddedu baratoi a chyhoeddi datganiad o egwyddorion Trwyddedu y maent yn
dymuno eu rhoi ar waith wrth ymgymryd â’u swyddogaethau, bob tair blynedd. Eglurwyd bod y Datganiad Polisi Hapchwarae cyfredol
wedi bod yn destun gwelliannau sylweddol yn 2018 ac ers hynny wedi cael ei
adolygu yn unol â ‘Chanllaw’r Comisiwn Hapchwarae i Awdurdodau Lleol’ a
gyhoeddwyd yn 2021 ac a ddiwygiwyd yn 2025. Adroddwyd bod adolygiad i’r
Polisi draft wedi ei wneud mewn ymgynghoriad â Grŵp Trwyddedu Gogledd
Cymru gyda’r nod o gael cysondeb mewn ymdriniaeth ledled y rhanbarth. Ategwyd
bod mewnbwn hefyd wedi ei dderbyn gan Swyddogion Cyfarwyddiaeth Iechyd Cyhoeddus
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, oherwydd pwysigrwydd cynyddol effeithiau gamblo niweidiol ar iechyd
cyhoeddus. Argymhellwyd i’r Pwyllgor, yn unol â Deddf Hapchwarae
2005, ystyried y Datganiad Polisi Hapchwarae drafft gan ei gymeradwyo ar gyfer
ymgynghoriad cyhoeddus. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r newidiadau sydd
rhwng y polisi presennol a’r polisi drafft nodwyd, yn dilyn derbyn cyngor ar
faterion polisi a materion gweithredol gan y Comisiwn Gamblo, mai mân
newidiadau yn unig oedd i’r polisi drafft, ond bod pwyslais wedi ei roi ar
effaith gamblo ar iechyd meddwl unigolion bregus a’u teuluoedd. Ategwyd bod
tystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgyfnerthu’r effeithiau hyn. Mewn ymateb i sylw am bryder gor-hysbysu gamblo ar y
we a chwestiwn ynglŷn â phwy oedd a chyfrifoldeb dros ei reoleiddio’n
effeithiol, nodwyd, er yn rhannu’r pryderon, bod y mater yn cael ei reoli gan y
Comisiwn Hapchwarae Cenedlaethol. Cynigiwyd ac eiliwyd, yn
unol â Deddf Hapchwarae 2005, gymeradwyo’r Datganiad Polisi Hapchwarae drafft
ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus PENDERFYNWYD ·
Derbyn
y Datganiad Polisi Hapchwarae drafft yn unol â Deddf Hapchwarae 2005 ·
Cymeradwyo’r
datganiad ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. |