Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2021/22 Penderfyniad: ETHOL Y CYNGHORYDD ANNWEN
HUGHES YN GADEIRYDD AR GYFER 2021/22 COFNODION: PENDERFYNWYD ETHOL Y CYNGHORYDD ANNWEN HUGHES YN
GADEIRYDD AR GYFER 2021/22 Diolchwyd i’r Cynghorydd Elfed Williams am ei waith fel
Cadeirydd y Pwyllgor dros y ddwy flynedd
diwethaf a hefyd am ei gefnogaeth i'r
Is-bwyllgorau Trwyddedu. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is
gadeirydd ar gyfer 2021/22 Penderfyniad: ETHOL Y CYNGHORYDD EDGAR
OWEN YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2021/22 COFNODION: PENDERFYNWYD
ETHOL Y CYNGHORYDD EDGAR OWEN YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2021/22 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Brynmor Hughes a’r
Cynghorydd Jason W Parry |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan
unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: ·
Cymerwyd y cyfle i ddiolch yn
swyddogol am y gwaith da mae’r swyddogion
Profi, Olrhain a Diogelu yn ei wneud ·
Tynnwyd sylw at sedd Aelod Unigol
sydd wedi bod yn wag ers tro
bellach ar restr Aelodaeth y Pwyllgor. Awgrymwyd i’r mater gael ei gyfeirio at y Grŵp Busnes |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 15 Mawrth 2021 fel rhai cywir COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd Mawrth 15fed 2021 fel rhai cywir |
|
COFNODION IS BWYLLGORAU PDF 247 KB Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion yr Isbwyllgorau Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol: 27 Ebrill 2021 23 Chwefror 2021 Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd, er gwybodaeth gofnodion yr Is bwyllgorau a gynhaliwyd 23
Chwefror a 27 Ebrill 2021 |
|
I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
COFNODION: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu yn amlygu’r angen
i ddechrau ymgynghoriad statudol ar ddatganiad o bolisi drafft Deddf
Trwyddedu 2003. Atgoffwyd yr Aelodau bod gofyn statudol i bob Awdurdod Trwyddedu adolygu ei bolisi
bob pum mlynedd a’i newid fel
yr angen. Ategwyd bod polisi presennol Awdurdod Trwyddedu Cyngor Gwynedd wedi ei gymeradwyo yn
y Cyngor Llawn Rhagfyr
2015. Cyfeiriwyd at y polisi drafft newydd
gan dynnu sylw at y man newidiadau sydd i’r polisi
presennol. Cyfeiriwyd hefyd at rôl Iechyd
Cyhoeddus Cymru a’r Bwrdd Iechyd
yn y broses o lunio polisi ac ymateb i geisiadau am drwydded eiddo. Cynigiwyd ac eiliwyd i gymeradwyo’r
argymhelliad Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â derbyn cofnodion o gyfarfodydd swyddogion ar draws y Gogledd, nodwyd gan fod y cyfarfodydd
yn cymryd lle yn wythnosol
a 90% o’r drafodaeth yn ymwneud â rheoliadau
covid 19, nad oedd cofnodion ysgrifenedig o’r cyfarfodydd hyn ar gael. PENDERFYNWYD
|