Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. Anwen Davies, Cyng. Alan Jones Evans a’r Cyng. Angela Russell

 

Cydymdeimlwyd gyda’r Cynghorydd Angela Russell oedd wedi colli ei gŵr yn ddiweddar

 

Dymunwyd y gorau a diolchwyd i’r Cyng. Linda Ann Jones, cyn Aelod o’r Pwyllgorau Trwyddedu am ei chefnogaeth i’r Pwyllgorau a’r Is-bwyllgorau Trwyddedu yn ei chyfnod fel Aelod Plaid Cymru.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 108 KB

Cofnod:

5.

COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CANOLOG pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd a derbyniwyd er gwybodaeth, gofnodion Is Bwyllgorau Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd 21ain Ionawr 2025, 2il o Ragfyr 2024 a Tachwedd 11eg 2024 fel rhai cywir.

 

Mewn ymateb i sylw i sicrhau llais yr ymgeisydd mewn gwrandawiadau yn hytrach na llais eu cynrychiolydd, nodwyd bod gan aelodau’r Is-bwyllgor yr hawl i herio’r cynrychiolydd a gofyn i’r ymgeisydd gyflwyno / cynnig sylwadau ar y cais.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â mewnbwn gan Gynghorau Cymuned i geisiadau trwydded eiddo, nodwyd bod Cynghorau Cymuned yn rhan o’r broses ymgynghori statudol a’u bod yn cael cyfle i fynegi barn. Ategwyd nad oedd amserlen cyfarfodydd Cynghorau Cymuned bob tro yn cyd-fynd ag amser yr ymgynghoriad, ond bod cyfle iddynt gynnig sylwadau.  Petai sylwadau yn cael eu cyflwyno, bydd gwahoddiad i gynrychiolydd o’r Cyngor Cymuned fynychu’r gwrandawiad i gyflwyno eu sylwadau ar lafar.

 

Cymerodd y Cyng Elfed Williams y cyfle i ddiolch i Aelodau’r Pwyllgor ac i’r Swyddogion am eu cefnogaeth tra’n Gadeirydd y Pwyllgorau Trwyddedu.