Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr
Annwen Daniels, Annwen Hughes, John Brynmor Hughes, Sion Jones a Jason W Parry |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni
dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 11.9.17 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a
gynhaliwyd ar 11eg o Fedi 2017 fel rhai cywir. |
|
ASESIAD CYDRADDOLDEB Y POLISI HAPCHWARAE Derbyn diweddariad
ar lafar ar Asesiad Cydraddoldeb
y Polisi Hapchwarae Cofnod: Derbyniwyd diweddariad ar lafar ar Asesiad
Cydraddoldeb y Polisi Hapchwarae. Amlygwyd bod yr asesiad wedi ei gyflwyno i’r
swyddog cydraddoldeb a bod angen gweithredu ar yr ychydig ddiwygiadau a
gynigiwyd. Unwaith bydd yr addasiadau wedi eu cwblhau bydd y polisi yn cael ei
gyflwyno i’r Cyngor Llawn. Awgrymwyd y dylai’r asesiad gael ei
gylchredeg i’r Aelodau unwaith y bydd wedi ei gwblhau. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth. |