Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. Alan
Jones Evans a’r Cyng. Hefin Underwood |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: |
|
COFNODION IS BWYLLGORAU TRWYDDEDU a) 10-06-24 b) 25-07-24 c) 06-09-24 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
CYNLLUN TRWYDDEDU GORFODOL NEWYDD - TRINIAETHAU ARBENNIG I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo
is – ddirprwyo swyddogaethau a ddirprwyid i’r Pwyllgor Trwyddedu Canolog o dan
y Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 i’r Is -Bwyllgor Trwyddedu Canolog Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo
is-ddirprwyo swyddogaethau a ddirprwyid i’r Pwyllgor Trwyddedu Canolog o dan
Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 i’r Is-bwllgor Trwyddedu Canolog Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gynllun trwyddedu newydd
ar gyfer 'Triniaethau Arbennig' gan Lywodraeth Cymru fydd yn cael ei weithredu
Tachwedd 2024 dan Rhan 4 Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017; gan gynnwys
Rheoliadau Triniaethau Arbennig (Cymru) 2024 a Rheoliadau Pwyllgor-au Trwyddedu
Triniaethau Arbennig (Cymru) 2024. Atgoffwyd yr
Aelodau bod y Pwyllgor, mewn cyfarfod ym mis Rhagfyr 2023, wedi derbyn
gwybodaeth am brif ofynion a goblygiadau’r cynllun ynghyd a chyflwyniad o’r
prif egwyddorion gan Dr Sarah Jones, Uwch Ymgynghorydd Iechyd yr Amgylchedd i
Lywodraeth Cymru. Adroddwyd
mai bwriad y cynllun oedd lleihau'r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â'r triniaethau
megis tatŵio, lliwio croen lled-barhaol, tyllu cosmetig, aciwbigo,
nodwyddau sych ac electrolysis, a bydd y cynllun trwyddedu newydd yn un
gorfodol. Bydd y drefn newydd yn golygu gofyn i Awdurdodau Lleol fod yn
gyfrifol am orfodi gofynion trwyddedu a chadw cofrestr o drwyddedau triniaethau
arbennig a roddwyd ganddynt. Bydd hi'n ofynnol i Ymarferwyr Triniaethau
Arbennig ddangos eu cymhwysedd i ymgymryd â'r triniaethau hyn drwy gwblhau
hyfforddiant a bod yn destun archwiliad gan Swyddogion Gwarchod y Cyhoedd
(Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd). Yn ogystal, bydd yn rhaid iddynt ddarparu
DBS Sylfaenol fel rhan o'u cais am drwydded. Tynnwyd sylw at
rôl y Pwyllgor Trwyddedu Canolog gan amlygu bod Deddf 2017 (cymal 21, Atodlen
3) yn dirprwyo swyddogaethau penodol i bwyllgor trwyddedu'r Awdurdod sydd wedi
ei sefydlu o dan y Ddeddf Drwyddedu 2003 (h.y. y Pwyllgor Trwyddedu Canolog) ac
mae’n caniatáu i’r Pwyllgor wneud penderfyniadau mewn perthynas â’r
swyddogaethau hynny. Amlygwyd y bydd Swyddogion Gwarchod y Cyhoedd yn cyflwyno
Hysbysiad o Rybudd i’r ymarferwyr hynny sydd ddim yn ymateb i ofynion y
cynllun, ond y bydd gan yr ymarferwyr hawl i gyflwyno ymatebion. Cyfrifoldeb y
Pwyllgor Trwyddedu Canolog fydd ystyried yr ymatebion hynny a phenderfynu os
dylid gweithredu yn unol â’r camau fydd wedi eu gosod allan yn yr Hysbysiad o
Rybudd. Ategwyd bod y Ddeddf Trwyddedu 2003 yn caniatáu i’r Pwyllgor Trwyddedu
Canolog ddirprwyo’r swyddogaeth yma i Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog sydd eisoes
wedi ei sefydlu a’r Aelodau yn brofiadol wrth ystyried a phenderfynu ceisiadau. Diolchwyd am yr
adroddiad Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau: ·
Croesawu'r cynllun newydd ·
Cefnogi’r angen i fonitro gwaith ymarferwyr –
gormod o enghreifftiau o driniaethau gwael ·
Angen ystyried addasrwydd lleoliadau ·
Awgrym i osod bathodyn ar ffenest eiddo / cerbyd yn
amlygu’r safon Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Rheolwr
Trwyddedu bod y grŵp sydd yn gweithredu dyfodiad y pwerau newydd yn creu
canllawiau statudol pendant a gweithdrefnau caeth yn unol â Deddf Iechyd y
Cyhoedd fydd yn ystyried lleoliadau, safonau hylendid, diogelwch a materion
cyfreithiol. Bydd modd i’r Adran Trwyddedu ystyried os bydd angen Polisi
Addasrwydd lleoliadau i’r dyfodol. Ategwyd bod y ddeddfwriaeth yn dod i rym
mewn ymateb i enghreifftiau gwael o driniaethau gan orfodi system drwyddedu,
grymus i reoli’r sefyllfa. Bydd cofrestr genedlaethol o ymarferwyr wedi eu
trwyddedu ar gael i’r cyhoedd. Yng nghyd-destun gosod bathodyn safon ar ffenestr eiddo / cerbyd, nodwyd bydd gofyn i’r ymarferwyr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |