Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am 2015/16 Cofnod: Penderfynwyd ethol y
Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Gadeirydd am y cyfnod 2015 - 2016 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is gadeirydd am 2015/16 Cofnod: Penderfynwyd ethol y
Cynghorydd Tudor Owen yn Gadeirydd am y cyfnod 2015 - 2016 |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Croesawyd
pawb i’r Pwyllgor gan y Cadeirydd, y Cynghorydd
Eryl Jones- Williams. Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Eddie Dogan,
Llywarch Bowen Jones ac Ann Williams. Croesawyd
Gareth Jones, Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd i’r Pwyllgor. Nodwyd bod Gareth Jones wedi
derbyn cyfrifoldeb dros dro dros yr adran Gwarchod y Cyhoedd yn sgil ymddeoliad
Mr John Reynolds, Uwch Reolwr Gwarchod y Cyhoedd .
Anfonwyd neges a ran y pwyllgor i ddiolch i Mr John Reynolds am ei wasanaeth
a’i gefnogaeth dros y blynyddoedd i’r Pwyllgorau Trwyddedu. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan
unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod diwethaf y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9fed o Fawrth 2015 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r
pwyllgor a gynhaliwyd ar 9fed o Fawrth 2015 fel rhai cywir. |
|
COFNODION IS BWYLLGOR TRWYDDEDU Cyflwyno,
er gwybodaeth, cofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:- (a) 09.02.2015 (b) 12.05.2015 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd, er
gwybodaeth, gofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar 09.02.2015 a 12.05. 2015. |
|
DIWYGIO DEDDF TRWYDDEDU 2003: DEDDF DADREOLI 2015 Cyflwyno adroddiad Pennaeth yr Adran Rheoleiddio er gwybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd er gwybodaeth adroddiad Pennaeth yr Adran
Rheoleiddio i godi ymwybyddiaeth yr Aelodau i newidiadau o fewn Deddf Trwyddedu
2003: Deddf Dadreoli 2015. Nodwyd bod y Ddeddf Dadreoli 2015 wedi derbyn
Cydsyniad Brenhinol ar 26 Mawrth 2015 fydd o ganlyniad yn darparu ar gyfer
tynnu neu leihau baich ar fusnesau, unigolion, cyrff sector cyhoeddus ac
unigolion. Amlygwyd bod y Ddeddf Dadreoli 2015 yn ymdrin ag amrediad
eang o fesurau ac yn cynnwys mesurau sy'n effeithio ar 'alcohol, chwaraeon ac
adloniant' ac yn benodol Deddf Trwyddedu 2003. Nodwyd y byddai’r newidiadau yn
cael eu cyflwyno yn raddol: Tynnwyd sylw at
y prif fesurau fydd yn effeithio ar Ddeddf Trwyddedu 2003 - ·
A68
- Rhybuddion am ddigwyddiadau dros dro: cynnydd yn uchafswm nifer y
digwyddiadau'r flwyddyn (dod i rym 26.5.15) ·
A69
- Trwydded bersonol: dim gofyn i’w hadnewyddu (dod i rym 1.4.15) ·
A70
- Gwerthu melysion gwirod i blant dan 16: diddymu’r
drosedd (dod i rym 26.5.15) ·
A72
- Tynnu’r gofyn i adrodd am golli neu ddwyn y drwydded ac ati i’r heddlu (dod i
rym 26.5.15) ·
A76
- Arddangos ffilmiau mewn eiddo cymunedol
(dod i rym 6.4.15) Er
hynny, nid oes gorchymyn cychwyn yn manylu pa ddyddiadau y byddai’r
darpariaethau isod yn dod i rym. Ategwyd y byddai’r newidiadau isod yn debygol
o gael effaith ar lwyth gwaith yr Uned Trwyddedu. ·
A67 Gwerthu
Alcohol: digwyddiadau cymunedol
ac ati a gwerthiannau busnes atodol ·
A71 – Lluniaeth
hwyr y nos Mewn
ymateb i sylw, yng nghyd-destun Gwerthu alcohol (A67), nodwyd bod angen i drefnydd unrhyw
ddigwyddiad dystiolaethu’r angen mewn cais i werthu alcohol mewn digwyddiad
cymunedol. Bydd rhybudd Rhan 5A yn parhau am dair blynedd ac yn rhybudd ar yr
eiddo yn unig. Bydd cost y rhybudd yn cael ei benderfynu yn genedlaethol. Diben
y newid yma yw creu awdurdodaeth ysgafnach i leihau
baich ar ein cymunedau. Yn ychwanegol, nodwyd nad oedd fformat y rhybudd wedi
ei gyflwyno hyd yma ynghyd â’r elfen gorfodaeth. Y
bwriad yw symleiddio prosesau o greu digwyddiadau cymunedol ac nid i geisio busnes oddi ar fusnesau lleol eraill. Croesawyd yr
egwyddor, ond amlygwyd nad oedd digon o wybodaeth wedi dod i law. Amlygwyd
pryder am yr elfen llwyth gwaith
ychwanegol a phrinder adnoddau yr Uned Trwyddedu fydd yn codi o ganlyniad i’r
newidiadau. PENDERFYNWYD
derbyn argymhelliad y Pennaeth Rheoleiddio Dechreuodd
y cyfarfod am 10:00a.m a daeth
i ben am 10:55am |