Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Peter
Read, Louise Hughes, Tudor Owen a Elfed W. Williams Adroddwyd bod y Cynghorydd Tudor Owen wedi derbyn
llawdriniaeth yn ddiweddar a dymunwyd gwellhad buan iddo a phenderfynwyd anfon
cerdyn iddo gan y Pwyllgor. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
20.06.16 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 20fed o Fehefin 2016 fel rhai cywir. |
|
COFNODION IS BWYLLGORAU TRWYDDEDU PDF 185 KB Cyflwyno,
er gwybodaeth cofnodion cyfarfod o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar y dyddiad canlynol:- a)
21.07.2016 b)
09.08.2016 c)
15.08.2016 ch) 24.08.2016 d)
07.09.2016 dd)
31.10.2016 Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod o’r
Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar 21.07.16,
09.08.16, 15.08.16, 24.08.16,
07.09.16 a 31.10.16 Amlygwyd bod nifer o wrthwynebidau wedi eu derbyn ar
gyfer gwrnadawiadau 07.09.16 a 31.10.16 ond nad oedd unrhyw un o’r
gwrthwynebwyr wedi troi i fyny i’r is bwyllgorau. Mewn ymateb, nododd y
cyfriethiwr bod y sylw wedi ei gynnwys fel rhan o’r rhesymau swyddogol dros y
penderfyniad yn y cofnod. |
|
DIWEDDARIAD POLISI HAPCHWARAE Diweddariad
ar lafar gan y Rheolwr Trwyddedu Cofnod: Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Rheolwr Trwyddedu yn amlygu bod y
Polisi Hapchwarae / Gamblo wedi ei ddiweddaru gan nodi ei fod yn amlygu
blaenoraethau y Cyngor. Adroddwyd bod angen i gynghorua eraill Gogledd Cymru
gwblhau ei polisiau hwy er mwyn sicrhau bod cynghorau y Gogledd yn mynd i’r un
cyfeiriad er mwyn sicrhau cysondeb. Unwaith
bydd y polisiau wedi eu cysoni, bydd y polisiau yn mynd allan am gyfnod
ymgynghori. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth |