skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2017/18

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Peter Read yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2017 – 2018

 

Diolchwyd i’r Cynghorydd Tudor Owen am ei waith fel Cadeirydd y Pwyllgor 2016 – 2017 ac awgrymwyd anfon cerdyn ato yn mynegi hynny.

 

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am 2017/18

 

Cofnod:

 

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Elfed Williams yn Is Gadeirydd y Pwyllgor am y cyfnod 2017 – 2018

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Jason W Parry

 

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

 

 

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 209 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 6.3.17 fel rhai cywir  

Cofnod:

 

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 6ed o Fawrth 2017 fel rhai cywir. Mewn ymateb i gwestiwn, amlygwyd bod yr Awdurdod Trwyddedu wedi drafftio llythyr at y Comisiwn Hapchwarae yn mynegi eu pryderon ac y byddai y llythyr yn cael ei anfon nawr bod Cadeirydd wedi ei ethol.

 

7.

COFNODION IS BWYLLGORAU TRWYDDEDU pdf eicon PDF 236 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol:

 

i.              20.3.17

ii.             10.4.17

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd 20.3.17 a 10.4.17