skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Croesawyd pawb i’r Pwyllgor gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Eryl Jones- Williams. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr, Craig ab Iago, Llywarch Bowen Jones, Louise Hughes, Dilwyn Lloyd a Peter Read.

 

Mynegwyd diolch i’r Cynghorydd Eddie Dogan am ei wasanaeth i’r Pwyllgor Trwyddedu dros y blynyddoedd - nodwyd bod y Cynghorydd yn sefyll i lawr fel Cynghorydd oherwydd ei  iechyd.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatgan o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 73 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 22ain o Fehefin 2015 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 22ain o Fehefin  2015 fel rhai cywir.

 

5.

COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion cyfarfod o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar y dyddiad canlynol:-

 

a)         16.7.15

           

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar 16.07.15.