Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cynghorwyr, Annwen Daniels, Dilwyn Lloyd, Peter Read a John Wyn Williams
a Gareth Jones (Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad
o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Nodwyd bod yr hyfforddiant
diweddar ‘Licensing for Members’ gan Mr Jim Button wedi bod yn fuddiol iawn ac wedi amlygu i’r Aelodau
bod y pedwar amcan trwyddedu yn ganolog i bob penderfyniad. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 1.12.15 fel rhai cywir . Cofnod: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 1af o Rhagfyr 2015
fel rhai cywir. |
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU PDF 212 KB Cyflwyno,
er gwybodaeth, cofnodion cyfarfod o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar y dyddiad canlynol:- 09.10.15 24.11.15 21.12.15 12.01.16 29.01.16 Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod
o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar 09.10.15 24.11.15 21.12.15 12.01.16 29.01.16 |
|
POLISI GAMBLO CYNGOR GWYNEDD Ystyried adroddiad y Rheolwr Trwyddedu Dogfen i ddilyn Cofnod: Cafwyd diweddariad ar lafar gan y
Rheolwr Trwyddedu yn amlygu
dyletswydd y Cyngor i adolygu eu Datganiad o Bolisi Deddf Gamblo
2005 bob tair blynedd. Yn unol â’r trefniadau a weithredwyd i ddiweddaru
Datganiad Polisïau Deddf Trwyddedu 2003,
nodwyd bod Grŵp Gogledd Cymru wedi penderfynu defnyddio'r un broses i fynd
ati i adolygu a diweddaru Datganiad o Bolisïau Gamblo ar gyfer 2016 - 2019.
Adroddwyd bod un cyfarfod ar y cyd eisoes wedi ei gynnal i gytuno ar y
strwythur a’r cynnwys, gyda bwriad bellach i fwrw ymlaen i weithredu addasiadau
i’r polisi. Nodwyd y byddai'r Polisi yn dilyn steil a fformat Polisïau Deddf Trwyddedu y Cyngor er mwyn
sicrhau cysondeb. Ategwyd mai un newid ar gyfer y cyfnod yma o addasiadau yw i ymateb i’r gofyn i greu ‘proffil ardal
lleol’. O Ebrill 2016 ymlaen bydd angen i bob eiddo sydd â thrwydded Gamblo
baratoi asesiad risg ar gyfer y busnes fydd yn ystyried y lleoliad a’r mathau o
bobl sydd o’i amgylch, i sicrhau eu bod yn cadw at yr amcanion gamblo. Pwrpas y
‘proffil ardal lleol’ yw cynorthwyo'r
busnesau hyn i lunio asesiad risg - drwy
rannu gwybodaeth am natur Gwynedd (toriad o’r boblogaeth, defnydd o’r iaith
Gymraeg, ffaith bod llawer o dwristiaeth yn y Sir a bod natur gamblo yn cyd fynd a’r meysydd
carafanau mawr), bydd y wybodaeth yn llunio patrymau er mwyn creu darlun clir
o’r sefyllfa ar gyfer y busnesau. Adroddwyd bod y Rheolwr Trwyddedu wedi dechrau ar y gwaith o lunio
polisi drafft gyda bwriad o’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trwyddedu cyn dechrau ar y
broses ymgynghori gyhoeddus, unwaith bydd y ‘proffil ardal lleol’ wedi ei
gwblhau, O ran amserlen, nodwyd y
dylai’r Polisi Drafft fod yn barod erbyn mis Mehefin 2016. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth: ·
Cymeradwyo yr angen i
adolygu’r Datganiad o Bolisi Gamblo ·
Cynnydd mewn hysbysebion
gamblo ar y teledu ac felly angen sicrhau bod y polisiau yn addas a chywir Derbyniwyd y wybodaeth ac awgrymwyd cynnal cyfarfod arbennig petai'r
Polisi Drafft wedi ei gwblhau cyn hynny. |
|
YMARFERIAD FFORDD GWYNEDD GYDA THRWYDDEDU Adroddiad
ar lafar gan Uwch Reolwr
Cynllunio ac Amgylchedd Cofnod: Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Rheolwr
Trwyddedu ar ymarferiadau diweddar gan y
gwasanaeth i adolygu prosesau gwaith Trwyddedu er mwyn sicrhau bod pobl Gwynedd
yn ganolog i’r hyn sydd yn cael ei weithredu. Nodwyd bod sawl holiadur wedi ei
gwblhau i ganfod barn a sylwadau am waith yr adran ac ategwyd bod y sylwadau
hyn wedi bod yn gefnogol iawn ac wedi cynnig ystyriaethau posib e.e., cyfleoedd hunanwasanaeth. Adroddwyd mai'r cam
nesaf yw rhestru ac adolygu'r prosesau hyngan eu blaenoriaethu yn ôl eu hangen. Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth; ·
Awgrym
y dylid sicrhau cyfathrebu a chydweithio da rhwng yr unedau gwahanol o fewn
Gwarchod y Cyhoedd i sicrhau bod unrhyw gŵyn neu sylw yn cael ei gyfarch. ·
Awgrym
i gynnal ymweliadau di rybudd neu gwsmer ffug i fusnesau ·
Angen addysgu'r cyhoedd o
ofynion ac amserlen gwrandawiad ·
Angen addysgu darparwyr
gwasanaeth ·
Angen
amlygu prinder adnoddau i’r Pwyllgor Trwyddedu Mewn ymateb i’r sylw ynglŷn ag amserlen
gwrandawiadau, nodwyd bod bwriad i fesur y perfformiad yma drwy ddangosydd
newydd - ‘cyfnod prosesu cais’. Ategwyd bod adnoddau'r Uned Trwyddedu yn dynn
iawn ac awgrymwyd efallai mai canlyniad
ymarfer Ffordd Gwynedd fydd yr angen am adnoddau ychwanegol. Diolchwyd i’r Rheolwr Trwyddedu am y wybodaeth a
rhoddwyd canmoliaeth i’r Uned fechan am eu
gwaith da. |