Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

            Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr John Brynmor Hughes, Sïon        Jones, Rheinallt Puw ac Annwen Daniels

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 49 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 11 Mehefin 2018 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

          Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 o Fehefin 2018 fel rhai cywir.

 

 

5.

COFNODION IS BWYLLGORAU TRWYDDEDU pdf eicon PDF 92 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol:

 

a)    20.6.18

b)    17.7.18

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

          Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod o’r Is-bwyllgorau Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd 20.06.2018 a 17.07.18

 

 

6.

DATGANIAD POLISI HAPCHWARAE 2018 pdf eicon PDF 55 KB

I ystyried adroddiad Pennaeth yr Adran Amgylchedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

          Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn nodi bod y Datganiad Polisi Hapchwarae eisoes wedi ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i gynnal Asesiad Effaith Cydraddoldeb. Cadarnhawyd bod Asesiad Effaith Cydraddoldeb bellach wedi ei gwblhau ac adroddwyd bod gwaith ymchwil ar effaith hapchwarae ar iechyd cyhoeddus a gyhoeddwyd yn Hydref 2017 wedi cael ei ystyried fel tystiolaeth berthnasol i’r asesiad.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Pryderon yn parhau gyda’r nifer o hysbysebion hapchwarae sydd yn ymddangos ar y teledu

·         Bod mynediad at hapchwarae yn rhy hawdd

 

            Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag effaith hapchwarae ar deuluoedd a     chymunedau, amlygwyd mai ychydig iawn o dystiolaeth sydd ar gael o’r effaith.         Adroddwyd bod y Comisiwn Hapchwarae ynghyd a’r Cyngor Iechyd yn bwriadu             gwneud gwaith  ymchwil ar yr effaith ar deuluoedd a chymunedau.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chysondeb gwybodaeth ar draws          Cynghorau’r Gogledd, nodwyd bod y Comisiwn Hapchwarae yn llunio         canllawiau pendant i Awdurdodau Trwyddedu ar gynnwys y polisi. Amlygwyd      bod arddull polisi Gwynedd wedi ei fabwysiadu ar draws y Gogledd            oherwydd             bod yr arddull yn glir a rhesymegol.

 

PENDERFYNWYD derbyn y Datganiad Polisi Hapchwarae a’r Asesiad Cydraddoldeb yn unol â Deddf Hapchwarae 2005 a’i gymeradwyo ar gyfer ei fabwysiadu gan y Cyngor Llawn