Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2019 - 2020

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Elfed Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2019 – 2020

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is Gadeirydd ar gyfer 2019 - 2020

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Annwen Hughes yn Is Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2019 – 2020

 

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

         Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Sïon Jones

 

Croesawyd y Cynghorydd Gareth Jones fel aelod newydd i’r Pwyllgor Trwyddedu Canolog

 

Diolchodd y Cynghorydd Peter Read i aelodau’r Pwyllgor a’r swyddogion am eu cefnogaeth tra yn Gadeirydd y Pwyllgorau Trwyddedu.

 

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 48 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 11 Ebrill 2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

          Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd Ebrill 11eg 2019 fel rhai cywir.

 

 

7.

COFNODION IS BWYLLGORAU TRWYDDEDU pdf eicon PDF 84 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol:

 

a)    12.04.2019

b)    20.03.2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd, er gwybodaeth gofnodion Is bwyllgorau a gynhaliwyd 12.4.19 a 20.3.19