skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2021/22

Penderfyniad:

ETHOL Y CYNGHORYDD ANNWEN HUGHES YN GADEIRYDD AR GYFER 2021/22

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ETHOL Y CYNGHORYDD ANNWEN HUGHES YN GADEIRYDD AR GYFER 2021/22

 

Diolchwyd i’r Cynghorydd Elfed Williams am ei waith fel Cadeirydd y Pwyllgor dros y ddwy flynedd diwethaf a hefyd am ei gefnogaeth i'r Is-bwyllgorau Trwyddedu.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is gadeirydd ar gyfer 2021/22

Penderfyniad:

ETHOL Y CYNGHORYDD EDGAR OWEN YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2021/22

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ETHOL Y CYNGHORYDD EDGAR OWEN YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2021/22

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Brynmor Hughes a’r Cynghorydd Jason W Parry

 

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Cofnod:

·         Cymerwyd y cyfle i ddiolch yn swyddogol am y gwaith da mae’r swyddogion  Profi, Olrhain a Diogelu yn ei wneud

 

·         Tynnwyd sylw at sedd Aelod Unigol sydd wedi bod yn wag ers tro bellach ar restr Aelodaeth y Pwyllgor. Awgrymwyd i’r mater gael ei gyfeirio at y Grŵp Busnes

 

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 106 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 15 Mawrth 2021 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd Mawrth 15fed 2021 fel rhai cywir

 

7.

COFNODION IS BWYLLGORAU pdf eicon PDF 247 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion yr Isbwyllgorau Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol:

 

27 Ebrill 2021

23 Chwefror 2021

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd, er gwybodaeth gofnodion yr Is bwyllgorau a gynhaliwyd 23 Chwefror a 27 Ebrill 2021

 

8.

CYMERADWYAETH I GYCHWYN YMGYNGHORIAD STATUDOL AR DDATGANAID O BOLISI DRAFT - DEDDF DRWYDDEDU 2003 pdf eicon PDF 143 KB

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Cymeradwyo cychwyn yr  ymgynghoriad statudol ar y Datganiad o Bolisi Trwyddedu drafft.

 

  1. Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori fydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor hwn yn amlinellu’r ymatebion a dderbyniwyd. Bydd unrhyw bryderon a godir am y polisi drafft newydd yn cael eu hystyried a bydd newidiadau yn cael eu gwneud i’r polisi yn ôl yr angen.

 

  1. Ar ôl cymeradwyaeth gan y pwyllgor hwn yn dilyn yr ymgynghoriad,  fe fydd y polisi newydd yn cael ei gyflwyno i’r  Cyngor Llawn iw ystyried; er penderfyniad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu yn amlygu’r angen i ddechrau ymgynghoriad statudol ar ddatganiad o bolisi drafft Deddf Trwyddedu 2003. Atgoffwyd yr Aelodau bod gofyn statudol i bob Awdurdod Trwyddedu adolygu ei bolisi bob pum mlynedd a’i newid fel yr angen. Ategwyd bod polisi presennol Awdurdod Trwyddedu Cyngor Gwynedd wedi ei gymeradwyo yn y Cyngor Llawn Rhagfyr 2015.

 

Cyfeiriwyd at y polisi drafft newydd gan dynnu sylw at y man newidiadau sydd i’r polisi presennol. Cyfeiriwyd hefyd at rôl Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Bwrdd Iechyd yn y broses o lunio polisi ac ymateb i geisiadau am drwydded eiddo.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i gymeradwyo’r argymhelliad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â derbyn cofnodion o gyfarfodydd swyddogion ar draws y Gogledd, nodwyd gan fod y cyfarfodydd yn cymryd lle yn wythnosol a 90% o’r drafodaeth yn ymwneud â rheoliadau covid 19, nad oedd cofnodion ysgrifenedig o’r cyfarfodydd hyn ar gael.

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Cymeradwyo cychwyn yr  ymgynghoriad statudol ar y Datganiad o Bolisi Trwyddedu drafft.

 

  1. Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori fydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor hwn yn amlinellu’r ymatebion a dderbyniwyd. Bydd unrhyw bryderon a godir am y polisi drafft newydd yn cael eu hystyried a bydd newidiadau yn cael eu gwneud i’r polisi yn ôl yr angen.

 

  1. Ar ôl cymeradwyaeth gan y pwyllgor hwn yn dilyn yr ymgynghoriad,  fe fydd y polisi newydd yn cael ei gyflwyno i’r  Cyngor Llawn iw ystyried; er penderfyniad.