Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2015/16

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Gadeirydd am y cyfnod 2015 - 2016

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is gadeirydd am 2015/16

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Tudor Owen yn Gadeirydd am y cyfnod 2015 - 2016

 

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Croesawyd pawb i’r Pwyllgor gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Eryl Jones- Williams. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Eddie Dogan, Llywarch Bowen Jones ac Ann Williams.

 

Croesawyd Gareth Jones, Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd  i’r Pwyllgor. Nodwyd bod Gareth Jones wedi derbyn cyfrifoldeb dros dro dros yr adran Gwarchod y Cyhoedd yn sgil ymddeoliad Mr John Reynolds, Uwch Reolwr Gwarchod y Cyhoedd . Anfonwyd neges a ran y pwyllgor i ddiolch i Mr John Reynolds am ei wasanaeth a’i gefnogaeth dros y blynyddoedd i’r Pwyllgorau Trwyddedu.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 73 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod diwethaf y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9fed o Fawrth  2015 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 9fed o Fawrth  2015 fel rhai cywir.

 

7.

COFNODION IS BWYLLGOR TRWYDDEDU pdf eicon PDF 221 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

           

(a)        09.02.2015

(b)        12.05.2015

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar 09.02.2015 a 12.05. 2015.

 

8.

DIWYGIO DEDDF TRWYDDEDU 2003: DEDDF DADREOLI 2015 pdf eicon PDF 75 KB

            Cyflwyno  adroddiad Pennaeth yr Adran Rheoleiddio er gwybodaeth

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth adroddiad Pennaeth yr Adran Rheoleiddio i godi ymwybyddiaeth yr Aelodau i newidiadau o fewn Deddf Trwyddedu 2003: Deddf Dadreoli 2015. Nodwyd bod y Ddeddf Dadreoli 2015 wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol ar 26 Mawrth 2015 fydd o ganlyniad yn darparu ar gyfer tynnu neu leihau baich ar fusnesau, unigolion, cyrff sector cyhoeddus ac unigolion.  Amlygwyd bod y  Ddeddf Dadreoli 2015 yn ymdrin ag amrediad eang o fesurau ac yn cynnwys mesurau sy'n effeithio ar 'alcohol, chwaraeon ac adloniant' ac yn benodol Deddf Trwyddedu 2003. Nodwyd y byddai’r newidiadau yn cael eu cyflwyno yn raddol:

 

Tynnwyd sylw at y prif fesurau fydd yn effeithio ar Ddeddf Trwyddedu 2003 -

·  A68 - Rhybuddion am ddigwyddiadau dros dro: cynnydd yn uchafswm nifer y digwyddiadau'r flwyddyn (dod i rym 26.5.15)

·  A69 - Trwydded bersonol: dim gofyn i’w hadnewyddu (dod i rym 1.4.15)

·  A70 - Gwerthu melysion gwirod i blant dan 16: diddymu’r drosedd (dod i rym 26.5.15)

·  A72 - Tynnu’r gofyn i adrodd am golli neu ddwyn y drwydded ac ati i’r heddlu (dod i rym 26.5.15)

·  A76 - Arddangos ffilmiau mewn eiddo cymunedol  (dod i rym 6.4.15)

 

Er hynny, nid oes gorchymyn cychwyn yn manylu pa ddyddiadau y byddai’r darpariaethau isod yn dod i rym. Ategwyd y byddai’r newidiadau isod yn debygol o gael effaith ar lwyth gwaith yr Uned Trwyddedu.

 

·  A67 Gwerthu Alcohol: digwyddiadau cymunedol ac ati a gwerthiannau busnes atodol

·  A71 – Lluniaeth hwyr y nos

 

Mewn ymateb i sylw, yng nghyd-destun Gwerthu alcohol (A67),  nodwyd bod angen i drefnydd unrhyw ddigwyddiad dystiolaethu’r angen mewn cais i werthu alcohol mewn digwyddiad cymunedol. Bydd rhybudd Rhan 5A yn parhau am dair blynedd ac yn rhybudd ar yr eiddo yn unig. Bydd cost y rhybudd yn cael ei benderfynu yn genedlaethol. Diben y newid yma yw creu awdurdodaeth ysgafnach i leihau baich ar ein cymunedau. Yn ychwanegol, nodwyd nad oedd fformat y rhybudd wedi ei gyflwyno hyd yma ynghyd â’r elfen gorfodaeth.

 

Y bwriad yw symleiddio prosesau o greu digwyddiadau cymunedol ac nid i geisio busnes oddi ar fusnesau lleol eraill. Croesawyd yr egwyddor, ond amlygwyd nad oedd digon o wybodaeth wedi dod i law. Amlygwyd pryder  am yr elfen llwyth gwaith ychwanegol a phrinder adnoddau yr Uned Trwyddedu fydd yn codi o ganlyniad i’r newidiadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn argymhelliad y Pennaeth Rheoleiddio

 

Dechreuodd y cyfarfod am 10:00a.m a daeth i ben am 10:55am