Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Steve Collings a’r Cynghorydd Roy Owen. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 19
Gorffennaf 2021 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd Gorffennaf 19 2021 fel rhai cywir. Llongyfarchwyd Geraint
B Edwards (Cyfreithiwr) ar ei benodiad fel Cyfreithiwr yn Sir Fynwy. Diolchwyd
iddo am ei gyngor a’i gefnogaeth i’r Pwyllgorau Trwyddedu a’r Is-bwyllgorau
Trwyddedu dros y blynyddoedd a dymunwyd y gorau iddo yn ei swydd newydd. |
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL PDF 289 KB Cyflwyno,
er gwybodaeth, gofnodion o gyfarfod Is bwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar y
dyddiad canlynol: a) 15
Mawrth 2021 Cofnod: Derbyniwyd, er
gwybodaeth gofnodion yr Is bwyllgorau a gynhaliwyd 15 Mawrth 2021 |
|
RHEOLI SEFYDLIADAU RHYW - DEDDF LLYWODRAETH LEOL (DARPARIAETHAU AMRYWIOL) 1982 PDF 288 KB I ystyried yr
adroddiad a chymeradwyo argymhelliad i’r Cyngor Llawn fabwysiadu grymoedd i
reoleiddio sefydliadau rhyw ac argymhellion cysylltiol yn dilyn sylwadau
ymgynghoriad cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Pwyllgor yn argymell i’r Cyngor Llawn: ·
Fabwysiadu ledled y Sir
Atodlen 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, fel y’i
diwygiwyd gan y Ddeddf Plismona a Throseddu 2009, gan ddod yn weithredol ddim
cynt na 1 Rhagfyr 2021 ·
Cyfarwyddo’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gyhoeddi’r hysbysebion
statudol ynghlwm â’r penderfyniad i fabwysiadu am 2 wythnos yn olynol, gyda’r
cyntaf ddim hwyrach na 28 diwrnod cyn y dyddiad y daw'r penderfyniad i rym ·
Dirprwyo’r materion o bennu
ffioedd, gosod amodau safonol a chynllun prosesu ceisiadau i’r Pwyllgor
Trwyddedu Cyffredinol Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan Pennaeth yr Amgylchedd yn amlygu’r angen i’r Awdurdod Trwyddedu
sydd yn dymuno rheoleiddio sefydliadau rhyw yn ei ardal, i fabwysiadu
darpariaethau Atodlen 3 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol)
1982 fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf Plismona a Throseddu 2009. Cyfeiriwyd at
gefndir y sefyllfa yng Ngwynedd a’r grymoedd sydd yn bodoli ar hyn o bryd ynghyd a
phenderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol (19 Gorffennaf 2021) i
gymeradwyo ymgymryd â phroses o ystyried mabwysiadu Atodlen 3 er mwyn sicrhau
cyfundrefn trwyddedu a rheoleiddio sefydliadau rhyw drwy’r Sir. Yn ogystal
cymeradwywyd proses o ymgynghori am 28 diwrnod ac fe lansiwyd yr ymgynghoriad
cyhoeddus ar y 26ain o Orffennaf a daeth i ben ar y 23ain Awst. Cyhoeddwyd
datganiad i’r wasg a bu ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad ar y
cyfryngau cymdeithasol. Ymgynghorwyd gyda phartneriaid allweddol (gan gynnwys
Heddlu Gogledd Cymru a Chynghorau Tref a Chymuned) a’u gwahodd i gyfrannu at yr
ymgynghoriad, Yn ogystal rhoddwyd holiadur ar wefan y Cyngor ac fe dderbyniwyd
102 o ymatebion i’r holiadur hwnnw. Adroddwyd bod mwyafrif amlwg (68%) o’r
ymatebion cyflawn a ddaeth i law, o blaid mabwysiadau Atodlen 3 i gael trefn
rheoleiddio sefydliadu rhyw yn y Sir. O ganlyniad, argymhellwyd bod y Pwyllgor
yn argymell i’r Cyngor Llawn fabwysiadu Atodlen 3 o’r Ddeddf
Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982
ynghyd ag argymhellion cysylltiol. Rhagwelwyd cyflwyno’r mater gerbron y
Cyngor Llawn ar y 7fed o Hydref 2021. Diolchwyd am yr
adroddiad Cynigiwyd ac eiliwyd i gymeradwyo’r
argymhelliad PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cyngor
Llawn: ·
Fabwysiadu ledled
y sir Atodlen 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, fel
y’i diwygiwyd gan y Ddeddf Plismona a Throseddu 2009, gan ddod yn weithredol
ddim cynt na 1 Rhagfyr 2021 ·
Cyfarwyddo’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i
gyhoeddi’r hysbysebion statudol ynghlwm â’r penderfyniad i fabwysiadu am 2
wythnos yn olynol, gyda’r cyntaf ddim hwyrach na 28 diwrnod cyn y dyddiad y
daw'r penderfyniad i rym ·
Dirprwyo’r
materion o bennu ffioedd, gosod amodau safonol a chynllun prosesu ceisiadau i’r
Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol |