Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Arwyn Herald Roberts

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol

3.

MATERION BRYS

 

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 99 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd 27 Mehefin 2022 fel rhai cywir

 

5.

COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL pdf eicon PDF 222 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar y dyddiad canlynol:

 

a) 15 Gorffennaf 2022

b) 27 Mehefin 2022

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd er gwybodaeth gofnodion yr Is-bwyllgorau Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd 27 Mehefin 2022 a 15 Gorffennaf 2022

 

6.

UCHAFSWM PRISIAU TEITHIAU CERBYDAU TACSI HACNI pdf eicon PDF 280 KB

I ystyried a chymeradwyo'r cynnig gan y diwydiant  tacsi i godi’r uchafswm prisiau

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  • Cymeradwyo’r cynnig i godi’r uchabris yn unol a’r argymhelliad

 

Uchafbris perthnasol

Cyfraddau presennol

Argymhelliad

 

 

 

Lle mae’r daith yn llai na milltir

£3.60

Dim newid

Lle mae’r daith yn fwy na milltir, am y filltir gyntaf

£3.00

Dim newid

Creu ‘tariff’ ychwanegol ar gyfer teithiau mewn bws mini lle mae rhwng 5 ac 8 o deithwyr

£3.00

£3.30

Uchafbris cludo bagiau ychwanegol yn cist y cerbyd

30c

50c

Uchafbris cost ‘valet‘ glanhau proffesiynol

£45

£120

Am logi'r cerbyd rhwng hanner nos a 7:00y.b. unrhyw ddydd neu ar unrhyw amser ar Ŵyl y Banc, heblaw am Ddydd Nadolig a Dydd Calan

50% yn ychwanegol ar y gyfradd sylfaennol

 £4.50

60% yn ychwaegol i’r cyfradd sylfaennol

£4.80

 

  • Cymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus am 14 diwrnod
  • Derbyn yr angen i ail drafod os daw gwrthwynebiadau i’r cynnig cyn gweithredu

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd oedd yn ymateb i gais gan y diwydiant yng Ngwynedd i newid yr uchaf bris.

 

Yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 sydd yn gosod dyletswyddau rheoleiddio ar yr Awdurdod Trwyddedu mewn perthynas â gweithredu  uchaf bris a all gael ei godi ar y cyhoedd wrth deithio mewn cerbydau hacni oddi fewn i’r Sir,  mae’n ofynnol fod unrhyw gais am newid yn cael ei gyflwyno gan y diwydiant. Cadarnhawyd bod 5 cais diweddar wedi eu derbyn gan berchnogion cwmnïau tacsi i adolygu’r prisiau a bod y prisiau hyn ar gyfer cerbydau hacni yn unig ac nid cerbydau preifat. Ategwyd bod y Ddeddf yn caniatáu darparu tabl prisiau ynghyd a’r gofyniad statudol i ddefnyddio cloc tacsi (taxi meter) fel mecanwaith i reoleiddio'r prisiau a diogelu buddiannau’r cyhoedd.

 

Nodwyd y bu cais llwyddiannus i gynyddu’r uchaf bris yn 2019 (wedi 9 mlynedd heb gynnydd) ac nad oedd newid wedi bod ers hynny. Ategwyd bod y cynnydd o £5 i £6 yn yr uchaf bris am y ddwy filltir gyntaf mewn taith tacsi yn 2019 yn un sylweddol ac yn adlewyrchu cyfartaledd costau chwyddiant dros y cyfnod.

 

Cyfeiriwyd at y ffactorau hynny sydd wedi effeithio busnesau tacsi yn ddiweddar (cyfnod clo dros gyfnod covid 19, cynnydd sylweddol yng nghostau tanwydd  ynghyd a chynnydd sylweddol mewn chwyddiant) gan nodi bod rhain yn ffactorau sydd yn effeithio pawb. Nodwyd pwysigrwydd cloriannu effaith y sefyllfa bresennol gan sicrhau tegwch i’r diwydiant a’r defnyddwyr tacsi.

 

Cyfeiriwyd at gynnig ac argymhellion yr Awdurdod Trwyddedu i gynyddu rhai prisiau o gymharu a’r cyfraddau presennol gan adrodd y bydd cyfnod o ymgynghori ar y cynnig yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor. Ategwyd y bydd angen ail drafod y cynnig os bydd gwrthwynebiadau yn cael eu cyflwyno gan y diwydiant.

 

b)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Bod y cynnig yn un hael

·         Bod y cynnig am gostau glanhau proffesiynol yn gynnydd sylweddol

·         Angen sicrhau nad yw’r pris yn ormod i’r rhai hynny sydd yn ddibynnol ar wasanaeth tacsi

·         Bod rhai pobl fregus yn gaeth i’w tai oherwydd toriadau mewn gwasanaethau bws - angen sicrhau na fydd y rhain yn cael eu heffeithio gan y cynnydd am wasanaeth tacsi

·         Pryder y gall codi am gost o gludo bagiau gael effaith ar siopau lleol – awgrym y bydd pobl yn troi at siopa ar lein

·         Bod angen osgoi effaith negyddol ar ddefnyddwyr

 

c)    Mewn ymateb i sylw bod rhai cwmnïau yn osgoi siwrneiau byr oherwydd gormod o drafferth a bod sefyllfa o'r fath yn achos o bryder i unigolion bregus, nododd y Pennaeth Cynorthwyol ei ddymuniad i unrhyw achos o’r fath gael ei gyfeirio i’r Awdurdod Trwyddedu.

 

Mewn ymateb i sylw bod prisiau teithiau yn amrywio yn sylweddol mewn rhai ardaloedd, awgrymwyd mai cwmnïau preifat oedd yn gwneud hyn ond y dylid cyflwyno unrhyw esiamplau i’r Awdurdod Trwyddedu fel bod modd edrych i mewn i’r mater. Ategodd y dylid adrodd ar unrhyw ddigwyddiad fel bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADOLYGIAD O FFIOEDD TRWYDDEDU SEFYDLIADAU RHYW pdf eicon PDF 256 KB

I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo ffioedd ar gyfer trwyddedu a rheoleiddio sefydliadau rhyw

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  • Cymeradwyo gosod lefel y ffioedd sy'n adlewyrchu  gweinyddu ac asesu cydymffurfiaeth a phrosesu ceisiadau am drwyddedau sefydliadau rhyw
  • Cymeradwyo adolygiad blynyddol o'r ffioedd hynny.   

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan  Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo ffioedd ar gyfer trwyddedu a rheoleiddio sefydliadau rhyw. Atgoffwyd yr Aelodau bod y Pwyllgor hwn, ym mis Rhagfyr 2021 wedi mabwysiadu darpariaethau Atodlen 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 ("Deddf 1982"), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Troseddu a Phlismona 2009 ("Deddf 2009") ar gyfer y sir gyfan.

 

Eglurwyd bod y ddarpariaeth yn caniatáu i'r Cyngor godi ffi am drwyddedau sefydliad rhyw sydd yn ddigonol i adennill costau yn unig. Ategwyd bod rhaid i’r ffioedd fod yn rhesymol ac yn gymesur â chost y prosesau trwyddedu, sy'n cynnwys gweinyddu, yn ogystal â chynnal arolygiadau cydymffurfio. Ni ellid defnyddio ffioedd i wneud elw na gweithredu fel rhwystr economaidd i atal rhai mathau o fusnesau rhag gweithredu yn yr ardal. Nodwyd bod disgwyl i bob Awdurdod Trwyddedu bennu lefel ffioedd yn unol a’r hyn sy’n briodol  i sicrhau adennill costau; bod  ffioedd pob awdurdod trwyddedu yn  wahanol; ac na ddylid defnyddio ffioedd cymharol awdurdodau eraill fel sail pennu ffi.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro  bod yr Adran Trwyddedu wedi ystyried gwir gostau yn hytrach nac amcan gostau neu gostau tybiedig ac nad oedd elfen o wneud elw i’r gost.

 

b)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Bod angen sicrhau bod y costau yn cael eu hadennill

·         Bod angen adolygu’r ffioedd yn flynyddol

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a beth yw diffiniad siop rhyw, nododd y Swyddog Monitro bod siop rhyw yn cael ei ddiffinio fel sefydliad sydd yn cynnig 30% neu fwy o arwynebedd llawr y siop ar gyfer arddangos  a gwerthu nwyddau / teganau rhywiol (tu hwnt i ddillad yn unig).

 

            PENDERFYNWYD

 

·         Cymeradwyo gosod lefel y ffioedd sy'n adlewyrchu  gweinyddu ac asesu cydymffurfiaeth a phrosesu ceisiadau am drwyddedau sefydliadau rhyw

·         Cymeradwyo adolygiad blynyddol o'r ffioedd hynny.