Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Peter
Read, Louise Hughes, Tudor Owen a Elfed W. Williams Adroddwyd bod y Cynghorydd Tudor Owen wedi derbyn
llawdriniaeth yn ddiweddar a dymunwyd gwellhad buan iddo a phenderfynwyd anfon cerdyn
iddo gan y Pwyllgor. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni
dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 20.06.16 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 20fed o Fehefin
2016 fel rhai cywir. |
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL PDF 207 KB Cyflwyno,
er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinnol a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol: a) 25.05.16 b) 04.10.16 c) 19.10.16 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgorau Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd 25.05.16, 04.10.16 a 19.10.16 |
|
TRWYDDEDU TACSIS A DEDDF MEWNFUDO 2016 PDF 164 KB I ystyried adroddiad Pennaeth yr Adran
Rheoleiddio Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio yn amlygu diwygiadau i’r Ddeddf
Mewnfudo 2016 a oedd wedi dod i rym ar y
1af o Ragfyr 2016. Pwrpas y diwygiadau oedd sicrhau
nad yw Awdurdodau Trwyddedu yn cyflwyno trwyddedau i fewnfudwyr anghyfreithlon
ac yn cyflawni'r ddyletswydd yma drwy wiriadau mewnfudo. Wrth ymhelaethu
ar y cefndir nodwyd, ·
Bod
y Ddeddf yn diwygio cyfundrefnau trwyddedu presennol yn y DU i geisio atal gweithio anghyfreithlon
yn y sector trwyddedu tacsis/cerbydau hurio preifat a cherbydau hacni. ·
Bod y Ddeddf 2016 yn ymgorffori dulliau diogelu
mewnfudiad yng nghyfundrefnau trwyddedu presennol yng nghyswllt Deddf Trwyddedu
2003 ar draws y DU, ond nid yw trefniadau ar gyfer y darpariaethau yma wedi'u
cadarnhau Tynnwyd sylw at
effaith y mesurau newydd a oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ynghyd â
dyletswyddau’r Awdurdodau Trwyddedu i weithredu diwygiadau i’r Ddeddf. Wrth
ystyried goblygiadau gweithredu'r diwygiadau hyn, nodwyd bod pob deddfwriaeth
newydd yn cyflwyno mwy o waith sydd fel arfer, yn gam arall mewn proses yn
hytrach na gwaith o’r newydd. Eglurwyd, er bod Swyddogion Trwyddedu eisoes yn
gwirio rhai o'r dogfennau sydd eu hangen dan Ddeddf Mewnfudo 2016, y byddai’r
gofynion newydd yn golygu cynnal pob gwiriad ym mhresenoldeb yr ymgeisydd; gallai'r gwiriadau a cheisiadau cychwynnol
gymryd mwy o amser i'w prosesu ynghyd a threfnu i swyddogion dderbyn
hyfforddiant pellach ar adnabod dogfennau ffug. Gan mai camau ychwanegol sydd
yn ymddangos i’r broses gwirio ceisiadau, anodd yw mesur y goblygiadau yn llawn
ac efallai bydd darlun mwy eglur o’r sefyllfa ymhen 6 mis. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â’r Ddeddfwriaeth yn dod i rym
ar y 1af o Ragfyr, eglurwyd bod y canllawiau wedi eu
derbyn ar ôl y dyddiad yma ac nad oedd fersiwn Gymraeg o’r canllawiau ar gael Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â rhannu'r wybodaeth gyda chwmnïau tacsi, nodwyd nad oedd
newyddlen wedi ei dosbarthu ac felly derbyniwyd yr awgrym i greu taflen syml a
dealladwy ar gyfer y cwmnïau tacsi fyddai yn amlinellu diwygiadau'r Ddeddf
Mewnfudo 2016. Derbyniwyd y wybodaeth |
|
FFORDD GWYNEDD - YMARFER TRWYDDEDU Ystyried adroddiad y Rheolwr Trwyddedu Cofnod: Cafwyd diweddariad
ar lafar gan yr Uwch
Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd
ar ymarferiadau’r gwasanaeth trwyddedu dros y 12 mis diwethaf
i adolygu eu prosesau gwaith er mwyn sicrhau
bod pobl Gwynedd yn ganolog i’r hyn
sydd yn cael
ei weithredu. Nodwyd bod y
broses yn rhoi cyfle i bawb gael mewnbwn i’r adolygiad gwasanaeth a bod y
broses wedi adnabod cyfleoedd megis, ·
Cysoni a rhesymoli polisïau trwyddedu tacsi ·
Cyflwyno hunanwasanaeth ·
Diddymu elfennau
nad oes gwerth iddynt o fewn proses – angen creu proses llyfn Camau nesaf yr ymarfer yw adnabod yr adnodd i wella a hwyluso Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol; ·
Angen sicrhau cysondeb ffioedd tacsi ·
Angen diweddaru'r Pwyllgor yn aml o’r sefyllfa er
mwyn sicrhau cefnogaeth i hwyluso'r broses ymlaen Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â
hwyluso’r adolygiadau, nodwyd y byddai’r Adran yn edrych am gefnogaeth y
Pwyllgor ynghyd a rhoi arweiniad i’r
broses. Awgrymwyd sefydlu gweithgor i drafod yr adolygiadau a sicrhau mewnbwn. Derbyniwyd y wybodaeth a diolchwyd i’r Adran
am y gwaith. |