Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Annwen Daniels, Annwen Hughes,
John Brynmor Hughes, Sion Jones a Jason W Parry, |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 11.09.17 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r
pwyllgor a gynhaliwyd ar 11eg o Fedi 2017 fel rhai cywir. |
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL PDF 297 KB Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol: a) 22.08.17 b) 13.11.17 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth,
gofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd
22.8.17 a 13.11.17 |
|
GWEITHREDU DEDDF CYDRADDOLDEB 2010 - TACSIS HYGYRCH AR GYFER CADEIRIAU OLWYN PDF 242 KB I ystyried adroddiad Pennaeth Adran yr Amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Adran yr Amgylchedd yn cynghori'r Aelodau
ar yr elfennau hynny o’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sydd yn weithredol ers Ebrill
2017. Adroddwyd bod adrannau 165, 166 a
167, sydd yn berthnasol i gerbydau sydd yn hygyrch i gadeiriau olwyn, yn ei
gwneud hi yn ofynnol i’r Awdurdod Trwyddedu benderfynu os ydynt yn dymuno
cyhoeddi rhestr o gerbydau sydd wedi eu dynodi fel rhai hygyrch. Y bwriad yw
sicrhau bod gwell gwybodaeth ar gael i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn am y
cerbydau hynny sydd yn addas ar eu cyfer, yn eu hardaloedd, ac iddynt fod yn
hyderus y byddant yn derbyn cymorth angenrheidiol i deithio’n ddiogel. Ategwyd bod Adran 167 o’r Ddeddf yn rhoi caniatâd i’r Awdurdodau gynnal
rhestr ddynodedig o gerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn. Er nad oes
rhwymedigaeth gyfreithiol na gofyn
statudol i gynnal rhestr o’r fath, nodwyd bod y llywodraeth yn awgrymu’n gryf y
dylai Awdurdodau Lleol gadw'r rhestr yn gywir a chyfredol. Cyfeiriwyd at
ganllawiau statudol y mae'r Adran Drafnidiaeth wedi eu pennu ynghylch
gweithredu’r adrannau ynghyd ag argymell pa brosesau y dylai’r Awdurdodau Lleol
eu hystyried i sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu’n effeithiol. Adroddwyd
bod 53 o gerbydau trwyddedig fyddai yn cael eu dynodi fel rhai sydd yn hygyrch
i gadeiriau olwyn yng Ngwynedd (13% o gyfanswm y Sir). Nodwyd y byddai cyhoeddi
rhestr yn ffordd o annog cynnydd mewn
ceisiadau am drwydded cerbydau o’r fath ac yn anogaeth i gwmnïau sylweddoli bod
gwerth economaidd posib i gynnwys cerbyd hygyrch fel rhan o’u fflyd. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau
canlynol gan Aelodau unigol: - Y byddai rhestr yn gosod fframwaith i ddarpariaeth
Cyngor Gwynedd - Yn ganllaw da i hyrwyddo gwasanaeth - Bod posibilrwydd i gydweithio a rhannu'r
rhestr gydag ysbytai'r Sir - Delfrydol y dylai pob cerbyd hacni fod yn hygyrch i
gadeiriau olwyn ac y dylai hyn fod yn weledigaeth i’r dyfodol - Bod angen cyflwyno cyfundrefn newydd yn raddol i
annog defnydd o geir amlbwrpas – angen i’r Cyngor fod yn arloesol - Cwmnïau llai yn debygol o fuddsoddi petai pwysau yn
dod gan y cyhoedd - Bod her i’r Adran gadw'r rhestr yn gyfredol PENDERFYNWYD cymeradwyo: a) gweithredu
gofynion adrannau 165, 166 a 167 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. b) bod y swyddogion yn paratoi polisi, i'w ystyried gan y
pwyllgor, ar y meini prawf ar gyfer eithriadau a'r gweithdrefnau ar gyfer
gyrwyr na allent gydymffurfio â'r dyletswyddau a osodir yn y Ddeddf am resymau
meddygol neu gorfforol. c) bod y darpariaethau polisi ar gyfer rhoi'r gweithdrefnau
hyn ar waith yn cael eu cynnwys yn yr adolygiad o bolisïau tacsis sydd ar y
gweill ar hyn o bryd; a'u cynnwys yn y polisi tacsis unedig fydd yn barod i
ymgynghori arno yn fuan. |
|
ADOLYGU POLISÏAU TACSI CYNGOR GWYNEDD I dderbyn diweddariad ar lafar ar yr adolygiad Cofnod: Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Rheolwr Trwyddedu
ar y broses o adolygu holl bolisïau tacsis Cyngor Gwynedd gan atgoffa’r Aelodau
mai'r bwriad oedd cyflwyno un polisi unedol fydd yn cynnwys penderfyniad
y Pwyllgor i weithredu adrannau 165, 166 a 167 o’r Ddeddf Cydraddoldeb.
Adroddwyd bod James Button (JB) (Cyfreithiwr arbenigol yn y maes trwyddedu)
hefyd yn cynnal adolygiad cenedlaethol i atgyfnerthu a gwella'r polisi
collfarnau. Ategwyd bod Cyngor Gwynedd yn croesawu'r gwaith yma ac yn
gwerthfawrogi unrhyw welliant / diweddariad, gan fod y Cyngor yn gwneud defnydd
helaeth o’r polisi wrth ystyried ceisiadau trwydded hacni / gyrrwr tacsi.
Adroddwyd y byddai adolygiad JB yn debygol o fod wedi ei gwblhau erbyn Ebrill
2018 ac y bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cynnwys ym mholisi unedol Gwynedd. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau
canlynol gan Aelodau unigol: - Croesawu'r angen i resymoli a chysoni'r polisïau ar
gyfer y 3 ardal yng Ngwynedd - Angen sicrhau polisi collfarnau cyffredinol i bawb
- ar hyn o bryd y polisïau yn cael eu camddehongli sydd yn gwneud rhai
sefyllfaoedd yn anodd - Angen sicrhau bod yr addasiadau / newidiadau yn
cael eu gweithredu gyda'i gilydd - un addasiad Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag amserlen cyhoeddi'r
polisi unedol, amlygwyd y byddai hyn yn ddibynnol ar sicrhau bod yr holl
elfennau yn barod ynghyd a chynnal ymgynghoriad ffurfiol, swyddogol. Ategwyd
mai’r elfennau fydd yn gyrru’r amserlen, ond gobeithiol y byddai’r polisi unedol yn weithredol erbyn
Mehefin 2018. DERBYNIWYD
y wybodaeth |