Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2019 - 2020 Cofnod: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Elfed Williams yn
Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2019 – 2020 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is
gadeirydd ar gyfer 2019 - 2020 Cofnod: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Annwen Hughes yn Is
Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2019 – 2020 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Sïon Jones Croesawyd y
Cynghorydd Gareth Jones fel aelod newydd i’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan
unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Gwnaed cais gan y Cynghorydd Eryl
Jones Williams i drafod a chadarnhau aelodaeth panel ar gyfer ceisiadau
trwyddedu cerbydau tu allan i bolisi.
Nododd y Swyddog Trwyddedu bod y Polisi Tacsi Unedol yn cael ei adolygu, ond yn
y cyfamser bod ceisiadau wythnosol yn
cael ei gwneud i’r panel gan nad yw’r swyddogion gyda’r awdurdod i wneud
penderfyniad. Amlygwyd bod y panel yn cynnwys tri aelod - fel arfer y
Cadeirydd, Is-gadeirydd, cyn gadeiryddion neu’r aelod mwyaf profiadol. PENDERFYNWYD
enwebu'r Cynghorwyr Elfed Williams, Annwen Hughes a Peter Read fel aelodau i’r
panel. |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 11
Ebrill 2019 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 11eg
o Ebrill 2019 fel rhai cywir. Yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor i enwebu aelodau ar gyfer cylch gorchwyl i
ystyried cynnwys Polisi Trwyddedu Tacsi Unedig (drafft) amlygodd y Swyddog
Trwyddedu y byddai cyfarfod cychwynnol o’r cylch gorchwyl yn cael ei drefnu
ymhen 6 wythnos. |
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL PDF 88 KB Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor
Trwyddedu Cyffredinnol a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol: a) 16.04.2019 b) 12.04.2019 c) 20.03.2019 Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd,
er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a
gynhaliwyd 16.04.2019, 12.04.19 a 20.03.19 Mynegodd
y Cynghorydd Eryl Jones Williams ei fod yn dymuno camu i lawr fel un o
gadeiryddion yr Is Bwyllgorau a diolchodd i’r Aelodau a’r swyddogion am eu
cefnogaeth. Diolchodd
y Cynghorydd Peter Read i aelodau’r Pwyllgor a’r swyddogion am eu cefngoaeth
tra yn Gadeirydd y Pwyllgorau Trwyddedu. |