Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd W Roy Owen a’r Cynghorydd Jason W Parry |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 7fed o Fehefin 2021 fel rhai cywir COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd Mehefin
7fed 2021 fel rhai cywir |
|
RHEOLI SEFYDLIADAU RHYW - DEDDF LLYWODRAETH LEOL (DARPARIAETHAU AMRYWIOL) 1982 PDF 336 KB Cymeradwyo cychwyn ymgynghoriad cyhoeddus ar fabwysiadu grymoedd i
reoleiddio sefydliadau rhyw Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
COFNODION: Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth yr Amgylchedd yn amlygu’r angen i gychwyn
ymgynghoriad cyhoeddus ar fabwysiadu grymoedd i reoleiddio sefydliadau rhyw yn
y Sir. Eglurwyd bod yn ofynnol i Awdurdod Trwyddedu sydd yn dymuno rheoleiddio
sefydliadau rhyw yn ei ardal, fabwysiadu darpariaethau Atodlen 3 o’r Ddeddf
Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (“Deddf 1982”), fel y’i
diwygiwyd gan y Ddeddf Plismona a Throseddu 2009 (“Deddf 2009”). Mae mabwysiadu Atodlen
3 o Ddeddf 1982 yn ddewisol ac yn digwydd fel arfer pan gyflwynir bwriad i agor
busnes o’r fath am y tro cyntaf. Yn hanesyddol, dim ond ym Mangor y derbyniwyd
cais ble rhoddwyd trwydded i agor busnes
o’r fath ac felly Cyngor Dosbarth Arfon yn unig sydd
wedi gwneud penderfyniad i fabwysiadu Atodlen 3, a ddaeth yn weithredol
1 Awst 1983. (Nid oes tystiolaeth fod Cyngor Dosbarth Dwyfor na
Chyngor Dosbarth
Meirionnydd wedi penderfynu
mabwysiadu Atodlen 3). Ymddengys, yn sgil
ad-drefnu Llywodraeth Leol 1996 nad oes
tystiolaeth bod Cyngor Gwynedd wedi
penderfynu mabwysiadu Atodlen 3 chwaith. O ganlyniad, ardal Arfon yw'r unig
ardal o’r sir lle mae gan y Cyngor yr hawl i drwyddedu
o dan Atodlen 3 (yr hen Gyngor Bwrdeistref
Arfon). Yn ogystal, ers i
Gyngor Bwrdeistref Arfon fabwysiadu’r atodlen yn 1983, mae’r atodlen bellach
wedi ei diwygio
gan adran 27 o Ddeddf 2009 i gynnwys
y gallu i drwyddedu mangreoedd adloniant rhywiol. Gan fod y diwygiad
yn ddewisol ac wedi ei gyflwyno
ar ôl y penderfyniad
i fabwysiadu, nid yw grym
y Cyngor i reoleiddio yn Arfon o dan
Atodlen 3 yn cynnwys y gallu i reoleiddio mangreoedd
adloniant rhywiol ar hyn o bryd. Cyfeiriodd y Rheolwr Trwyddedu at y broses ffurfiol
a’r camau allweddol sydd ynghlwm ar broses o fabwysiadu Atodlen 3 ynghyd ar risgiau
i’r Cyngor o beidio â mabwysiadu’r atodlen. Yn unol â’r
Ddeddf Cydraddoldeb 2010, cyfeiriwyd hefyd at yr asesiad cydraddoldeb
a gwblhawyd oedd yn ystyried yr
effaith cydraddoldeb i’r cynnig. Adroddwyd
bod yr asesiad yn rhoi cyfle
i’r Awdurdod Trwyddedu hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a’r ddyletswydd
economaidd cymdeithasol, drwy sefydlu cyfundrefn
lle mae
sefydliadau yn cael eu rheoli
a’u gweithredu yn gyfreithlon. Diolchwyd am yr adroddiad Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Y byddai gosod cyfundrefn yn
sicrhau rheolaeth a threfn ·
Bod angen sicrhau geiriad
addas ar gyfer hysbysebu yn gyhoeddus ·
Bod angen ail adolygu rhai
cymalau o fewn yr asesiad effaith ·
Bod angen sicrhau mewnbwn gan
yr Heddlu a phartneriaid eraill ·
Bod angen cydweithio gyda’r
gwasanaeth cynllunio ·
Byddai peidio mabwysiadau
trefn yn amlygu risgiau a codi pryderon Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â ffioedd priodol, nodwyd er bod y Siop ym Mangor wedi cau erbyn hyn, bod Cyngor Dosbarth Arfon wrth fabwysiadau Atodlen 3 wedi pennu'r ffioedd uchaf posib o dan ddarpariaethau statudol y Ddeddf. Er hynny, heriwyd ffioedd y Cyngor ac yn unol â dyfarniad Llys gorfodwyd y Cyngor i osod ffioedd fyddai yn adennill costau yn ... view the full COFNODION text for item 5. |