Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL |
|
MATERION BRYS |
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL PDF 161 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
DIRPRWYO HAWLIAU I BENDERFYNU AR GEISIADAU TRWYDDEDAU TACSI PDF 185 KB I gymeradwyo diwygio’r drefn
dirprwyo penderfyniadau i’r Is Bwyllgor yn unol a’r drefn a argymhellir yn yr
adroddiad . Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo
diwygio’r drefn dirprwyo penderfyniadau i’r Is-bwyllgor. Hawliau Dirprwyedig Pennaeth Amgylchedd: adolygu cymal 11.3.5
fel a ganlyn- Gweithredu pwerau’r Cyngor ym maes trwyddedu cerbydau hacni a
cherbydau hur preifat ag eithrio’r materion canlynol sydd yn gyfrifoldeb i’r
Is-Bwyllgor o'r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol. ·
Penderfynu ar gais am
drwydded gyrrwr hacni/hurio preifat pan fydd adroddiad o'r Biwro Cofnodion
Troseddol yn dangos collfarn neu rybudd heddlu,
a phan fydd y cais yn groes i bolisi’r Awdurdod. ·
Penderfynu ar gais am
drwydded cerbyd hacni/hurio preifat pan na fydd y cerbyd yn cydymffurfio â
pholisi'r awdurdod. ·
Penderfynu ar gais am
drwydded gweithredwr hurio preifat pan fydd adroddiad o'r Gwasanaeth Datgelu a
Gwahardd yn dangos collfarn neu rybudd heddlu , a phan fydd y cais yn groes i
bolisi’r Awdurdod. ·
Y drefn i sicrhau fod y
penderfyniad wedi ei ddirprwyo i swyddog mewn amgylchiadau lle nad yw hanes
troseddol yr unigolyn, neu unrhyw fater i’w ystyried, yn groes i bolisi. ·
Bod gan y Pennaeth
ddisgresiwn o dan y Cynllun Dirprwyo i gyfeirio unrhyw gais am wrandawiad Is
Bwyllgor lle mae amgylchiadau yn cyfiawnhau gwneud hynny: ni fydd y newidiadau
yn effeithio ar yr hawl hynny. Cyflwyno’r diwygiadau i’r Swyddog Monitro fel y gall eu
cynnwys fel rhan o adroddiad ‘Adolygu’r Cyfansoddiad’ fydd yn cael ei gyflwyno
i’r Cyngor Llawn eu cymeradwyo yn derfynnol. |