Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am 2015/16 Cofnod: Penderfynwyd
ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Gadeirydd am y cyfnod 2015 - 2016 |
|
IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd am 2015/16 Cofnod: Penderfynwyd
ethol y Cynghorydd Tudor
Owen yn Is-Gadeirydd am y cyfnod 2015 - 2016 |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Croesawyd
pawb i’r Pwyllgor gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Eryl Jones- Williams.
Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cynghorwyr Eddie Dogan, Llywarch Bowen Jones ac
Ann Williams. Croesawyd
Gareth Jones, Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd i’r Pwyllgor. Nodwyd bod Gareth Jones
wedi derbyn cyfrifoldeb dros dro dros yr
adran Gwarchod y Cyhoedd yn sgil
ymddeoliad Mr John Reynolds, Uwch
Reolwr Gwarchod y Cyhoedd . Anfonwyd neges a ran y pwyllgor i ddiolch i
Mr John Reynolds am ei wasanaeth
a’i gefnogaeth dros y blynyddoedd i’r Pwyllgorau Trwyddedu. Croesawyd
pawb i’r Pwyllgor gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Eryl Jones- Williams.
Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cynghorwyr Eddie Dogan, Llywarch Bowen Jones ac
Ann Williams. Croesawyd
Gareth Jones, Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd i’r Pwyllgor. Nodwyd bod Gareth Jones
wedi derbyn cyfrifoldeb dros dro dros yr
adran Gwarchod y Cyhoedd yn sgil
ymddeoliad Mr John Reynolds, Uwch
Reolwr Gwarchod y Cyhoedd . Anfonwyd neges a ran y pwyllgor i ddiolch i
Mr John Reynolds am ei wasanaeth
a’i gefnogaeth dros y blynyddoedd i’r Pwyllgorau Trwyddedu. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatgan o fuddiant personol. Cofnod: Ni
dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim
i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2014 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
a gynhaliwyd ar 9fed o Fawrth 2015 fel rhai cywir. |
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol – a) 08.12.2014 b) 17.12.2014 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd,
er gwybodaeth, gofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 09.02.2015 a 12.05.
2015. |
|
DIWYGIO DEDDF LLYWODRAETH LEOL (DARPARIAETHAU AMRYWIOL) 1976: DEDDF DADREOLI 2015 Cyflwyno adroddiad Pennaeth yr Adran Rheoleiddio er gwybodaeth / trafodaeth Cofnod: Cyflwynwyd
er gwybodaeth adroddiad Pennaeth yr Adran Rheoleiddio
i godi ymwybyddiaeth
yr Aelodau i newidiadau o fewn Diwygio
Deddf Llywodraeth Leol (darpariaethau amrywiol) 1976: Deddf Dadreoli 2015. Nodwyd bod y Ddeddf Dadreoli 2015 wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol ar 26 Mawrth 2015 fydd o ganlyniad yn darparu
ar gyfer tynnu neu leihau
baich ar fusnesau, unigolion, cyrff sector cyhoeddus ac unigolion. Amlygwyd bod y Ddeddf Dadreoli 2015 yn ymdrin ag amrediad
eang o ‘fesurau sy'n effeithio ar fusnes: mannau
penodol’ sy’n cynnwys rhannau ynghylch Tacsis a Hurio Preifat, sydd drwy hynny
yn effeithio ar Ddeddf Llywodraeth
Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. Tynnwyd
sylw at y prif fesurau fydd yn
effeithio ar ddarpariaethau Tacsis a Hurio Preifat Deddf
Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 sef: ·
A10 – Tacsis
a cherbydau hurio preifat: hyd trwyddedau ·
A11 – Cerbydau
hurio preifat: is-gontractio Ategwyd
y bydd y newidiadau yn dod i rym 1.10.2015 ac yn debygol o greu effaith
sylweddol ar drefniadau’r adran. Yn ychwanegol bydd y newid i hyd y drwydded yn
effeithio ar y ffi a osodir ar gyfer y trwyddedau hyn. Bydd rhaid i’r ffioedd a
godir fod wedi ei sefydlu ar gyfer tair blynedd, yn
ffioedd rhesymol gyda'r prif fwriad o adennill costau rhedeg a gorfodi pob cynllun trwyddedu. Amlygwyd
bod gofyn i’r Cyngor ail-gyfrifo’r ffioedd am drwydded gyrrwr tair blynedd a
thrwydded gweithredwr hurio preifat pum mlynedd. Gall y Cyngor ddiwygio ffi
trwydded gyrrwr heb ymgynghori cyhoeddus; fodd bynnag, mae gosod ffi trwydded
gweithredwyr hurio preifat yn destun trefn rhybudd cyhoeddus. Eisoes
mae trafodaethau gyda’r Adran Cyllid wedi dechrau i ail-gyfrifo’r strwythur
ffioedd. Y bwriad yw cyflwyno y strwythur ffioedd newydd sydd yn cael ei
gynnig, i gyfarfod arbennig o’r Pwyllgor hwn yn ystod yr wythnosau sydd i ddod.
Os caiff ei gymeradwyo, bydd y strwythur ffioedd newydd ynghylch trwyddedau
gweithredwyr hurio preifat yn destun trefn rhybudd cyhoeddus. Wedi cwblhau’r
ymgynghoriad cyhoeddus, gellid cymeradwyo’r strwythur ffioedd yn ffurfiol gan y
Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Medi 2015, i’w weithredu ar 1 Hydref 2015. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad |
|
Cyflwyno adroddiad Pennaeth yr Adran Rheoleiddio er penderfyniad Cofnod: Cyflwynwyd er penderfyniad adroddiad
Pennaeth yr Adran Rheoleiddio. Nodwyd bod ymgeiswyr am ‘Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni/Hurio Preifat Gyfun’ wedi’u heithrio o ddarpariaethau
Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 ac o Orchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974
(Eithriadau) (Diwygiadau) 2002. Mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu POB euogfarn,
rhybudd a chosb benodedig. Yn unol ag
a46 Deddf Cymalau Heddlu’r Dref ac a51 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau
Amrywiol) 1976 ni fydd y Cyngor yn cyhoeddi ‘Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat’ gyfun oni bai ei fod yn fodlon bod
yr ymgeisydd yn ‘berson addas a phriodol’ i ddal trwydded. Er hynny, ym mholisi
cyfredol y Cyngor nid yw yn amlygu yn glir yn y nodiadau sut i ymgeisio am
ddatgeliad. Yn
ychwanegol, cyfeiriwyd at Ddeddf yr Heddlu 1997, sydd yn nodi bod RHAID i’r
dystysgrif cofnod troseddol uwch, wrth ystyried addasrwydd yr ymgeisydd i gael
neu ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni neu drwydded
gyrrwr hurio preifat, hefyd gynnwys gwybodaeth addasrwydd h.y. gwiriad rhestr
gwahardd, yn ymwneud â phlant ac oedolion.
Nid
yw’r ddogfen polisi presennol yn cyfeirio at dderbyn tystysgrifau lefel Uwch
DBS a gyhoeddwyd yn flaenorol ac nid yw’n rhoi manylion ychwaith am ba hyd yr
ystyrir bod y dystysgrif lefel Uwch DBS yn ddilys. O ystyried y gofynion cyfreithiol, gall yr
arferiad o dderbyn tystysgrifau lefel uwch DBS a gyhoeddwyd yn flaenorol barhau
AR YR AMOD bod y dystysgrif a gyhoeddwyd yn flaenorol yn Dystysgrif Lefel Uwch
a'i bod yn cynnwys y gwiriad rhestr gwahardd plant a'r gwiriad rhestr gwahardd
oedolion. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad yn unol ar argymhellion gan bwysleisio'r angen i sicrhau y
bydd y rhestr gwahardd yn cael ei wirio. |
|
Cyflwyno adroddiad Pennaeth yr Adran Rheoleiddio er penderfyniad Cofnod: Cyflwynwyd
er penderfyniad adroddiad Pennaeth yr Adran Rheoleiddio gan dynnu sylw'r
Aelodau at gefndir yr adroddiad. Nodwyd yng nghyfarfod 17 Medi 2012,
penderfynodd y Pwyllgor ddirprwyo pwerau i Bennaeth yr Adran Rheoleiddio, mewn
ymgynghoriad gyda Chadeirydd ac Is-gadeirydd yr Is-bwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol, i gymeradwyo penderfyniadau trwyddedu cerbydau tacsi ar gyfer
cerbydau nad ydynt yn cydymffurfio â pholisi’r awdurdod. Ar 8 Rhagfyr 2014, penderfynodd y Pwyllgor
y byddai aelod ychwanegol, sef y Cynghorydd Peter Read, yn cael ei gynnwys ar y
‘panel penderfynu’ er mwyn sicrhau cynrychiolaeth tair ardal (Arfon, Meirion,
Dwyfor). Yn
ystod y cyfnod rhwng 17 Medi 2012 a 30 Ebrill 2015, adroddwyd bod cyfanswm o 73 o drwyddedau wedi'u rhoi ar
gyfer cerbydau sy'n groes i
bolisi cyfredol Cyngor Gwynedd ar Gerbydau Hacni. Nodwyd bod nifer y ceisiadau i drwyddedu
cerbydau nad ydynt yn cydymffurfio
â’r polisi wedi cynyddu’n sylweddol ers gwnaed
y penderfyniad i ddirprwyo penderfyniadau trwyddedu i’r Pennaeth
Rheoleiddio mewn ymgynghoriad gyda’r ‘panel penderfynu’. Cydnabuwyd
bod y broses ymgynghori yn un eithaf dwys gan fod nifer o ymgeiswyr yn awyddus
i dderbyn penderfyniad ar eu cais cyn gynted â phosib. Nodwyd bod cwynion
wedi’u gwneud yn ddiweddar i’r Cyngor ynghylch yr oedi a’r ffordd y mae
ceisiadau i drwyddedu cerbydau nad ydynt yn cydymffurfio â’r
polisi yn cael eu prosesu. Yng ngoleuni’r cwynion hyn, penderfynodd y Pennaeth
Rheoleiddio adolygu’r sefyllfa a chynnal trafodaethau gyda’r Adran Gyfreithiol
i ofyn cyngor ynghylch y trefniant presennol o wneud penderfyniadau. Amlygwyd
nad oedd dim newid i’r broses, ond bod angen eglurder ynglŷn â’r cyngor sydd yn cael ei gynnig i ymgeiswyr wrth wneud
ymholiadau cychwynnol i gais. Ategwyd y bydd rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cais
ffurfiol. Nodwyd bod adolygu’r broses wedi bod yn ddefnyddiol ac o ganlyniad,
disgwyliadau’r ymgeiswyr o’r sefyllfa yn cael ei reoli yn effeithiol. Mewn
ymateb gwnaed sylw bod yr oediad i benderfyniad fel arfer o ganlyniad i resymau
penodol ac mai’r prif nôd yw gwneud y penderfyniad
cywir i sicrhau diogelwch y cyhoedd. Eglurodd
y cyfreithiwr, mewn perthynas â pharagraff 3.4 o’r adroddiad, nad methiant aelodau’r
“Panel Penderfynu” i ddod i benderfyniad
ar gais am gyngor ar gerbyd
arbennig fyddai yn eu heithrio
rhag pleidleisio ar gais am drwydded
mewn perthynas â’r cerbyd hwnnw
mewn gwrandawiad o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol, ond yn hytrach
y ffaith eu bod wedi ymdrin â’r
cais am gyngor yn y lle cyntaf.
Cadarnhaodd
yr Uwch Reolwr Cynllunio a’r Amgylchedd, a’r Cyfreithiwr, y newidiadau canlynol
i’r adroddiad: dileu paragraff 4.5; dileu paragraff 5.1 a mewnosod paragraff
5.1 newydd fel a ganlyn “Nodir yr adroddiad.”; dileu paragraff 5.2 a mewnosod
paragraff 5.2 newydd fel a ganlyn “Nodir y darperir cyngor cyn gwneud cais gan
yr Uned Drwyddedu, ar sail ddiduedd, ar ganlyniad tebygol cais, cyn cyflwyno
cais ffurfiol.” PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad yn unol
â’r argymhellion diwygiedig. Dechreuodd
y cyfarfod am 11.00am a daeth
i ben am 11.55am |