Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2016/17 Cofnod: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Tudor Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn
am y cyfnod 2016 – 2017 Diolchwyd i’r Cynghorydd Eryl Jones Williams
am ei waith fel Cadeirydd y Pwyllgor 2014 - 2016 |
|
ETHOL IS GADEIRYDD I ethol Is Gadeirydd ar gyfer 2016/17 Cofnod: Penderfynwyd ethol
y Cynghorydd Annwen Hughes yn
Is Gadeirydd y Pwyllgor am y cyfnod
2016 - 2017 |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr
Peter Read ac Wyn Williams a Geraint Brython (Cyfreithiwr) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 7.03.16 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r
pwyllgor a gynhaliwyd ar 7fed o Fawrth 2016 fel rhai cywir yn ddarostyngedig ar nodi bod y Cynghorydd Angela Russell yn bresennol |
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL PDF 194 KB Cyflwyno,
er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgorau Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar y dydddiadau canlynol – i.
07.3.16 ii.
05.4.16 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd,
er gwybodaeth, gofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgorau Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd 07.03.16 a 05.04.16 |
|
FFORDD GWYNEDD - YMARFER TRWYDDEDU Diweddaraid
ar lafar gan y Rheolwr Trwyddedu Cofnod: Cafwyd diweddariad
ar lafar gan yr Uwch
Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd
ar ymarferiadau diweddar gan y gwasanaeth i adolygu prosesau gwaith Trwyddedu er mwyn
sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i’r
hyn sydd yn cael ei
weithredu. Nodwyd bod y
broses yn rhoi cyfle i bawb gael mewnbwn i’r adolygiad gwasanaeth. Cadarnhaodd
fod yr adolygiad eisoes wedi cynnwys edrych ar
bwrpas y gwasanaeth,mesuryddion perfformiad,
canfod barn cwsmeriaid, ac adolygu prosesau gwaith cyfredol.. Adroddwyd bod yr
ymarferiad, er yn un dwys yn cael
mewnbwn cadarnhaol gan holl staff yr Uned Trwyddedu. Sylwadau
yn codi o’r
drafodaeth; ·
Angen sicrhau cysondeb ffioedd tacsi - cais i gynnwys hyn yn y polisi
diwygiedig ·
Awgrym i ystyried hyfforddiant arbenigol yng
nghyd-destun diogelwch plant, i yrwyr tacsi ·
Awgrym i gydweithio yn agosach gyda’r cwmnïau
contractio ·
Awgrym i ystyried bod gyrwyr tacsi i gael
hyfforddiant cymorth cyntaf. Er nad yn ofyn statudol, byddai i’w weld fel
ymarfer da - cais i’w gynnwys yn yr adolygiad polisi |