skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd John Brynmor Hughes a Dewi Wyn Roberts,

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Cyfeiriodd y Cynghorydd Eryl Jones Williams at lythyr cyfrinachol yr oedd wedi ei dderbyn oedd yn cynnwys cwynion am yr Adran Trwyddedu gan ymgeisydd oedd wedi bod yn hwyr yn cyflwyno cais. Cyflwynwyd y llythyr i’r Adran Trwyddedu er mwyn cael iddynt ymateb i’r llythyr yn swyddogol drwy’r drefn cwynion. Nododd y Rheolwr Trwyddedu bod yr Adran eisoes wedi cysylltu ar lafar gyda'r ymgeisydd ac wedi egluro'r rhesymau dros wrthod ei gais

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 213 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 19.6.17 fel rhai cywir  

Cofnod:

          Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 o Fehefin 2017 fel rhai cywir.

 

5.

COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL pdf eicon PDF 218 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar y dyddiad canlynol

 

a) 11.7.17

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd 11.7.17

 

6.

ADOLYGU POLISÏAU TACSI CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 243 KB

I ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd oedd yn gofyn i’r Pwyllgor am eu cefnogaeth i dderbyn cyfeiriad cyffredinol yr adolygiad cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus. Y bwriad yw creu Polisi Tacsi Cyngor Gwynedd unedig yn hytrach na thair dogfen polisi ar wahân. Bydd y polisi yn cynnwys Meini Prawf Addasrwydd ar gyfer Gyrwyr a Gweithredwyr’, canllawiau ar gyfer penderfynu os yw person ynaddas a phriodol’ i fod yn yrrwr neu weithredwr ac amodau trwydded a safon cerbydau.

 

Tynnwyd sylw at y newidiadau arfaethedig lefel uchel i’r polisïau ac amodau gyrrwr a cherbydau ynghyd a’r 5 cynnig lefel uchel sydd yn llywio’r polisi newydd, yn yr adroddiad.

 

Ategwyd y byddai newid y polisïau Trwyddedu presennol yn darparu gwasanaeth cyson a theg ar draws y Sir ac yn cwrdd ag anghenion y diwydiant a’r defnyddwyr ac adlewyrchu egwyddorion Ffordd Gwynedd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ystyried os oedd angen cyfarch unrhyw faterion arall cyn dechrau ar yr ymgynghoriad ffurfiol

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cynigiwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Awgrym i ystyried yr angen i bob gyrrwr tacsi fod a chymhwyster safonol ar gyfer Cymorth Cyntaf

·         Angen sicrhau cyflenwad digonol o gerbydau hygyrch i gadair olwynystyried gweledigaeth tymor hir fel bod pob cerbyd gyda lle i gadair olwyn

·         Gosod targed uwch i Wynedd ar gyfer canran cerbydau hygyrch i gadair olwyn

Yng nghyd-destun amodau sydd yn berthnasol i limwsinau hir, amlygwyd yr angen i ail eirio'r amodau gan sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda’r Ddeddf Traffig Ffyrdd

 

Mewn ymateb i’r sylwadau , nododd y  Rheolwr Trwyddedu bod cyfle i ystyried cynnwys cymorth cyntaf sylfaenol yn y pecyn cymhwyster. Nodwyd y byddai hyn yn ymarfer da er yr angen i sicrhau nad oes disgwyliadau gormodol ar y gyrwyr

 

Amlygwyd bod yr Uned Trwyddedu wedi cynnal hyfforddiant diweddar i yrwyr ar ddiogelu plant ac oedolion bregus. Nodwyd bod rhaid i bob gyrrwr fynychu'r hyfforddiant er mwyn cydymffurfio a’r polisi.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyflenwad digonol o gerbydau hygyrch i gadair olwyn, mynegwyd yr angen i ymgynghori gyda’r diwydiant gan y byddai hyn yn gosod disgwyliadau uchel arnynt.  Byddai angen  sicrhau cydweithrediad a chydymffurfiaeth y diwydiant i symud ymlaen. Byddai angen i unrhyw newidiadau tymor hir sylweddol gael eu cyflwyno gam wrth gam.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, ac i’r Adran Trwyddedu ystyried a gweithredu ar y sylwadau cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.