Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Croesawyd
pawb i’r Pwyllgor gan y Cadeirydd, y Cynghorydd
Eryl Jones- Williams. Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr, Craig ab Iago, Llywarch
Bowen Jones, Louise Hughes, Dilwyn Lloyd a Peter
Read. Mynegwyd diolch i’r Cynghorydd Eddie Dogan am ei wasanaeth i’r Pwyllgor Trwyddedu dros y
blynyddoedd - nodwyd bod y Cynghorydd yn sefyll i lawr fel Cynghorydd oherwydd
ei iechyd. Amlygwyd pryder yn y niferoedd o Aelodau a oedd yn
bresennol ac at y niferoedd o seddi gwag oedd ar y Pwyllgor. Cytunwyd tynnu
sylw’r Swyddog Monitro at y mater |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatgan o fuddiant personol. Cofnod: Ni
dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel
y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22ain Fehefin 2015 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 22ain o Fehefin 2015 fel rhai cywir. |
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL PDF 192 KB Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion cyfarfodydd o’r
Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar y dyddiad canlynol – a) 12.6.15 Cofnod: Cyflwynwyd,
er gwybodaeth, gofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a
gynhaliwyd ar 12.06.15 |
|
FFIOEDD TRWYDDEDU TACSI ARFAETHEDIG 2015 PDF 248 KB Cyflwyno adroddiad Pennaeth yr Adran Rheoleiddio i dderbyn cefnogaeth y pwyllgor ynghylch ffioedd trwyddedau tacsi o 1 Hydref 2015 Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan Pennaeth yr Adran
Rheoleiddio yn argymell y Pwyllgor i gefnogi’r bwriad
o gynyddu Ffioedd Trwyddedau Tacsi i’r lefelau a argymhellir,
er mwyn adennill
costau’n llawn, cyn i’r Pennaeth
Rheoleiddio eu hawdurdodi fel eu bod yn weithredol
o’r 1 Hydref 2015. Mae’n
ofynnol i’r Cyngor adolygu ffioedd trwyddedu tacsis (h.y. trwyddedau
cerbydau hacni, cerbydau hurio preifat, gweithredwyr hurio preifat a gyrwyr) yn rheolaidd. Mae Adran 53 a 70 o
Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 yn mynegi y gellid codi ffioedd ar
lefel ddigonol i dalu costau
rhesymol. Penderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu yma ar y 24ain o Fehefin 2013 oedd, -
Adolygu
ffioedd yn flynyddol -
Bod rhaid
i ffioedd trwyddedu tacsi gael eu cynyddu
i adennill costau’n llawn. Eleni,
mae’r Adran Trysorydd wedi cyfrifo mai y swm
y caniateir y Cyngor i adennill y cost o ddarparu’r swyddogaeth Trwyddedu tacsi ar gyfer 2015/16 yw £141,626. Yn
2014/15, incwm trwyddedu tacsi oedd
£127,848. Rhagwelir felly y bydd diffyg incwm o £13,778 ar gyfer 2015/16. Awgrymwyd, i adennill y costau’n
llawn ac i sicrhau bod yr Uned Trwyddedu
yn hunan - gynhaliol, buasai angen cynyddu’r ffioedd eleni o 10.78%. Adroddwyd
bod y ffioedd arfaethedig wedi cael eu
hymgynghori arnynt yn fewnol gyda’r
Pennaeth Cyllid, sydd yn cefnogi
cynyddu’r ffioedd er mwyn adennill
costau yn llawn. Rhoddwyd rhybudd cyhoeddus yn y wasg leol ar
20 Awst 2015 a chopi o’r rhybudd yn Siop
Gwynedd Caernarfon, Pwllheli a Dolgellau yn unol â gofynion
statudol. Bydd yr ymgynghoriad
yn dod i
ben ar 17 Medi 2015. Yn ychwanegol i’r gofynion statudol, rhoddwyd copi o’r
ymgynghoriad ar wefan y Cyngor ac fe hysbyswyd y diwydiant tacsi o’r ymgynghoriad drwy lythyr ar
14 Awst 2015. Anfonwyd cyfanswm o 505 o lythyrau ac atgoffwyd y diwydiant bod cyfle iddynt roi
sylwadau ffurfiol yn ystod y cyfnod
ymgynghoriad. Hyd at
14/09/15 roedd yr Uned Trwyddedu wedi derbyn un llythyr yn gwrthwynebu’r
ffioedd newydd. Yn
ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol; -
A fydd
diffyg costau yn batrwm
parhaol? -
A yw
niferoedd gyrwyr yn lleihau oherwydd
cynnydd mewn costau? -
Beth
yw’r gymhariaeth gyda siroedd cyfagos -
Gweithredwyr
a gyrwyr angen adennill costau, felly rhaid sicrhau tegwch -
Yn
hanesyddol, nid yw'r Cyngor wedi codi ei ffioedd yn gyson, ac felly ers 2013 y
cynnydd yn ymddangos yn uchel. Er hynny, y canrannau wedi eu cynyddu ar
raddfeydd derbyniol. -
505
o lythyrau wedi eu hanfon allan - Un gwrthwynebydd sydd wedi ymateb i’r
adolygiad - hyn yn rhoi darlun bod y cwmnïoedd yn derbyn y cynnydd. Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y Pennaeth Rheoleiddio mai'r bwriad yw i’r ffi gyrraedd y gost o ddarparu gwasanaeth gyda’r gobaith na fydd diffyg yn y pendraw. Os bydd yr incwm yn uchafu’r costau, bydd rhaid ystyried yr elw yn erbyn costau'r flwyddyn ganlynol. Bydd y ffioedd yn cael eu hadolygu yn flynyddol - anodd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
ADOLYGU POLISÏAU CYNGOR GWYNEDD PDF 289 KB - Polisi Trwyddedu Gyrru Cerbyd Hacni/Hurio Preifat Gyfunol - Polisi Trwyddedu Cerbydau Hacni/Hurio Preifat - Polisi Trwyddedu Gweithredwyr Hurio Preifat Cyflwyno adroddiad Pennaeth yr Adran Rheoleiddio
i dderbyn cefnogaeth y pwyllgor ar gyfeiriad
lefel uchel y newidiadau arfaethedig parthed i bolisïau trwyddedu tacsi Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: ·
Polisi Trwyddedu Gyrru Cerbyd Hacni/Hurio Preifat Gyfunol ·
Polisi Trwyddedu Cerbydau Hacni/Hurio Preifat ·
Polisi Trwyddedu Gweithredwyr Hurio Preifat Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr Adran
Rheoleiddio yn gofyn am gefnogaeth y pwyllgor i adolygu’r polisïau trwyddedu a chreu polisi unedig yn hwyrach na
thri polisi / dogfen arwahan.
Nodwyd hefyd bod y Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 22 Mehefin 2015 wedi penderfynu
bod angen diweddaru ac adolygu'r polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud a
Thrwyddedau Tacsi yn dilyn cynnydd yn y nifer o geisiadau i drwyddedu cerbydau
sydd ddim yn cwrdd â’r polisi ac yn dilyn y Ddeddf
Dadreoleiddio 2015 a’r mesurau sy’n cael effaith ar y Ddeddf Llywodraeth Leol
(Darpariaethau Amrywiol) 1976. O safbwynt
polisi unedig, nodwyd bod Cymdeithas Llywodraeth Leol: (cyf ‘Taxi and PHV
Licensing - Councillor’s Handbook’ dyddiedig Mawrth 2015) yn annog yn gryf
i awdurdodau Trwyddedu greu polisi unedig sy’n
dod a’r holl
bolisïau a’u gweithdrefnau i un lle. Bydd creu
polisi unedig sydd yn cael
ei adolygu’n rheolaidd yn rhoi
eglurder i yrwyr a gweithredwyr, yn ogystal â chryfhau
sefyllfa’r Cyngor petai her yn erbyn
penderfyniad yn y llys. Tynnwyd sylw'r Aelodau at y newidiadau
arfaethedig lefel uchel y buasai angen eu hystyried yng nghyd -destun gyrwyr,
cerbydau a gweithredwyr gan roi sylw penodol i ‘hawliau taid’ , ‘manyldeb
oedran cerbyd’ a ‘mynediad cadair olwyn’. O dan
‘hawliau taid’ cynigiwyd: Cynnig 1: Bod statws ‘Hawliau
Taid’ perchnogion cerbydau hacni Arfon yn cael
ei dynnu o’r polisi a bod holl berchnogion cerbydau hacni yn ddarostyngedig i’r un amodau a gofynion cerbyd. Cynigir hefyd bod y gofynion ar gyfer holl
gerbydau ym mhob parth yn
cael eu huno
er mwyn creu
polisi mwy tryloyw a perthnasol i holl berchnogion
ar draws y sir. O dan
‘manyldeb oedran cerbyd’ cynigiwyd, Cynnig 2: Ym mhob parth, rhaid cais
i drwyddedu cerbyd am y tro cyntaf fel Cerbyd
Hacni neu Gerbyd Hurio Preifat
fod mewn perthynas â cherbyd sy’n llai na
6 mlwydd oed ar y dyddiad pan fydd y cais cyflawn
wedi ei dderbyn
gan yr Awdurdod
Trwyddedu. Cynnig 3: Ym mhob parth, rhaid cais
i adnewyddu trwydded Cerbyd Hacni neu Gerbyd
Hurio Preifat fod mewn perthynas
â cherbyd sy’n llai na 12 mlwydd
oed ar y dyddiad pan ddaw’r drwydded gyfredol i ben. Cynnig 4: Bydd Cyngor
Gwynedd yn caniatáu adnewyddu trwydded Cerbyd Hacni neu
Gerbyd Hurio Preifat y tu hwnt
i’r terfyn oedran uchaf o 12 mlynedd os gellir
dangos bod y cerbyd mewn ‘cyflwr eithriadol’. O dan
‘mynediad cadair olwyn’ cynigiwyd: Cynnig 5: Bydd yr holl berchnogion yn cael eu hannog i drwyddedu cymaint o gerbydau sy’n hygyrch i gadair olwyn y maent yn ystyried yn angenrheidiol. Fodd bynnag, bydd Cyngor Gwynedd yn gosod gofyniad bod rhaid oeliaf 1 cerbyd hacni mewn fflyd o 7 cerbyd hacni fod yn gerbyd sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn. Felly os yw ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |