skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Croesawyd pawb i’r Pwyllgor gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Eryl Jones- Williams. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr, Craig ab Iago, Annwen Hughes, Louise Hughes, Dilwyn Lloyd a Peter Read.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatgan o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 253 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod diwethaf y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Medi 2015  fel rhai cywir.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 14eg o Fedi  2015 fel rhai cywir.

5.

COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL pdf eicon PDF 192 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar y dyddiad canlynol

 

 

a)    2.09.15

b)    3.11.15

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgorau Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 02.09.15 a 03.11.15.

6.

ADOLYGU POLISÏAU CYNGOR GWYNEDD

Diweddariad ar lafar gan y Rheolwr Trwyddedu

Cofnod:

- Polisi Trwyddedu Gyrru Cerbyd Hacni/Hurio Preifat Gyfunol

- Polisi Trwyddedu Cerbydau Hacni/Hurio Preifat

- Polisi Trwyddedu Gweithredwyr Hurio Preifat

 

Cafwyd diweddariad ar  lafar gan y Rheolwr Trwyddedu ar y gwaith o adolygu’r polisïau  trwyddedu i greu polisi unedig. Atgoffwyd yr aelodau, eu bod yn y Pwyllgor a gynhaliwyd Medi 14eg 2015 wedi

 

-           awdurdodi’r Pennaeth Rheoleiddio i gychwyn adolygiad o’r polisïau trwydded mewn perthynas â gweithredwyr, cerbydau a gyrwyr hacni a hurio preifat.

 

-           cefnogi cyfeiriad cyffredinol Cynigion 1 i 5 fel man cychwyn ar gyfer yr adolygiad.

 

Nodwyd bod Y Cabinet wedi cytuno gyda’r egwyddorion ac ar yr angen i gysoni'r polisïau cyfredol. Cadarnhawyd bod yr Uned Trwyddedu wedi dechrau adolygu’r polisïau a bod y gwaith ymchwil eisoes wedi amlygu materion oedd angen sylw.

 

Un o’r materion oedd bodolaeth  ‘is-ddeddfau’. Nodwyd bod y polisïau presennol wedi eu derbyn yn 2010, er mai yn 2003 y cawsant eu hadolygu yn eu cyfanrwydd. Yn fersiwn 2003 mae amodau  yn cyfeirio at is-ddeddfau, ond yn addasiad 2010 nid oes cyfeiriad at yr is-ddeddfau hyn. Drwy gydweithio gyda’r Uned Gyfreithiol, darganfuwyd bod yr is-ddeddfau yn parhau mewn bodolaeth ac felly rhaid  sicrhau bod rhain yn cyd fynd â’r polisïau yn drefnus a chywir. Atgoffwyd yr aelodau bod rhaid cael is-ddeddfau er mwyn sicrhau amodau i yrwyr  cerbydau hacni.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth,

-           sicrhau eglurder a rheolaeth yng nghyd destun is-ddeddfau

-           cytuno bod angen tacluso’r polisïau i leihau dryswch

-           edrych ar yr hyn mae Cynghorau eraill yn ei weithredu.

 

Gwnaed sylw ar y defnydd o ‘waledi oren’, lle awgrymwyd cynnwyshyfforddiant ar gefnogaeth i gwsmeriaid bregus / anabl / dall  fel amod gyrrwr tacsi.  Mewn ymateb, nodwyd bod rhai Cynghorau eisoes  yn mabwysiadu’r hyfforddiant fel amod a bod modd i Wynedd ystyried hyn fel rhan o’r prawf gwybodaeth y mae’n rhaid i bob gyrrwr ei gwblhau.

 

Mewn sylw at newidiadau posib i’r Mesur Mewnfudo (Immigration Bill), lle bydd rhaid i ymgeisydd, wrth wneud cais am drwydded gyrrwr tacsi, dystiolaethu ei hawl i weithio yn y wlad a dim ‘trosedd mewnfudo’, nodwyd y bydd angen addasu’r polisïau yn amodol ar benderfyniad Tŷ’r Cyffredin.

 

PENDERFYNWYD

 

Cefnogi'r Uned Drwyddedu i barhau ar eu hadolygiad o’r polisïau trwyddedu gan gydweithio gyda’r Uned Gyfreithiol i sicrhau eglurder a rheolaeth dros yr is ddeddfau.

 

Bod angen mabwysiaduhyfforddiant ar gefnogaeth i gwsmeriaid bregus / anabl / dallfel amod gyrrwr tacsi ac fel rhan o’r prawf gwybodaeth sydd angen ei gwblhau.

 

Diolchwyd i’r Uned Trwyddedu am eu gwaith.