skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr, Annwen Daniels, Dilwyn Lloyd, Peter Read a John Wyn Williams a Gareth Jones (Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatgan o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Mewn ymateb i bryder ynglŷn â hyfforddiant priodol i yrwyr tacsi nodwyd bod Grŵp Gogledd Cymru wedi cydweithio gyda Barnardos a Heddlu Gogledd Cymru i lunio rhaglen hyfforddiant mewn ymateb i Adroddiad Rotherham (cyd-destun Cam-ymddwyn yn Rhywiol gyda Phlant).

 

Adroddwyd bod Conwy eisoes yn gosod amod ar drwyddedau gyrru i’r gyrwr fod â chymhwyster gyrru tacsi (BTEC Lefel 2). Amlygwyd  bod y cymhwyster yma yn cynnwys elfennau megis iechyd a diogelwch, gofal cwsmer, cludo a llwytho parseli a chludo plant ac oedolion bregus, a bod dwy flynedd yn cael ei osod fel cyfnod cwblhau. Nodwyd bod Gwynedd wedi adnabod yr angen yma ac awgrymwyd, wrth adolygu'r polisïau y bydd hyn yn cael ei ystyried.

 

Croesawyd cyfeiriad yr Uned Trwyddedu i’r maes hyfforddiant i yrwyr tacsi a gwnaed cais i’r uned rannu gwybodaeth am gynnwys yr hyfforddiant gyda’r aelodau.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 80 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod diwethaf y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr  2015 fel rhai cywir.

Cofnod:

          Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 1af o Ragfyr  2015 fel rhai cywir.

 

          Mewn ymateb i’r cais a wnaed am wybodaeth o ddefnydd  waledi oren ar gludiant cyhoeddus lle defnyddir cardiau pwrpasol i gyfathrebu gyda darparwyr cludiant, adroddwyd bod Grŵp Gogledd Cymru wedi cynnig darpariaeth debyg ar gyfer taith mewn tacsi.

 

          Derbyniwyd bod hyn yn ymarfer da.

 

 

 

 

5.

COFNODION IS BWYLLGORAU TRWYDDEDU CYFFREDINOL pdf eicon PDF 197 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar y dyddiad canlynol

 

12.11.15

 

Cofnod:

          Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd 12.11.15

 

 

6.

ADOLYGU POLISIAU TACSIS CYNGOR GWYNEDD

Diweddariad ar lafar gan y Rheolwr Trwyddedu

Cofnod:

- Polisi Trwyddedu Gyrru Cerbyd Hacni/Hurio Preifat Gyfunol

- Polisi Trwyddedu Cerbydau Hacni/Hurio Preifat

- Polisi Trwyddedu Gweithredwyr Hurio Preifat

 

Cafwyd diweddariad ar  lafar gan y Rheolwr Trwyddedu ar y gwaith o adolygu’r polisïau  trwyddedu i greu polisi unedig. Adroddwyd, oherwydd ymarferiad Ffordd Gwynedd gan y gwasanaeth i adolygu eu prosesau gwaith er mwyn sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i’r hyn sydd yn cael ei weithredu, bod y gwaith adolygu wedi llithro ychydig a bod bwriad parhau gyda’r adolygiad pan fydd yr ymarferiad wedi ei gwblhau.

 

Er hynny, manteisiwyd ar y cyfle i adrodd y byddai un newid tebygol yn cael ei gynnwys yn yr adolygiad sef y gofyn am brawf lleol i gerbyd. Nodwyd y byddai’r prawf yma yn ychwanegol i’r un syml sydd yn cael ei weithredu ar hyn o bryd - yn gosod canllawiau manwl a phenodol ar gyflwr y cerbyd (tu mewn a thu allan) i sicrhau ei fod yn ddiogel a derbyniol i’r llygad. Adroddwyd bod VOSA (Vehicle and Operator Services Agency)  wedi awgrymu i bob Cyngor weithredu y prawf yma ac amlygwyd bod rhai Cynghorau eisoes wedi ei fabwysiadau. O ganlyniad gellid ystyried  dileu ‘rhwystredigaethau oedran cerbyd’ gan ystyried cyflwr y car yn unig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn nodwyd y byddai ymarferiad Ffordd Gwynedd yn adnabod rhwystrau o fewn y gwasanaeth cyfredol a’r angen i ymateb iddynt yn effeithiol.

 


Diolchwyd i’r Uned Trwyddedu am eu gwaith.