skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Eryl Jones-Williams, Sïon Jones a Peter Read

 

Amlygwyd pryder ynglŷn â phresenoldeb rhai Aelodau. Nodwyd bod y mater wedi cael ei gyfeirio at y Swyddog Monitro a’r Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

          Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 66 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 10 Medi 2018 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 10 o Fedi 2018 fel rhai cywir

5.

COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL pdf eicon PDF 74 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinnol a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol:

 

a) 10.09.2018

b) 17.10.2018

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod o’r Is-bwyllgorau Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd 10.09.2018 a 17.10.2018

 

6.

ADOLYGU TREFNIADAU PROFION MECANYDDOL CERBYDAU TACSI pdf eicon PDF 53 KB

I ystyried adroddiad Pennaeth yr Adran yr Amgylchedd

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Adran yr Amgylchedd yn argymell trefniadau newydd ar gyfer profi cerbydau hacni a hurio preifat dros 10 oed. Amlygwyd bod hi’n ofynnol i bob cerbyd hacni a hurio preifat dderbyn prawf MOT safonol yn flynyddol gyda gorfodaeth ychwanegol am ddau brawf mecanyddol unwaith mae cerbyd yn cyrraedd 10 oed. Ategwyd bod y profion yn allweddol i sicrhau diogelwch y cerbydau tacsi. Nodwyd bod y gofynion wedi eu hymgorffori fel amodau trwydded ac wedi eu mabwysiadu ym mholisi trwyddedu cerbydau tacsi’r Cyngor. Mae’r gofynion hefyd yn seiliedig ar y cyngor a geir yng nghanllawiau ymarfer da’r Weinyddiaeth Drafnidiaeth.

 

Nodwyd bod nifer o Gynghorau, oherwydd pryderon dros reoli safon a chysondeb profion mecanyddol, yn awdurdodi modurdai sydd yn gwasanaethu fflyd cerbydau’r Awdurdod i wneud profion mecanyddol ar gerbydau trwyddedig. Ategwyd y byddai yn fanteisiol oherwydd bod posib cadw rheolaeth dynn ar y safonau a bod cyfle hefyd i greu incwm i’r Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â nifer profion mecanyddol sydd eu hangen dros y 12 mis nesaf, nodwyd bod cynnal dau brawf ar geir dros 10 oed wedi cael eu cynnwys yn y niferoedd o fewn yr adroddiad. Ategwyd bod modurdai'r Cyngor yn awyddus iawn i fod yn rhan o’r drefn ac er mwyn osgoi gormod o bwysau arnynt cynigir bod tri modurdy arall yn cael eu hawdurdodi fel rhai ‘wrth gefn’ yn ystod y cyfnodau prysur. Nodwyd bod trafodaethau cychwynnol wedi eu cynnal gyda’r Post Brenhinol i ddefnyddio eu modurdy ym Mangor fel un o’r modurdai wrth gefn gan fod y Post Brenhinol yn cadw at safonau cenedlaethol i brofi eu fflyd. Nid oedd y ddau fodurdy arall wedi eu hadnabod.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gofynion yr ail brawf, mynegwyd bod y prawf yn ehangach na MOT cyffredinol ac y bydd yn cynnwys e.e., cyflwr y car, arwyddion, gwregys diogelwch a darpariaeth cymorth cyntaf. Ategwyd bod y rhestr gwirio yn un sylweddol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfnod terfynol defnydd car fel tacsi nodwyd mai 12 oed oedd y cyfnod a bod hyn yn cael ei adolygu.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â monitro safonau'r 16 modurdy (ar draws Gwynedd) sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwneud profion, nodwyd bod archwiliadau yn cael ei gynnal gan swyddog trwyddedu. Bydd pob modurdy sydd yn gymwys i gynnig MOT hefyd yn gorfod bod yn gymwys i ofynion VOSA (Vehicle and Operator Services Agency).

 

Amlygwyd pryder gan un o’r Aelodau y byddai rhai cwmnïau tacsis yn gwyro oddi ar  y drefn, ond cadarnhawyd y byddai’n parhau yn orfodol i geir hyd at 10 oed gael eu profi gan un o’r 16 modurdy awdurdodedig. Ategwyd y byddai’n orfodol i gerbydau dros 10 oed fynd at un o fodurdai'r Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr argymhelliad gan gymeradwyo trefniant newydd isod o brofi cerbydau dros 10 oed.

 

           Fod ceir dros 10 oed sydd angen dau brawf mecanyddol y flwyddyn yn        cael eu cyfeirio at fodurdai'r cyngor  yng Nghibyn, Pwllheli a           Dolgellau        i gael  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

HYSBYSU'R PWYLLGOR O'R CAMAU NESAF AR GYFER PARATOI POLISI TRWYDDEDU TACSI UNEDOL NEWYDD

Pwrpas – hysbysu’r Aelodau, ar lafar, o’r bwriad  i sefydlu grwp tasg o aelodau i edrych ar brif agweddau y Polisi Unedig Trwyddedu Tacsi drafft ; cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus – ac i sefydlu cylch gorchwyl ar gyfer y grwp.

 

Cofnod:

          Cafwyd diweddariad ar lafar bod y polisi unedol yn parhau i gael ei ddatblygu gyda’r bwriad i gyflwyno drafft ym mis Mawrth. Amlygwyd y bwriad i sefydlu grŵp tasg a gorffen i edrych ar brif agweddau’r Polisi Unedig Trwyddedu Tacsi cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Ategwyd bod bwriad hefyd i sefydlu cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp.

 

         

            DERBYNIWYD y wybodaeth