skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Eryl Jones-Williams, Sïon Jones a Jason Wayne Parry

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 71 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 10.12.18 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 10 o Ragfyr 2019 fel rhai cywir.

 

5.

COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL pdf eicon PDF 81 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinnol a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol:

 

a)         20.12.2018

b)         28.01.2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod o’r Is-bwyllgorau Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd 20.12.2018 a 28.01.2019

 

6.

UCHAFSWM PRISIAU TEITHIAU CERBYDAU TACSI HACNI pdf eicon PDF 44 KB

I ystyried adroddiad Pennaeth yr Adran Amgylchedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

           Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth yr Adran Amgylchedd yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo cynnig gan y diwydiant tacsi i adolygu’r uchaf bris y gall ei godi am deithiau mewn cerbyd hacni yn y Sir. Amlygwyd ei bod yn ofynnol i unrhyw gais am newid i’r uchaf bris gael ei gyflwyno gan y diwydiant a chadarnhawyd bod cais diweddar i adolygu’r prisiau, wedi ei gyflwyno gan Mr J Pritchard, perchennog cwmni tacsi lleol. Ategwyd nad oedd cais i adolygu’r uchaf bris wedi ei dderbyn ers 2011 a phwysleisiwyd nad oedd yr uchaf bris yn berthnasol i deithiau mewn cerbydau hurio preifat.

 

          Cyfeiriwyd at dabl yn yr adroddiad oedd yn cymharu prisiau cyfatebol am daith 2 filltir. Nodwyd bod y cynnydd arfaethedig wedi ei gyfrifo drwy ychwanegu chwyddiant ar gyfartaledd o 2.6% y flwyddyn at bris taith y filltir a bennwyd yn 2011. Awgrymwyd, o fewn y diwydiant mai prisiau’r teithiau sydd yn gyrru’r gystadleuaeth a mynegwyd mai annhebygol fyddai i bob cwmni godi eu prisiau.

 

          Diolchwyd am yr adroddiad

 

          Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chwynion prisiau cerbydau tacsi hacni, nodwyd mai ychydig iawn o gwynion sydd wedi ei derbyn gan y cyhoedd ac y byddai cwynion yn fwy tebygol o gael eu cyflwyno gan y diwydiant ei hun.

 

          Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a thystiolaeth i gefnogi’r datganiad nad oes cynnydd wedi bod mewn costau tanwydd, nodwyd bod graffiau cyfartaledd prisiau tanwydd ar draws y wlad gan yr RAC a’r AA ddim yn ymddangos llawer gwahanol ers 2011.

 

          Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol gan Aelodau unigol:

·         Bod y pris arfaethedig yn deg o gymharu, ar gyfartaledd, prisiau Siroedd eraill ar draws y Gogledd

·         Bod yr Uned Trwyddedu yn ymateb i gais gan y diwydiant i adolygu’r prisiau

·         Nad oes rheidrwydd i gwmnïau godi eu prisiau – uchafswm sydd yn cael ei osod

·         Bod ffioedd wedi codi ac felly derbyniol fyddai rhoi ystyriaeth deg i’r cynnig gan gwmni lleol i adolygu’r prisiau

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cynnig i godi’r uchaf bris fel bod modd i’r diwydiant tacsi godi am deithiau mewn cerbyd hacni yn y Sir.

 

         

 

7.

CYFLWYNO CYLCH GORCHWYL AR GYFER YSTYRIED CYNNWYS POLISI TRWYDDEDU TACSIS UNEDIG DRAFT pdf eicon PDF 79 KB

I ystyried adroddiad Pennaeth yr Adran Amgylchedd

Cofnod:

          Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth Adran yr Amgylchedd yn gwneud cais i’r Pwyllgor sefydlu grŵp tasg a gorffen o blith aelodau’r Pwyllgor i ystyried cynnwys y polisi trwyddedu unedig drafft cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus. Atgoffwyd yr aelodau o benderfyniad y Pwyllgor (11.09.19) i gymeradwyo cyfeiriad cyffredinol prif gynigion ar gyfer adolygu'r polisïau presennol mewn perthynas â thrwyddedu tacsi a chreu Polisi Trwyddedu Tacsi Unedig newydd yn dilyn cynnydd yn y nifer o geisiadau i drwyddedu cerbydau yn groes i’r polisi ac yn sgil y Ddeddf Dadreoleiddio 2015.

 

          Amlygwyd mai ystyried y polisi drafft fyddai prif nôd y grŵp tasg a gorffen. Bydd gofyn i’r grŵp gyflwyno eu sylwadau / argymhellion i’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol.

 

          Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a’r bwriad i gyflwyno’r angen i ymgeisydd am drwydded gyflwyno tystiolaeth o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, nodwyd nad oedd gofyn cyfreithiol ar gyfer yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, ond yn dilyn trafodaethau gyda’r Uned Cludiant, awgrymwyd yr angen i gael polisi yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn ei le. Cefnogwyd y bwriad a phwysleisiwyd yr angen i’r ddogfen fod ar gael yn y cerbyd. Awgrymwyd y byddai’r cwmni yswiriant yn dymuno hyn hefyd.

 

          Sylw yn codi o’r drafodaeth ddilynol gan Aelodau unigol:

·         Mai doeth fyddai ystyried cynrychiolwyr o Arfon, Dwyfor a Meirionnydd

 

          PENDEFYNWYD enwebu y Cynghorywr Annwen Hughes, Angela Russell, Peter Read, Elfed Williams ac Edgar Owen fel cynrychiolwyr i gymryd rhan yn y Grwp Tasg a Gorffen gyda’r Cynghorydd Eryl Jones Williams fel aelod wrth gefn.