Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2020/21

Penderfyniad:

 

AIL ETHOL Y CYNGHORYDD ELFED WILLIAMS YN GADEIRYDD AR GYFER 2020/21

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD AIL ETHOL Y CYNGHORYDD ELFED WILLIAMS YN GADEIRYDD AR GYFER 2020/21

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is Gadeirydd ar gyfer 2020/21

Penderfyniad:

AIL ETHOL Y CYNGHORYDD ANNWEN HUGHES YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2020/21

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD AIL ETHOL Y CYNGHORYDD ANNWEN HUGHES YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2020/21

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Brynmor Hughes a’r Cynghorydd Dafydd Owen

 

 

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 208 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 2il o Ragfyr 2019 fel rhai cywir  

 

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd Rhagfyr 2il 2019 fel rhai cywir

 

7.

COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL pdf eicon PDF 293 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol:

 

1.            26-01-2021

2.            08-12-2020

3.            22-10-2020

4.            06-10-2020

5.            09-07-2020

6.            09-03-2020

7.            12-02-2020

8.            18-12-2019

9.            21-11-2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd, er gwybodaeth gofnodion yr Is bwyllgorau a gynhaliwyd

 

26-01-2021, 08-12-2020, 22-10-2020, 06-10-2020, 09-07-2020, 09-03-2020

12-02-2020, 18-12-2019 a 21-11-2019

 

 

8.

FFIOEDD ARFAETHEDIG TRWYDDEDAU TACSIS 2021/22 pdf eicon PDF 276 KB

I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo ffioedd arfaethedig ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

GWRTHOD Y CYNNIG I GODI’R FFIOEDD I’R LEFEL A ARGYMHELLWYD

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo ffioedd arfaethedig trwyddedau tacsi 2021/22. Atgoffwyd yr Aelodau bod y Pwyllgor  hwn, yn ôl yn 2013, wedi  penderfynu y byddai ffioedd tacsi yn cael eu hadolygu yn flynyddol a hynny i adennill costau yn llawn. Amlygwyd nad oedd ffioedd Gwynedd wedi newid ers 2019.

 

Wrth asesu’r sefyllfa ac ystyried sgil effeithiau argyfwng covid 19 ar y diwydiant, awgrymwyd nad oedd cyfiawnhad dros gynyddu’r ffioedd yn sylweddol am y flwyddyn ariannol nesaf, ond i’r Pwyllgor ystyried cynnydd chwyddiant dros y ddwy flynedd diwethaf yn unig ar gyfer pob ffi trwyddedu tacsi. Amcangyfirifwyd y byddai hyn yn gyfystyr a chynnydd o 2.56% ar bob ffi trwydded.

 

Argymhellwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo codi’r ffioedd i’r lefel arfaethedig yn ddarostyngedig i ymgynghoriad gyda’r diwydiant tacsi ac ymgynghoriad drwy rybudd cyhoeddus.

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac hefyd am y gefnogaeth roedd yr Uned Trwyddedu wedi ei roi i’r diwydiant tacsi dros gyfnod yr argyfwng

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio’r penderfyniad i gynyddu’r ffioedd am flwyddyn gan wneud cais i’r Adran Cyllid ddefnyddio arian ychwanegol mae wedi ei dderbyn gan y Llywodraeth mewn ymateb i effeithiau covid 19.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i godi’r ffioedd gan y byddai angen torri arian o wasanaeth arall i gau’r bwlch.

 

Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·         Cydymdeimlwyd gyda’r diwydiant tacsi, a phob diwydiant arall sydd wedi dioddef yn sgil effaith covid 19

·         Bod angen gwarchod ein cymunedau

 

·         O gynyddu’r ffioedd, £8 yw’r codiad mwyaf

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chymharu’r ffioedd gyda chynghorau eraill ar draws y Gogledd, ymddengys bod ffioedd Gwynedd, yn gyffredinol, yn gorwedd yn ‘y canol’.

 

Ategodd Pennaeth Cynorthwyol - Amgylchedd bod yr egwyddor o adennill costau yn unig wedi ei sefydlu yn 2013 ac os nad yw’r gwasanaeth yn adennill y costau hynny drwy godi ffioedd, yna, byddai rhaid ceisio arian o rywle arall. Adroddwyd nad oedd y ffioedd wedi codi ers 2019 a bod y diwydiant wedi derbyn cefnogaeth drwy ffynhonellau ariannol ychwanegol i fod ynsaffdros gyfnod yr argyfwng.

 

Pleidleiswyd ar y cynnig i godi’r ffioedd

 

PENDERFYNWYD GWRTHOD Y CYNNIG I GODI’R FFIOEDD I’R LEFEL A ARGYMHELLWYD