Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Is GADEIRYDD I ethol Is gadeirydd am 2015/16 COFNODION: PENDERFYNWYD ethol y
Cynghorydd Caerwyn Roberts yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu hwn am 2015/16. |
|
CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am 2015/16 COFNODION: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Angela Russell yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu hwn am 2015/16. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Llywarch Bowen Jones, Linda Morgan a Mike Stevens ynghyd a’r Cynghorydd Gethin
Glyn Williams nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor yma ar gyfer eitem 11 |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid arwyddo cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 24 Chwefror, 2015, fel rhai cywir COFNODION: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 24 Chwefror
2015 fel cofnod cywir o’r cyfarfod |
|
ARBEDION EFFEITHLONRWYDD 2015/16 - 2017/18 Aelod Cabinet:
Cynghorydd John Wynn Jones Ystyried Adroddiad Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol COFNODION: a)
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet
yn amlygu gofynion y Cabinet i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ystyried yn
ehangach gynllun arbedion effeithlonrwydd yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i
drefn wahanol o newid lampau stryd. Bydd sylwadau’r Pwyllgor Craffu yn cael ei
gyfeirio yn ôl i’r Cabinet am benderfyniad terfynol. Mae’r drefn newid
crynswth yn golygu bod y Cyngor yn newid lampau ar amlder o 3 blynedd mewn un
stryd neu ardal, er bod rhai llusernau yn parhau i weithio. Yn sgil
datblygiadau diweddar mewn technoleg
goleuo, lle gwelir oes weithredol lampau megis LED yn ymestyn dros fwy o
flynyddoedd, mae’n disodli’r angen am drefn grynswth. O ganlyniad gellid
diddymu'r drefn o newid lampau ar amlder o 3 blynedd a rhagwelir y gall hyn
sicrhau arbedion o £97,000 yn flynyddol i’r Cyngor mewn costau cynnal goleuadau
stryd. Yn ychwanegol, drwy gyflwyno lampau LED mae swîts rheoli goleuo megis
pylu yn caniatáu ymestyn oes y llusern ymhellach. Bydd hyn hefyd yn lleihau
costau ynni ac allyriadau carbon. b)
Mewn ymateb gwnaed y
sylwadau canlynol: -
Bod yr egwyddor yn cael
ei groesawu ond angen sicrwydd bod y goleuni yn ddigonol -
Rhaid sicrhau nad oed
effaith ar ddiogelwch y cyhoedd -
Bod oes y lampau newydd o 7 – 10 mlynedd yn gywir a
realistig -
Bod angen ystyried bod
gofynion gwahanol ar gyfer gwahanol wardiau. Y newid eisoes wedi ei groesawu
mewn rhai cymunedau -
Bod angen cynnal
trafodaethau gyda’r cynghorau cymuned o ran awgrymu syniadau a threfniadau
diffodd -
Beth fydd yn digwydd i’r
trydanwyr gan na fydd agen newid lampau mor aml? -
Sut mae’r cynllun yn
cydymffurfio a chreu statws awyr dywyll? c)
Mewn ymateb i’r sylwadau
nodwyd bod gan y Cyngor 17 mil o lampau a bod y cynllun yn golygu newid 10 mil
ohonynt i dechnoleg LED (1mil ohonynt yn rhannol – nos). Amlygwyd bod y Cabinet
wedi cytuno i’r Adran ddefnyddio £1.4m o gyllid buddsoddi i arbed y Cyngor i
wneud y gwaith am y rheswm y bydd y lampau LED newydd yn cynnig 260k o arbedion
costau ynni. Yn ychwanegol, nodwyd bod creu effaith pylu a defnyddio lampau LED
yn cydymffurfio a chynllun awyr dywyll; bod y goleuadau newydd yn taflu
golau i’r llawr yn hytrach nac i fyny ac i’r ochr; bod pylu am gael ei dreialu
mewn rhai wardiau rhwng 10 yr hwyr a 6 y bore. O ran cynnal y newid, amlygwyd y
bydd angen un trydanwr yn llai ar gyfer newidiadau crynswth ac un trydanwr
ychwanegol am gyfnod o dair blynedd ar gyfer y newidiadau LED. Ar ôl pedair
blynedd bydd rhaid rhesymoli nifer y trydanwyr er bydd angen cynllun yn ei le
erbyn hynny i gyflwyno lampau addas ar gyfer y ffyrdd a’r cyffyrdd. ch) O ran diogelu’r gymuned, rhaid arfer gyda’r goleuadau cyn dod i farn arbennig bod newid i ymddangosiad y golau yn beryg. Rhaid cadw safonau o ran diogelu’r cyhoedd ac felly os bydd unrhyw achos sydd yn peri pryder, bydd rhaid tynnu sylw'r ... view the full COFNODION text for item 7. |
|
DEFNYDD O HAWLIAU GORFODAETH Aelod Cabinet: Cynghorydd John Wyn Jones Ystyried Adroddiad Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol COFNODION: a) Adroddwyd bod y Pwyllgor Craffu Cymunedau, wrth drafod eu rhaglen waith
am y flwyddyn yn y gweithdy blynyddol, wedi blaenoriaethu ymchwiliad craffu i
drefn cynllunio'r Cyngor ac y buasai rhaid i unrhyw ymchwiliad craffu arall
gael ei gynnal wedi i’r ymchwiliad hwnnw gael ei gwblhau. Er hynny, nodwyd bod
yr Aelod Cabinet a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol wedi
cynnig yr angen am ymchwiliad craffu i’r defnydd o hawliau gorfodaeth. -
pa mor hir y byddant yn
fodlon disgwyl cyn gweithredu -
edrych ar y maes yn gynt
a derbyn trafodaeth gychwynnol ynglŷn â chyfleon a phosibiliadau. b)
Cyflwynwyd adroddiad gan
y Cynghorydd John Wyn Jones yn cynnig awgrymiadau cychwynnol ar gyfer sefydlu cylch
gorchwyl i gynnal ymchwiliad craffu i’r maes Gorfodaeth Stryd yn ystod 2015/16.
Amlygwyd bod cyfrifoldebau Gwasanaeth Stryd Cyngor Gwynedd yn ymestyn i godi
ymwybyddiaeth ac addysgu’r cyhoedd ar sicrhau amgylchedd glan a diogel, monitro perfformiad glendid strydoedd, rheoli
cŵn, sbwriel, graffiti a phosteri, gwaredu slei bach, cyflwyno gwastraff,
gwastraff masnachwyr, trosglwyddo gwastraff a dyletswyddau gofal. Adroddwyd bod y
maes gorfodaeth yn faes sydd angen sylw gan y Cyngor ynglŷn â sut mae symud
ymlaen a sut i gael y gorau i’r rhai hynny sydd yn ceisio rheolaeth. Nodwyd bod
materion gorfodaeth stryd yn enwedig rheoli baw cŵn yn un o bwysigrwydd
mawr i drethdalwyr ac y dylid rhoi sylw ar sut i gael y gorau o reoli’r
gwasanaeth yn effeithiol. Nodwyd hefyd barodrwydd yr adran am farn gyffredinol ar y sefyllfa ac i geisio
awgrymiadau modern ar sut i fynd ati i ddelio a materion gorfodaeth stryd. Amlygwyd bod
ymateb i’r materion yn un heriol gydag adnoddau prin i gynnal maes eang iawn
mewn cyfnod o doriadau ac arbedion effeithlonrwydd. O ganlyniad awgrymwyd bod y mater yn cynnig
ei hun i gael ei graffu ac y dylid ystyried syniadau newydd (cymharu ag awdurdodau eraill a chydweithio
yn rhanbarthol i geisio cyflwyno gwasanaethau) ac nid
craffu gwaith y Cyngor yn unig. c)
Mewn ymateb i’r sylwadau
nodwyd, -
bod diffyg biniau baw
cyn mewn ardaloedd lle mae'r broblem amlycaf -
angen hyfforddiant a
chyhoeddusrwydd pendant a phenodol -
angen amlygu defnydd y
bin aml pwrpasol gwyrdd -
angen cadarnhad o
drefniadau’r gwasanaeth – pwy sydd yn casglu? Pwy sydd yn gosod y biniau? -
cais i ystyried
cydweithio yn fwy effeithiol gyda chynghorau cymuned PENDERFYNWYD
YMATEB I GAIS YR AELOD CABINET A PHENNAETH PRIFFYRDD A BWRDEISTREFOL DRWY
FLAENORIAETHU YMCHWILIAD CRAFFU I FAES GORFODAETH STRYD DROS Y DREFN
CYNLLUNIO |
|
Aelod Cabinet:
Cynghorydd Dafydd Meurig Ystyried Adroddiad Pennaeth Rheoleiddio COFNODION: ARCHWILIAD MANWL
YR ASIANTAETHAU SAFONAU BWYD AR DREFNIADAU CYNGOR GWYNEDD AR GYFER GORFODAETH
DEDDF DIOGELWCH BWYD 1990: 6ed a 7fed Mawrth 2014 - Adroddiad diweddaru a)
Ail ddiweddarodd y
Cynghorydd Dafydd Meurig ar y cynnydd a wnaed gan Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd
i ymdrin â chanfyddiadau Archwiliad Manwl yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).
Atgoffwyd yr aelodau bod Cynllun Gweithredu wedi ei baratoi oedd yn manylu ar
sut roedd y gwasanaeth yn bwriadu cywiro’r diffyg cydymffurfiaeth. Cafodd y
cynllun gweithredu sêl bendith yr ASB yn ystod Hydref 2014 a sefydlwyd
Grŵp Tasg a Gorffen i gwblhau’r gwaith a fanylwyd. Nodwyd yn yr adroddiad
bod y cynllun gweithredu yn manylu 13 maes ar gyfer cwblhau gwelliannau. b)
Amlygwyd bod yr Uned
bellach wedi dileu’r diffygion cydymffurfiaeth ffurfiol a adnabuwyd yn ystod yr
ymchwiliad. Adroddwyd hefyd bod cyfrifoldeb ar y Cyngor i sicrhau ein bod yn
cwrdd â gofynion argymhellion yr ymchwiliad cyhoeddus a gorfodaeth deddfwriaeth
mewn busnesau newydd a dylai ymdrechion diweddar y gwasanaeth barhau.
Nodwyd bod yr ASB wedi adrodd eu bwriad i gynnal archwiliad llawn o
weithgareddau’r Uned Bwyd yn y dyfodol
agos. c)
Holiwyd yr Aelod Cabinet
os oedd yr ASB yntau wedi rhoi sylwadau ar y cynllun gweithredu neu roi sêl
bendith yn unig. Mewn ymateb, nodwyd bod yr ASB wedi cynnig cefnogaeth ar y
trefniadau gwaith a bod y gwelliannau wedi eu datblygu ar y cyd - y gwasanaeth
yn hyderus eu bod yn dderbyniol. Adroddwyd bod addasiadau i drefniadau gwaith
wedi eu cyfeirio at yr ASB, ond dim adborth ysgrifenedig wedi ei dderbyn hyd
yma. PENDERFYNWYD croesawu’r y diweddariad a
llongyfarchwyd y tîm ar eu gwaith o sicrhau bod trefniadau mewnol yr adran yn
cydymffurfio gydag argymhellion yr Ymchwiliad Cyhoeddus i’r achosion o E-coli 0157 yn Ne Cymru ym Medi 2005 a bod yr holl amcanion
wedi eu cyflawni. |
|
BRIFF YMCHWILIAD CRAFFU - Y DREFN CYNLLUNIO Aelod Cabinet:
Cynghorydd Dafydd Meurig
a) Cyflwyno crynodeb sgopio ar gyfer Ymchwiliad Craffu b) Ystyried aelodau i wasanaethu ar yr Ymchwiliad Craffu COFNODION: a)
Amlygodd yr Uwch Reolwr
Democratiaeth a Chyflawni yn sgil y drafodaeth a gafwyd ar ddechrau’r cyfarfod
ynglŷn â rhoi blaenoriaeth i ymchwiliad craffu i faes gorfodaeth stryd bod amserlen yr ymchwiliadau craffu bellach
wedi newid. O ganlyniad, awgrymwyd bod yr aelodau yn derbyn y briff a chynnig
sylwadau. b)
Cyflwynwyd cais gan yr
Aelod Cabinet i gynnal ymchwiliad craffu i drefn cynllunio'r Cyngor. Gwnaed
awgrym y dylid sicrhau bod y drefn gynllunio yn cyd fynd ag anghenion
cymunedau’r Sir ac yn rhoi ystyriaeth lawn i
faterion fel yr economi wrth
wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio yn ogystal â ffactorau eraill.
Nodwyd hefyd bod yr ymchwiliad yma yn benodol berthnasol i Ardal Awdurdod
Cynllunio Cyngor Gwynedd yn unig, gan mai Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw’r
Awdurdod Cynllunio ar gyfer ardal y Parc. c)
Nodwyd bod swyddogion yr
Adran cynllunio yn fodlon gyda’r briff. Atgoffwyd yr aelodau bod y system
gynllunio yn gweithredu o fewn fframwaith statudol a bod rhaid deall y
fframwaith polisïau yn genedlaethol ac yn lleol. Yn ogystal, croesawyd yr angen
i edrych yn fanylach ar sut mae’r Cyngor yn gweithredu o fewn y drefn statudol
honno. ch) Mewn ymateb amlygwyd yr angen i roi wyneb cyhoeddus i’r adran
cynllunio a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd. O ran ymchwilio yn benodol i
gyfundrefn gynllunio'r Cyngor yn unig, nodwyd y buasai cymhlethdod yn codi o
gynnwys y Parc Cenedlaethol. Ychwanegwyd bod cydweithio da rhwng adrannau
cynllunio'r Parc a’r Cyngor, ond ar gyfer yr ymchwiliad rhaid rhoi'r ffocws ar
adran cynllunio'r Cyngor. Nodwyd bod y Parc yn ymwybodol bod yr ymchwiliad
craffu ar draul. Amlygwyd hefyd bod newidiadau statudol i’r drefn cynllunio yn
cael eu hamlygu yn Bil Cynllunio Llywodraeth Cymru sydd yn cynnig trefniadau
newydd i symleiddio a chysoni’r broses ar draws holl Awdurdodau Cymru. d)
Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth -
Rhaid sicrhau mai'r
cwsmer sydd yn cael cyfiawnder - angen eglurder i’r drefn -
Cynnig yr angen i
‘gerdded drwy’r profiad / y broses’ drwy greu
senarios enghreifftiol, gan gynnwys y Cynghorau Cymuned, fel man cychwynnol i’r
ymchwiliad. -
cyfarwyddyd clir ar
gyfer cyflwyno neu ymateb i gais -
cynnal rhaglen
hyfforddiant i aelodau o’r drefn -
ystyried trefn
Pwyllgorau Cynllunio -
sicrhau cysondeb gyda
Bil Cynllunio PENDERFYNWYD DERBYN Y BRIFF gan amserlennu’r
ymchwiliad i mewn i raglen waith y Pwyllgor Craffu ar gyfer Mawrth 2016. |
|
ATEBOLRWYDD Y GWASANAETH TÂN AC ACHUB GOGLEDD CYMRU Ystyried Adroddiad Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol COFNODION: a) Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol i graffu
trefniadau’r Cyngor i herio effeithlonrwydd ac atebolrwydd yr Awdurdod Tân.
Nodwyd bod gan yr Awdurdod Tân yr hawl
i osod praesept ar gynghorau Gogledd Cymru er mwyn
talu am y gwasanaeth. Mae’r praesept yma yn cyfrif yn
erbyn gwariant y Cyngor. Eglurwyd bod
hyn yn wahanol i braesept yr Awdurdod Heddlu sydd yn
cael codi praesept ar wahân. Fel enghraifft, amlygwyd
praesept y Gwasanaeth Tân ar Gyngor Gwynedd yn
2015/16 yn £5,603,000. Felly byddai pob cynnydd o 1% yn £56,030 pellach i’r
Cyngor ei ganfod mewn toriadau neu godiad treth b) O ran herio effeithlonrwydd y Gwasanaeth Tân,
fel pob gwasanaeth arall o fewn y Cyngor, rhaid ystyried os oes cyfleoedd i fod
yn fwy effeithlon. Er hynny, ar gyfer y Gwasanaeth Tân nid yw’r cyfle gennym
fel Cyngor ac felly rhaid ymddiried yn ein cynrychiolwyr ar yr Awdurdod i
sicrhau bod hynny ‘n digwydd. O ganlyniad , gwahoddwyd cynrychiolwyr y
Cyngor ar yr Awdurdod i’r Pwyllgor hwn er mwyn cynnal asesiad cychwynnol
o’r wybodaeth sydd ganddynt fod y
gwasanaeth yn effeithlon, a pha dystiolaeth sydd yna i gefnogi hynny. Holiwyd
cynrychiolwyr y Cyngor am -
Gynlluniau’r Awdurdod i geisio cynnydd pellach
yn y praesept yn y blynyddoedd nesaf a’r goblygiadau hynny i wasanaethau’r Cyngor ei
hun -
Drefniadau’r Awdurdod Tân ei hun ar gyfer herio effeithlonrwydd y
Gwasanaeth a’r dystiolaeth ei fod mor effeithiol ag y gallai fod -
Barodrwydd yr Awdurdod i edrych ar ardaloedd eraill tebyg sydd yn gwario
llai i asesu a oes gwersi y gellir dysgu ganddynt -
Y graddau y mae syniadau effeithlonrwydd pellach yn cael eu gwyntyllu -
Rôl aelodau unigol o’r Cyngor yn craffu a sicrhau atebolrwydd ar
drefniadau’r Awdurdod a’r graddau y maent yn medru gweithredu’r rolau hynny c)
Mewn ymateb, amlygodd y
cynrychiolwyr bod nifer o opsiynau yn cael eu cynnig o ran gwella
effeithlonrwydd y Gwasanaeth Tân ac nad oedd cynrychiolwyr Gwynedd yn gefnogol
i dderbyn cynnydd pellach i’r praesept. Nodwyd bod Is
Banel Craffu wedi ei sefydlu o fewn y Gwasanaeth Tân i sicrhau tegwch wrth
drafod opsiynau. Amlygwyd bod trafodaeth yr Is Bwyllgor yn cael i gyfeirio
ymlaen i’r Panel Gweithredol ac yna ymlaen i’r Prif Bwyllgor. O ran cefnogaeth
i rôl yr aelodau, nodwyd bod y cynrychiolwyr yn cysylltu â’r
Adran Gyllid i gael gwybodaeth ynglŷn â materion ariannol. Ychwanegwyd bod
y Gwasanaeth Tân erbyn hyn yn ymateb i geisiadau am wybodaeth. Hoffai’r
cynrychiolwyr weld dyletswyddau cyllid y Gwasanaeth Tân yn cael eu rhannu (ar hyn o bryd Conwy sydd yn
gweinyddu). Prif amcan y cynrychiolwyr oedd gwarchod Gwynedd ac yn enwedig
gwasanaethau cefn gwlad. ch) Yn
ychwanegol, amlygodd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni bod Prif Weithredwr y Cyngor wedi derbyn llythyr yn
nodi presenoldeb y cynrychiolwyr i gyfarfodydd yr Awdurdod. Ymddengys pryder
yng nghyd-destun presenoldeb un o
gynrychiolwyr Gwynedd. PENDERFYNWYD, i) Datgan bodlonrwydd y Pwyllgor gyda’r herio y mae cynrychiolwyr y Cyngor ar yr Awdurdod Tan wedi bod yn ei wneud ... view the full COFNODION text for item 11. |