Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Craig ab Iago, Stephen
Churchman, Annwen Hughes, Linda Morgan, Nigel Pickavance a Mike Stevens |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd yr
aelod canlynol fuddiant personol am y rhesymau a nodir: ·
Y Cynghorydd Angela Russell yn eitem 7 ar y
rhaglen, oherwydd bod ei merch yn denant ac yn gyn-gadeirydd Bwrdd Cartrefi
Cymunedol Gwynedd . Roedd yr
Aelod o’r farn ei fod
yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu
a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth
ar y cais a nodir. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 22.9.16 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a
gynhaliwyd ar 22 09 2016 fel cofnod cywir o’r cyfarfod. |
|
CYFEIRIAD Y STRATEGAETH TAI A RÔL Y CYMDEITHASAU PDF 411 KB Ystyried yr adroddiad Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad, i ennyn trafodaeth ar flaenoriaethau Strategaeth Partneriaeth Tai
Gwynedd 2013 – 2017. Nodwyd rôl y cymdeithasau tai i gyflawni’r blaenoriaethau
hyn ynghyd a sut bydd rhai materion yn cael eu cyfarch wrth adolygu'r
Strategaeth ar gyfer y cyfnod 2017 -
2021. Amlygodd y Rheolwr
Strategol Tai bod Cymdeithasau Tai yn darparu mwy na chartrefi a bod yr
adroddiad yn cyfeirio at yr hyn sydd wedi ei gwblhau ynghyd a’r prif
lwyddiannau dros gyfnod y strategaeth. Ymddengys buddion ychwanegol megis
cyfleoedd gwaith a chyfleoedd i bobl
symud ymlaen yn y farchnad dai. Er hynny, eu prif bwyslais yw adeiladu
datblygiadau o’r newydd sydd yn cael eu hariannu drwy grantiau gan Lywodraeth
Cymru. Amlygwyd bod Llywodraeth Cymru
wedi gosod targed cyflenwad o 20,000 o unedau erbyn diwedd y Llywodraeth nesaf
sydd yn rhoi pwyslais a brys ar
Gynghorau a Chymdeithasau Tai i ymateb. Y Cyngor sydd yn penderfynu
blaenoriaethau strategol y datblygiadau hyn drwy gydweithio a chyfeirio’r Cymdeithasau Tai i ardaloedd lle targedir
ardaloedd gwahanol wedi eu rhannu yn ôl yr angen. Bydd y broses yn adnabod
darpar denantiaid drwy'r Polisi Gosod a’r Tîm
Opsiynau Tai. Cyfeiriwyd at Rôl y Wardeiniaid Ynni sydd yn dyngedfennol o ran
cyflwyno a hyrwyddo cynlluniau. Nodwyd bod nifer o Bartneriaid y Bartneriaeth
yn cyfrannu tuag ar y rôl yma - enghraifft o gynlluniau ynni yw ‘Nyth’ a
‘Cartrefi Clud’. Ynghyd â
datblygiadau newydd, eglurwyd bod y Bartneriaeth yn canolbwyntio ar faterion
digartrefedd a’r Ddeddf Tai drwy
gydweithio gyda Chymdeithasau Tai a Thîm Cefnogi Pobl i ddarparu gwasanaethau i
drigolion mwyaf bregus ein cymdeithas. Nodwyd, wrth adolygu’r strategaeth y
bydd angen i’r partneriaid, fel darparwyr a hyrwyddwyr, fod yn ganolog i
sicrhau bod y berthynas yn parhau. Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol: ·
Bod rhai ardaloedd yn parhau i weld angen ·
Beth yw gweledigaeth y Cymdeithasau Tai? ·
Rhaid gwneud mwy i gadw pobl yn lleol - angen hyder
yn y drefn gosod ·
Pam adeiladu o’r newydd? - angen edrych ar y
sefyllfa o dai ar werth a thai gwag ·
Treth llofftydd gwag yn gost ychwanegol i’r tenant ·
Bod adeiladu o’r newydd yn gallu creu geto tu allan i gymunedau lle gwelir pobl yn symud o ganol
pentrefi i fyw ar y cyrion. ·
Angen cynlluniau sydd yn cynnwys mwy o fyngalos ·
Rhaid edrych yn fanwl ar y tymor hir o ran
addasrwydd tai - rhaid cael gweledigaeth tymor hir Cydnabuwyd bod y
sefyllfa yn heriol gydag anawsterau a
thrafferthion sylweddol i wneud yr hyn sydd yn bosib gyda’r adnoddau sydd ar
gael. Amlygwyd bod y Strategaeth yn gadarn - y capasiti i weithredu ac ariannu'r cynlluniau sydd yn heriol Mewn ymateb i'r pryder am y drefn gosod, cydnabuwyd bod pwyslais wedi bod yn y gorffennol i osod o fewn amserlen dynn, ond bellach bod cydnabyddiaeth i edrych ar gael y tenant cywir i’r lleoliad cywir. Derbyniwyd yr awgrym i gysylltu gyda’r Aelod Lleol mewn ardaloedd lle mae rhestri gwan neu sefyllfa, lle efallai, ceir rhybudd ymlaen llaw am dy gwag. Nodwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CARTREFI CYMUNEDOL GWYNEDD (2015-2016) PDF 677 KB Ystyried yr adroddiad Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
Adroddiad Blynyddol Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) 2015 - 2016. Cyfeiriwyd at
y Cytundeb Trosglwyddo a nodwyd bod yn ofynnol iddynt nodi sut maent wedi gwireddu’r addewidion a wnaed i
denantiaid yn y Ddogfen Gynnig a gweithredu goblygiadau dan y Cytundeb
Trosglwyddo. Amlygwyd bod canlyniadau'r adroddiad yn galonogol ac yn cael
effaith gwerthfawr ar yr economi. Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Llongyfarchwyd CCG ar dderbyn gwobr
Caffael Cenedlaethol Cymru ac ar eu
hadroddiad budd cymdeithasol positif. ·
Cymeradwywyd datblygiadau
o’r newydd, ond angen sicrhau
mwy o unedau ar gyfer pobl
hŷn ac unedau un llofft. ·
Angen datrys cyfrifoldebau cynnal tiroedd mewn
lleoliadau aml-berchnogaeth, gan roi ystyriaeth i’r diffyg hyblygrwydd yn y
trefniadau talu ·
Dirywiad safonau ceginau, er enghraifft yn debygol
o ddod gyda'i gilydd ac felly rhagweld y bydd angen buddsoddiad pellach ·
Cais i gryfhau cyswllt yr aelodau lleol - adnodd
gwerthfawr i bontio cysylltiadau Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chwmni allanol yn llunio’r adroddiad, nodwyd bod proses
tendro wedi ei dilyn oedd yn agored i bawb ac mai cwmni o Belfast oedd wedi
llwyddo. Amlygwyd bod Menter Môn a chwmni o Bae Colwyn wedi cyfrannu mewnbwn
lleol i’r adroddiadau Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gofal cwsmer, nodwyd bod ystadegau gofal cwsmer yn is na’r
disgwyl ac mai'r gwasanaeth trwsio oedd yn rhan
o hyn. O ganlyniad, nodwyd bod y sefyllfa yn cael ei
adolygu a bod gwaith yn cael ei
wneud i drawsnewid er mwyn gwella
effeithlonrwydd gofal cwsmer. Adroddwyd bod peilot wedi ei wneud a bod pethau yn ymddangos
yn well. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â derbyn yr adroddiad, adroddodd y Rheolwr Strategol Tai
bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal pob 6 mis gyda CCG i adolygu’r gwerthoedd a’r
addewidion. Derbyniwyd bod nifer o addewidion wedi eu gaddo,
ond bellach teimlwyd bod CCG wedi cyflawni'r addewidion hynny ac felly derbyn
bod hyn wedi ei gwblhau. Cadarnhawyd hyn gan yr Aelod Cabinet. Amlygodd Prif
Weithredwr CCG bod y cwmni bellach yn symud i gyfnod o ddatblygu ac eisiau
cyflawni mwy o fewn cymunedau. Gwaed cais iddynt gael eu trin fel partner
cyfartal - fel y gwasanaethau tai
eraill. Diolchwyd i bawb am eu cyfraniad ac i gynrychiolwyr Cartrefi Cymunedol Gwynedd am fynychu’r cyfarfod. Penderfynwyd ·
Derbyn y cyngor
proffesiynol bod CCG wedi cyflawni addewidion y Ddogfen Gynnig yn amodol ar y
pwyntiau isod: ·
Croesawu y dylid cadw perthynas agos gyda CCG hyd
yn oed ar ôl cwblhau addewidion y Cytundeb ·
Llongyfarch
llwyddiant y broses caffael gyda’r buddsoddiad a gafwyd yn lleol ·
Bod angen datrys
cyfrifoldebau cynnal tiroedd mewn Stadau Tai Aml berchnogaeth ·
Bod angen chwilio
i fodlonrwydd cwsmer yn dilyn perfformiad is na’r disgwyl gydag awgrym i
ymestyn y cynllun peilot os yw yn profi yn llwyddiannus ·
Bod angen sicrhau bod y rhaglen waith yn cynnwys
buddsoddiad i sicrhau bod safon y stoc yn gyson ar draws y Sir |
|
EFFAITH Y DIWYGIAD LLES AR DAI PDF 226 KB Ystyried yr adroddiad Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd dwy
ddogfen i’r Aelodau - un yn rhannu briff gweithdy diweddar a drefnwyd gan y
Cymdeithasu Tai a Chyngor Gwynedd i drafod oblygiadau'r Lwfans Tai Lleol ynghyd
a drafft cychwynnol o gynllun gweithredu. Amlygodd y Rheolwr
Strategol bod y rhaglen waith yn ddogfen fyw yn bennaf oherwydd y bydd
newidiadau pellach mewn trefniadau budd-daliadau ar y gorwel. Pwysleisiwyd bod
angen bod yn effro i’r newidiadau hyn ac i’r effaith ar drigolion y Sir. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol: ·
Cap isel yng Ngwynedd ac
felly angen tynnu sylw cenedlaethol at hyn. Rhaid codi ymwybyddiaeth ar
anhawster o ganfod eiddo i’w rentu ·
Bod y sefyllfa yn ddigalon, yn anodd a diflas i
deuluoedd bregus ·
Awgrym i gysylltu gyda’r Aelodau Seneddol a’r Aelod
Cynulliad ·
Rhaid ystyried
methodoleg – angen adolygu cap Gwynedd ·
Rhaid plethu'r cynllun gyda Strategaethau eraill
Sirol e.e., Yr Economi - rhaid ceisio cael mwy o bobl i waith - plethu gyda
strategaethau uwch i geisio datrysiad Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â gwaith yn cael ei wneud i adnabod teuluoedd fyddai yn
teimlo effaith newidiadau mewn budd daliadau (Budd-dal Tai a Budd-dal Gwaith
-addasiadau 7.11.16), nodwyd bod 53 teulu wedi eu hadnabod gan Cartrefi
Cymunedol Gwynedd (CCG) sydd mewn sefyllfa fregus. Nodwyd bod CCG yn cydweithio
gyda Thîm Rent ac yn paratoi ymlaen llaw i geisio
datrysiad. Yng nghyd-destun Credyd Cynhwysol amlygwyd bod 60 unigolyn wedi ei
adnabod a bod CCG yn gweithio yn agos gyda Cynefin i geisio
datrysiad. Amlygwyd bod rhaid i’r gwaith o adnabod tenantiaid bregus barhau. Penderfynwyd ·
Croesawu bod y cynllun gweithredu wedi cael ei
gyflwyno. ·
Bod angen tynnu sylw’n genedlaethol bod y cap mor
isel yng Ngwynedd - rhaid canfasio i addasu'r fethodoleg a phwyso i’w newid. Cynigiwyd gwahodd yr Ysgrifennydd y Cabinet
dros Gymunedau a Phlant i drafod y
sefyllfa yng Ngwynedd ·
Bod angen parhau i gyd-weithio gyda thenantiaid i’w
rhybuddio am effaith y newidiadau |