Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Elwyn
Edwards, Berwyn Parry Jones Keith Jones a Gethin Glyn Williams Cydymdeimlwyd gyda’r Cynghorydd Seimon Glyn oedd wedi colli ei dad yn ddiweddar |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 7.12.17 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 07.12 2017 fel cofnod cywir o’r cyfarfod |
|
BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS - Y CYNLLUN LLESIANT (drafft) PDF 248 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Dyfrig Siencyn Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Arweinydd y Cyngor
yn gofyn i Aelodau’r Pwyllgor graffu cynnwys Cynllun Llesiant (drafft) Gwynedd
a Môn a chyflwyno unrhyw sylwadau. Eglurwyd bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
yn ddilyniant o’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol a bod awydd a phenderfyniad i
weithredu yn wahanol i’r Bwrdd blaenorol i sicrhau gwahaniaeth. Adroddwyd mai
cam cyntaf y broses oedd cyhoeddi cynllun llesiant oedd yn amlinellu sut y
bwriedir gwella llesiant trigolion y ddwy Sir. Ategwyd bod cyfnod o dri mis o
ymgynghori statudol ar y cynllun oedd yn amlinellu’r egwyddorion yn fras
(fyddai yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth) ac yn dilyn y cyfnod yma bydd y Bwrdd
yn ystyried yr ymatebion cyn llunio Cynllun Llesiant terfynol. Amlygodd yr Arweinydd, fel aelod o’r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus, ei fod yn edrych ymlaen at greu partneriaethau newydd
fyddai yn datblygu prosiectau. Derbyniwyd y gall fod yn ddiwydiant ‘creu geiriau’, ond yr ewyllys yw gweld
canlyniadau drwy ymateb i’r her o weithio mewn dulliau gwahanol. Gyda dyfodiad
yr ardaloedd llesiant hyn yn galluogi canolbwyntio o few ardaloedd penodol -
adnabod anghenion ardaloedd gwahanol - anelu gwaith i’r mannau sydd angen sylw. Pwysleisiwyd mai un o’r partneriaid yw
Cyngor Gwynedd ac mai penderfyniad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fydd cynnwys
y cynllun terfynol. Ategwyd bod ymdrech i greu dogfen ddealladwy
fyddai yn cynnal sgwrs gyda chymunedau drwy geisio diffinio lles. Anogwyd yr
Aelodau i annog pobl i wneud sylwadau ar y ddogfen ymgynghori. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau
unigol: ·
Bod y ddogfen yn un i’w chroesawu sydd yn adnabod
materion a dyheadau dealladwy. ·
Anodd yw cyfarch a gweithredu. Er canmol yr hyn
sydd angen sylw, dim adnodd i weithredu. ·
Methiant nad oedd datrysiadau e.e., elfennau o
annog cydweithio, wedi eu cynnwys. Dechrau da, ond angen gosod targedau ac
ymgysylltu yn effeithiol. ·
Angen cynnig rhesymau i bobl aros yng Ngwynedd ·
Y ddogfen yn gosod sylfaen dda ond dim gwerth os
nad oes gweithrediad. ·
Bydd rhaid newid diwylliant os am weithredu yn
effeithiol ·
Croesawu gwaith ymchwil cefndirol da sydd yn gosod
sylfaen i symud ymlaen ·
Derbyn bod angen gosod blaenoriaethau megis yr
Iaith Gymraeg, Iechyd a Thlodi, ond angen gweld grymuso cymunedau yn ganolig i
bob dim gan ystyried prosiectau fyddai’n arbed arian. ·
Gweithredu ar gyflwyniad deddfau Llywodraeth Cymru
ond dim adnodd i weithredu. ·
Swyddi o safon uchel yn allweddol, ond dim awgrym
sut i’w cael. Canolrif cyflog Môn yn
uwch na ffigwr Cymru gyfan – sut all Môn, fel Sir gyfochrog, fod gymaint uwch
na Gwynedd? Gofynwyd am wybodaeth manwl gan yr Uwch Reolwr Cefngoaeth Gorforaethol.
·
Bod yr economi yn hanfodol bwysig. ·
Cyllid yn ffactor sydd yn cyfyngu'r gallu i
gyflawni - angen ceisio meddwl mewn dulliau gwahanol ·
Rhaid blaenoriaethu swyddi gwerth uchel a
chyflenwad tai i annog pobl i aros yn lleol ·
Awgrym creu Pencampwr Swyddi Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r economi, eglurwyd bod y Cyngor wedi adnabod bod cydweithio ar draws y Gogledd yn gweithio, ond o safbwynt adfywio cymunedol, derbyniwyd nad oedd digon o sylw ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYDBWYSEDD CYNALIADWYEDD PDF 224 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig Ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: CYDBWYSEDD CYNALIADWYEDD – STATWS AWYR DYWYLL Cyflwynwyd
adroddiad gan Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn dilyn cais gan y Pwyllgor Craffu
am fwy o wybodaeth ynglŷn â Statws Awyr Dywyll. Adroddwyd ar fanylion
cefndirol ynghyd a manteision i ddynodiad ardal o warchodfa awyr dywyll. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau
unigol: ·
Bod
manteision amlwg i’r statws, yn enwedig ei effaith ar yr amgylchedd a byd natur ·
Bod
newidiadau i oleuadau stryd wedi cael effaith bositif ·
Bod
angen sicrhau cydbwysedd statws yn erbyn iechyd a diogelwch ·
Rhaid
rhoi ystyriaeth i bryderon cymunedau lleol ·
Wrth
ystyried dynodiad awyr dywyll i Lŷn angen gosod cyd-destun ·
Ni
ddylid defnyddio polisïau i wrthod ceisiadau yng nghyd-destun diogelwch ·
Bod angen cynllun rheoli i
fesur effaith - awgrym i osod gwaelodlin a mesur yr effaith mae unrhyw
newidiadau wedi ei gael ar yr amgylchedd, er enghraifft. Croesawyd y sylw o
ddarparu cynllun rheoli. Mewn ymateb i’r sylwadau ynglŷn â chanfod
cydbwysedd statws yn erbyn iechyd a diogelwch nodwyd bod nifer o ystyriaethau
ynglŷn â sicrhau statws awyr dywyll. Gyda phob achos yn unigryw, ategwyd
bod rhaid cydbwyso a dehongli tystiolaeth ar gyfer pob achos yn ei dro. Penderfynwyd
derbyn y
wybodaeth |
|
CYNLLUN DIRPRWYO CYNLLUNIO PDF 420 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig Ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth
yr Adran Amgylchedd am y cynllun dirprwyo cynllunio (drafft) newydd oedd yn cynnwys
yr addasiadau a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Craffu. Atgoffwyd yr Aelodau bod ymchwiliad craffu i faes cynllunio
wedi cael ei gwblhau gan
Aelodau o’r Pwyllgor Craffu a bod y cynllun dirprwyo yn un o’r meysydd gafodd
ei ymchwilio. Un o argymhellion yr ymchwiliad craffu hwnnw oedd addasu
trothwyon y cynllun dirprwyo. Cyfeiriwyd at y cynllun dirprwyo arfaethedig oedd wedi ei gynnwys
gyda’r adroddiad ynghyd a’r buddion
amlwg ac eang o weithredu’r newidiadau. Amlygwyd mai un o’r buddion
hynny fyddai cyfeirio llai o geisiadau i raglen
y Pwyllgor Cynllunio. Ar
sail y canran uchel o geisiadau sydd yn cael
eu cyfeirio ar hyn o bryd,
nodwyd y byddai’r newidiadau yn sicrhau
bod y Pwyllgor yn canolbwyntio ar ymdrin â materion sydd o wir ddiddordeb
iddynt yn unig. Byddai hyn
yn gwneud y defnydd gorau o amser ac arbenigedd aelodau’r Pwyllgor a’r swyddogion perthnasol. Cydnabuwyd a chefnogwyd
fod yr hawl
sydd gan yr Aelod Lleol
neu ddau aelod arall i
alw cais i bwyllgor o dan
amgylchiadau penodol, yn parhau fel
y sefyllfa bresennol ac ystyriwyd hyn yn
dderbyniol. Gofynnwyd i’r Pwyllgor gadarnhau a chefnogi’r drafft o’r cynllun dirprwyo
arfaethedig cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn
ar argymhelliad y Swyddog Monitro gan ei fod
yn fater cyfansoddiadol. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau
unigol: ·
Nad
yw nifer y ceisiadau sydd yn mynd gerbron y Pwyllgor Cynllunio yn ormodol.
Pwrpas y Pwyllgor Cynllunio yw gwneud penderfyniadau. ·
Hapus
gyda’r drefn bresennol – angen cadw at drefn ddemocrataidd ·
Derbyn bod y newidiadau yn
arbed adnoddau ac amser, ond a yw hyn yn golygu y byddai ceisiadau sydd yn
peidio cael eu cyfeirio at bwyllgor yn derbyn llai o sylw ·
Angen
ystyried natur y gwrthwynebiadau yn hytrach na’r niferoedd ·
Dylid
ystyried cyflwyno cais i bwyllgor ‘fyddai o ddiddordeb’ - bod hyn a hyn o
ohebiaeth yn golygu ‘creu diddordeb’ hyd yn oed os mai un rheswm yn unig sydd
dros wrthod / caniatáu. ·
Derbyn bod gan yr Aelodau
Lleol hawl i gyfeirio cais i Bwyllgor - hyn yn fanteisiol ac yn sicrhau'r farn
leol. Er hynny, gall greu sefyllfa fregus i Aelodau Lleol os yn agored i
gyhuddiadau am eu barn. ·
Er mwyn rhoi ystyriaeth i’r
sefyllfa hyd yn hyn, gofynnwyd am wybodaeth gan yr Uwch Reolwr Cynllunio am
faint o geisiadau a gyfeiriwyd at y Pwyllgor Cynllunio, faint o’r ceisiadau
hynny a aeth i apêl a faint o’r apeliadau a lwyddodd. Mewn ymateb i’r sylwadau
nododd yr Uwch Gyfreithiwr bod angen cael cydbwysedd ac nad oedd y newidiadau
yn cwestiynu sut mae’r Pwyllgor Cynllunio yn gwneud penderfyniadau. Amlygodd
bod gan yr Aelodau rôl allweddol i gyfeirio ceisiadau ymlaen er mwyn sicrhau'r
elfen leol. Pwrpas y newidiadau yw sicrhau bod y ceisiadau sydd yn cael eu
trafod yn y pwyllgor yn rhai o sylwedd. Mewn ymateb i’r sylwadau nododd yr Uwch ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
DIWEDDARAID YMCHWILIAD CRAFFU CYNLLUNIO A'R IAITH GYMRAEG PDF 347 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig Derbyn diweddariad ar waith yr ymchwiliad Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (Cadeiriwyd yr eitem
yma gan Is Gadeirydd y Pwyllgor, y Cynghorydd Mike Stevens, gan fod y Cadeirydd, y Cynghorydd Seimon Glyn yn aelod o’r
ymchwiliad). Croesawyd y Cynghorydd Aled Evans i’r cyfarfod oedd yn
aelod o’r ymchwiliad ac yn cynrychioli'r Pwyllgor Iaith) Cyflwynwyd
diweddariad ar yr ymchwiliad craffu
i gynllunio a’r iaith Gymraeg
gan gadeirydd yr Ymchwiliad, y Cynghorydd Gruffydd Williams. Tynnwyd
sylw at y prif ganfyddiadau ac amlygodd y byddai’r canfyddiadau, ynghyd â sylwadau’r Pwyllgor yn cael eu
cynnwys mewn adroddiad fydd yn cael ei
gyflwyno i’r Panel Polisi Cynllunio ar y Cyd 9.3.18. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau
unigol: ·
Bod
niferoedd siaradwyr Cymraeg Gwynedd yn disgyn ac felly angen gwneud rhywbeth i
gynnal hyn ·
Rhaid
i asesiad iaith fod yn annibynnol ac yn dryloyw. Croesawu hyn fel cam pendant
ymlaen ·
Awgrym
i ystyried 3 annedd mewn datblygiad ar hap yn hytrach na 5 ·
Bod
angen ystyried effaith cronnol ·
Bod
angen gwybodaeth am effaith y datblygiadau Cymeradwywyd y gwaith hyd yn hyn ynghyd a’r camau nesaf. Ategwyd bod angen i’r wybodaeth fod yn gadarn
a bod iaith yn rhan annatod i’r drefn cynllunio yma yng Ngwynedd. |