Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Stephen
Churchman, Catrin Wager a Gethin Glyn Williams |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi
unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 10.10.17 fel rhai cywir
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y
cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 10.10 2017 fel cofnod cywir o’r cyfarfod. |
|
ADOLYGIAD CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY PDF 401 KB Aelod Cabinet:
Cynghorydd Dafydd Meurig Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: a)
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn rhoi
diweddariad ar y cynnydd a wnaed gyda’r gwaith o baratoi adolygiad o’r Cynllun
Gwella Hawliau Tramwy. Adroddwyd bod y gwaith o baratoi’r Cynllun Gwella wedi
cael ei rannu’n ddau ran, sef adolygu a pharatoi
Datganiad Gweithredu. Wrth adolygu, ystyriwyd gwerthuso i ba raddau y
cyflawnwyd amcanion y cynllun blaenorol, asesu cyflwr presennol y rhwydwaith a
chanfod i ba raddau mae hawliau tramwy yn bodloni gofynion y cyhoedd. Er mwyn
sefydlu darlun o’r sefyllfa gyfredol, o safbwynt cyflwr y rhwydwaith a chanfod
barn y cyhoedd, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus drwy baratoi holiadur
digidol. Ategwyd bod 1,386 o ymatebion dilys wedi eu derbyn, oedd yn nifer
calonogol iawn. Eglurwyd bod y datganiad gweithredu drafft (a oedd wedi ei gynnwys gyda’r adroddiad.) yn ceisio adnabod y prif themâu gwaith a’r camau gweithredu ar gyfer y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy ac mai dyma fyddai sail ar gyfer paratoi rhaglenni gwaith manwl. Y gobaith yw sefydlu rhaglen waith realistig a chyraeddadwy yn ogystal ag osgoi rhai o wendidau’r cynllun blaenorol. b) Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau
canlynol: ·
Bod
y rhaglen yn un heriol o ystyried rhaglen arbedion y Cyngor ·
Bod
diffyg gwybodaeth am y mynediad sydd ar gael i’r cyhoedd ·
A
yw’r gyllideb yn ymateb i flaenoriaethau ymatebwyr yr holiadur? ·
Anodd
coelio nad oes mapiau o’r llwybrau ar gael ar wefan y Cyngor ·
A
oes cynlluniau pellach ar gyfer y dyfodol wedi eu hystyried petai praesept Cynghorau Cymuned yn lleihau
neu’n dod i ben? Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â
chyfraniad y Parc Cenedlaethol a Llwybr yr Arfordir i’r rhwydwaith, amlygwyd
bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyfrannu £80k y flwyddyn ond nad oedd manylion
manwl ar wariant y Parc Cenedlaethol. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â
blaenoriaethu themâu'r rhaglen waith, amlygwyd y byddai agweddau o bob thema yn
cael sylw, ond bod hyn yn ddibynnol ar yr adnoddau fydd ar gael. Mewn ymateb i sylw am y categorïau llwybrau
a phetai blaenoriaeth yn cael ei roi i gategori 1, beth fyddai yn digwydd i
gategori 4, amlygodd yr Aelod Cabinet mai anodd yw cadw balans rhwng y
categorïau ac nad oedd unrhyw fwriad i anwybyddu categori 4. Ategwyd y byddai’r
Uned yn parhau i archwilio, cydweithio a cheisio cadw mynediad yn agored. Mewn ymateb i sylw petai rhwystrau ar y
categorïau isaf, amlygwyd bod angen rhannu'r wybodaeth er mwyn ceisio datrys y
rhwystr. Ategwyd mai cyfrifoldeb y perchennog tir fydd adnewyddu giatiau a
chamfeydd. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â datblygu
mapiau ar y wefan, amlygwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal a bod angen
cefnogaeth Adran Gwefan y Cyngor i weithredu ymhellach. Nodwyd bod nifer wedi
holi am y gwasanaeth ac felly'r gobaith yw datblygu mapiau i’r dyfodol. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â'r posibilrwydd i Gynghorau Cymuned fethu ag ymdopi gyda chyfrifoldebau ychwanegol ac os oes deddfwriaeth statudol yn nodi bod angen i’r Cyngor sicrhau eu bod yn cynnal yr holl lwybrau, adroddwyd mai cyfrifoldeb y Cyngor yw sicrhau mynediad. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL PDF 531 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig a) Cefndir a phwrpas b) Cyflwyno crynodeb sgopio ar gyfer
Ymchwiliad Craffu c) Ystyried aelodau i wasanaethu
ar yr Ymchwiliad
Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: a) Cyflwynwyd er gwybodaeth adroddiad
gan yr Aelod
Cabinet yn gosod cefndir a phwrpas Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ynghyd a gwybodaeth ar sail y polisïau ar gyfer
CCA: Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy. Eglurwyd bod y CCA yn rhoi arweiniad
manwl a chlir ar sut y defnyddir
polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd gan Cyngor Gwynedd a Chyngor Môn yng Ngorffennaf 2017. Ategwyd bod gan bolisïau amrywiol y Cynllun rôl bwysig
i’w chwarae wrth gefnogi, cynnal
a chreu cymunedau trefol a gwledig nodedig a chynaliadwy, drwy sicrhau bod Cynghorau yn cwrdd â’u
dyletswyddau statudol i hyrwyddo datblygiad
cynaliadwy. Penderfyniad y Cyngor
Llawn 28ain Gorffennaf 2017
oedd blaenoriaethu CCA Cynnal
a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy wrth baratoi canllawiau'r Cynllun
Datblygu. Tynnwyd sylw at yr elfennau a ystyriwyd yn hanfodol ar gyfer
cymunedau nodedig a chynaliadwy ynghyd ac amcan strategol y Cynllun Datblygu
oedd yn ymwneud a lles yr Iaith Gymraeg a diwylliant - ategwyd bod cynnwys Polisi
PS1 yn gosod fframwaith polisi lleol wrth ystyried yr agweddau hyn. Cyflwynwyd
yr amserlen drafft oedd wedi ei gosod ar gyfer paratoi'r CCA gan amlinellu
pwysigrwydd cael y cyfle i graffu’r canllaw yn unol â dymuniad y Pwyllgor
(nodwyd bod yr amserlen wedi ei haddasu i gyfarch hyn). Mewn
ymateb i sylw ynglŷn â sail a defnydd
y TAN20, nodwyd bod mwy o fanylder yn y Cynllun Datblygu Lleol ac y
byddai’r canllawiau, unwaith y byddant wedi eu datblygu, gyda sail llawer
cryfach na’r hyn sydd yn y TAN20 sydd yn gyfyngedig ar rai gofynion. Petai
Arolygwr yn ochri safbwynt TAN20, nododd yr Uwch Reolwr Cynllunio y byddai yn
hyderus i gefnogi safiad ar y canllaw ac nid ar y TAN20, oherwydd byddai
penderfyniad yn seiliedig ar dystiolaeth ddiweddar. Awgrymwyd bod angen sicrhau
bod ymgeiswyr yn ymwybodol o hyn. Derbyniwyd y wybodaeth b) Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd briff drafft ymchwiliad
craffu Cynllunio a’r Iaith Gymraeg mewn ymateb i ddymuniad y Pwyllgor i graffu
bod proses ymgynghori ar y CCA Cynllunio
a’r Iaith Gymraeg yn un gynhwysol. Nododd bod y Fforwm Craffu wedi cytuno rhoi
blaenoriaeth i’r ymchwiliad a bod adnodd wedi ei adnabod i gefnogi’r
ymchwiliad. Ategwyd bod trafodaethau cychwynnol wedi eu cynnal ar y briff
gyda’r swyddogion perthnasol. Amlygwyd
y byddai’r ymchwiliad yn adrodd nôl i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ac i’r
Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd. Adroddwyd bod cais wedi ei gyflwyno i
Cyngor Môn graffu ar y cyd gyda Gwynedd, ond ni dderbyniwyd ymateb. Nodwyd y byddai angen hyd at 5 aelod i fod yn rhan
o’r ymchwiliad a fyddai yn cynnwys un aelod o’r Pwyllgor Iaith. Gwnaed
cais am swyddogaethau'r Panel Cynllunio ar y Cyd ac os oedd rôl statudol o
graffu gan y Panel. c) Penderfynwyd derbyn y briff ch) Enwebwyd y Cynghorwyr Seimon
Glyn, Gruffydd Williams ac Owain Williams ynghyd ac Aled Evans (Pwyllgor Iaith) |
|
YMCHWILIAD CRAFFU CYNLLUNIO - DIWEDDARIAD PDF 245 KB Aelod Cabinet : Cynghorydd Dafydd Meurig Derbyn adroddiad
gan yr Aelod Cabinet ar weithredu argymhellion yr Ymchwiliad Craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Derbyniwyd
adroddiad cynnydd gan yr Aelod Cabinet yn dilyn ymchwiliad craffu i’r maes
cynllunio. Amlygwyd prif ganfyddiadau’r ymchwiliad a rhoddwyd diweddariad ar yr
argymhellion a gyflwynwyd ym Mawrth 2017. b) Mewn
ymateb i sylw ynglŷn â’r argymhelliad i addasu trothwyon Cynllun Dirprwyo
Gwynedd, adroddwyd bod y gwaith bellach wedi derbyn cefnogaeth Aelodau’r
Pwyllgor gyda’r bwriad o fwrw ymlaen i wneud yr addasiadau yn ffurfiol drwy’r
drefn briodol. Ategwyd bod bwriad i’r cynllun dirprwyo gael ei gyflwyno i’r
Cyngor Llawn ym Mawrth 2018 . c) Derbyniwyd yr adroddiad |