Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Virtual Meeting
Cyswllt: Natalie Lloyd Jones 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Kevin Morris Jones, Linda Morgan, Glyn Daniels, Owain Williams ac Elwyn Edwards. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 25 Chwefror, 2021 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 25ain o Chwefror 2021, fel rhai cywir. |
|
BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS - CYNNYDD AR WIREDDU'R CYNLLUN LLESIANT PDF 365 KB I ystyried
yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a wnaed yn ystod y cyfarfod. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Reolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn diweddaru’r aelodau ar
gynnydd y ffrydiau gwaith. Ategwyd bod hyn yn statudol o dan y Ddeddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol. Nodwyd bod heriau wedi codi yn sgil y pandemig, fodd bynnag gwelwyd cynnydd mewn rhai mannau. Adroddwyd bod yr is-grwpiau
wedi ail ymafael ar eu cynlluniau gwaith ac bod y Bwrdd yn cynghori iddynt
ystyried eu briff gwreiddiol ac ystyried beth sydd wedi ei gyflawni ac beth
sydd eisoes angen ei wneud. Aethpwyd drwy’r adroddiad yn
fanwl gan tynnu sylw at y prif bwyntiau a fyddai o ddiddordeb i aelodau’r
Pwyllgor fel a ganlyn; - Nodwyd bod cydweithio yn
digwydd er mwyn cynyddu defnydd y Gymraeg o fewn cyrff cyhoeddus, er enghraifft
mewn derbynfeydd - Soniwyd am y gwaith sy’n
cyd-fynd a’r strategaeth tai er mwyn sicrhau mwy o gartrefi fforddiadwy yng
Ngwynedd. Ategwyd eu bod yn rhannu gwybodaeth a chydweithio er mwyn osgoi
dyblygu ar waith sydd eisoes yn digwydd. - Ysgrifennwyd at Lywodraeth
Cymru er mwyn atgyfnerthu pwysigrwydd argaeledd tai i gyfrannu at lesiant
cymunedau. - Cyfeiriwyd at waith ynghylch
newid hinsawdd, sef bod yr Is-Grŵp wedi cwrdd a Cyfoeth Naturiol Cymru a
rhannu eu datganiadau ardal. Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau:- - Diolchwyd y Rheolwr Rhaglen
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus am yr adroddiadau dan sylw. - Tynnwyd sylw at yr adroddiad
sy’n trafod ‘7 cam at llesiant’ a gofynnwyd i’r rheolwr a fyddai'n bosib
atgoffa o’r rhain yn ei hadroddiad nesaf er mwyn atgoffa’r Pwyllgor o beth sydd
angen ei wneud. - Cwestiynwyd ai tasg ar gyfer
yr adran Gynllunio yn gwerthuso safleoedd at berthynas tai i bobl leol. - Awgrymwyd mai edrych ar
gynlluniau a gwerthuso fforddiadwyedd a pholisïau y
dylai fod yn blaenoriaeth er mwyn osgoi dyblygu gwaith. - At berthynas ‘Newid
Hinsawdd’, rhannwyd bod gan eiddo lleol broblem gydag llifogydd ac eu bod wedi
derbyn cyngor ar gyfer ei warchod rhag difrod pellach. Gofynnwyd os byddai modd
rhannu gwybodaeth ychwanegol gyda trigolion mewn ardaloedd dan fygythiad o
lifogydd. Mewn ymateb i’r sylwadau,
nododd y Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y pwyntiau isod:- - Nodwyd mai briff yr
Is-grŵp gyda’r tai fforddiadwy oedd oedd edrych
ar datblygu ar y cyd, er enghraifft, edrych ar safleoedd segur i weld y sgôp am
eu ddatblygu. - Grŵp ychwanegol
technegol wedi rhoi ystyriaeth i hyn. - Diolchwyd am y sylwadau
ynghylch yr ffrwd Newid Hinsawdd a byddai’r sylwadau yn cael eu cyfleu yn ôl
cyn iddynt fynd allan i ymgysylltu. PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau a wnaed yn ystod y cyfarfod. |
|
TREFNIADAU TÂN GWYLLT PDF 109 KB I ystyried
yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a wnaed yn ystod y cyfarfod. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd yn gryno er mwyn egluro’r trefniadau
gwaith sydd yn gysylltiedig a thân gwyllt. Ategwyd yr Aelod Cabinet at hyn
gan nodi mai pwrpas yr adroddiad oedd ymateb i rhybydd o gynnig a daeth o’r
cyfarfod llawn o’r Cyngor. Eglurwyd bod gofynion statudol
yn ymwneud a gwerthiant tan gwyllt a storio’r tan gwyllt a pha mathau a
chaniateir ynghyd a chyfyngiadau sŵn a cyfnodau gwerthiant sydd yn bodoli. Mewn perthynas a rheoleiddio,
nodwyd bod gan y Cyngor pwerau statudol yn ymwneud a sŵn, ond bod angen
tystiolaeth wedi ei gasglu dros gyfnod. Nodwyd mai’r math o bethau sy’n cael eu
cyfeirio at gyda than gwyllt yw defnydd anghymdeithasol yn fwy na sŵn
cyffredinol. Trafodwyd rôl y Cyngor er mwyn
datrys hyn sef, cynnal ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth ar defnydd da,
cydweithio a’r Gwasanaeth Tân, paratoi datganiadau i’r wasg, defnyddio
cyfryngau cymdeithasol i hybu ymarfer da (cyfeiriwyd at enghraifft yn atodiad
2). Eglurwyd bod y gyfraith yn cyfyngu ar allu’r Cyngor i newid rheolau
ynghylch tan gwyllt. Yn ystod y drafodaeth,
cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:- - Croesawyd yr adroddiad ac
awgrymwyd bod angen diwygio’r cod tan gwyllt neu gosod cyfyngiadau ar
trwyddedau arwerthwyr a canllawiau pellach iddynt er mwyn osgoi defnydd
anghymdeithasol. - Codwyd pryder bod effaith ar
anifeiliaid ffarm sy’n arwain ar adegau at niwed i eiddo pan mae gwartheg yn
cael eu dychryn. - Gofynnwyd os fydd modd tynhau
cyfyngiadau ar werthwyr fel bod y niwed yma i anifeiliaid fferm ac eiddo yn
cael ei leihau. - Ategwyd bod rhan fwyaf o
drigolion yn dilyn y rheolau ac y lleiafrif sy’n anghymdeithasol ac yn eu
difodd o ganol mis Hydref ymlaen ac nid ar ddiwrnod tan gwyllt yn unig. - Gofynnwyd beth yw’r bwriad er
mwyn symud ymlaen a hyn, ac oes adroddiad ychwanegol yn dod yn ôl i’r Pwyllgor.
Awgrymwyd sefydlu is-grŵp i’w drafod sy’n cynnwys y Cynghorydd sydd wedi
rhoi y rhybydd o gynnig ymlaen. - Anghytunwyd yn aelod bod hyn
y fater broblemus, ategwyd mai dim ond bod yn oddefgar am ychydig o wythnosau’r
flwyddyn lle mae’r tan gwyllt yn digwydd sydd angen ar bobl. - Ategwyd bod y tan gwyllt yn
dod a llawer o hwyl i blant a phobl a bod sawl datrysiadau posib i perchenogion
anifeiliaid anwes fel eu cadw yn tŷ neu defnyddio meddyginiaeth. - Anghytunwyd a’r sylw uchod
gan egluro bod tan gwyllt wedi datblygu erbyn hyn i fod llawer fwy swnllyd ac
yn amharu ar bobl ar raddfa uwch. Mewn ymateb i sylwadau’r
aelodau, nodwyd:- - Bod cynghori prynwyr cyn y
digwyddiadau yn rhywbeth mae swyddogion yn ei wneud ers tro. Er mwyn gwella,
nodwyd bod modd wella hyn o ran diwygio’r canllawiau ac hefyd o ran y berthynas
sydd gennym efo’r gwerthwyr. - Er mwyn mynd a’r adroddiad yn
ei flaen, cytunwyd i adolygu’r ddarpariaeth a thrafod a’r Cynghorydd sydd wedi
cyflwyno’r cynnig. - Bod modd addasu a rhannu arfer da gyda gwerthwyr a defnyddwyr ... view the full COFNODION text for item 6. |
|
GWASANAETH GWARCHOD Y CYHOEDD PDF 200 KB I ystyried
yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (a) Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a wnaed yn ystod y
cyfarfod. (b) Argymell i’r Cabinet ystyried edrych ar raddau cyflogau staff
ar draws y Cyngor a sut maent yn cymharu â chyflogau cynghorau cyfagos. COFNODION: Rhoddwyd rhagair gan yr Aelod
Cabinet dros Amgylchedd yn nodi mai adroddiad i amlinellu gwaith pwysig yr
adran Gwarchod y Cyhoedd yn ystod cyfnod y pandemig
sydd gerbron yr aelodau heddiw. Ategwyd bod llawer iawn o waith cefndirol yn
digwydd ac yn anaml y byddai pawb yn clywed am y gwaith hwn sy’n rhan bwysig
o’r cyngor. Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Bennaeth yr Adran Amgylchedd ac ategwyd diolchiadau'r Aelod Cabinet i’r holl
staff yr adran. Aethpwyd ymlaen i nodi bod swyddogion a staff yn parhau i fod
yn brysur â materion ynghylch Covid-19 ar ben eu dyletswyddau arferol sy’n ail
gychwyn dros y cyfnod nesaf. Pwysleisiwyd bod y staff yn ymgymryd â’r
cyfrifoldebau yma er eu bod yn gweithio gyda niferoedd staffio is o ganlyniad i
ddegawd o doriadau. Ategwyd bod y toriadau wedi
arwain at ddiffyg gwydnwch o fewn yr adran bellach. Thynnwyd sylw at y math o
doriadau sydd wedi bod, er enghraifft yn 2011/12 roedd 63 o swyddogion o fewn
yr adran sydd bellach wedi disgyn at 42. Parhawyd i egluro effaith y toriadau
sef bod galw mawr am swyddogion sydd a’r arbenigedd angenrheidiol ac yn cwrdd â
gofynion y swydd. Trafodwyd elfen arall sy’n
ategu at ddiffyg gwydnwch o fewn yr adran, sef bod anghysondeb cyflogau’r
swyddi ar draws y siroedd yng Ngogledd Cymru. Eglurwyd bod Cyngor Gwynedd gyda
chyflogau is na siroedd eraill cyfagos a bod pryder y byddai swyddogion yn cael
eu colli gan fod rhai eisoes wedi symud i swyddi mewn siroedd eraill. Cyfeiriwyd at y datrysiadau i’r
pwysau ar y gwasanaeth gan gynnwys penodi swyddogion newydd gan ddefnyddio
arian o gronfa caledi. Parhawyd i drafod eu dyletswyddau cychwynnol sef
ymgysylltu efo cymunedau, ysgolion a busnesau lleol. Eglurwyd y byddai’r
swyddogion newydd yma gyda chyfleoedd i barhau fel technegwyr neu swyddogion
parhaol i’r adran yn y dyfodol. Yn ystod y drafodaeth,
cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:- - Diolchwyd am yr adroddiad yn
enwedig yn sgil newyddion am fathau gwahanol o Covid-19 sy’n ymddangos. Ategwyd
y bydd Covid-19 yma am gyfnod ac mae angen cynllunio ar gyfer y tymor hir. - Mewn perthynas â’r materion
ynghylch cyflogau, gofynnwyd a ydi’r swyddi yn cael eu harfarnu i adlewyrchu’r
nifer is o adrannau sydd erbyn hyn a’r llwyth gwaith ychwanegol. Ategwyd bod
angen cryfhau’r adran gan fod datblygiadau newydd gyda’r pandmeig. - Cytunwyd bod wir angen ail
edrych ar y raddfa cyflogau os yw swyddogion talentog yn cael eu colli i
siroedd sydd â chyflogau uwch am yr un swydd. - Codwyd pryder ynghylch faniau bwyd symudol sy’n cynyddu yn ystod y cyfnod hwn ac
os ydynt wedi derbyn y caniatâd cywir i weithredu, mewn perthynas ag hylendid
bwyd. - Datganwyd bod y toriadau
swyddi wedi mynd yn rhy bell o fewn yr adran, ac o ganlyniad mae gwir angen
recriwtio staff. Nodwyd o safbwynt cadw staff bod angen sicrhau cyflogau teg. - Gofynnwyd pwy sy’n gyfrifol
am gyflogi staff olrhain newydd yn sgil y niferoedd uchel sydd angen. - Cydnabuwyd bod Cyngor Gwynedd ... view the full COFNODION text for item 7. |